RHAN 1RHEOLEIDDIO TAI RHENT PREIFAT

Cofrestru

15Cofrestru gan awdurdod trwyddedu

1

Mae cais i fod yn gofrestredig i gael ei wneud i’r awdurdod trwyddedu ar gyfer yr ardal y mae’r annedd y mae’r cais yn ymwneud â hi wedi ei lleoli ynddi; a rhaid i’r awdurdod gofrestru’r landlord o fewn y cyfnod rhagnodedig os yw’r cais—

a

yn cael ei wneud ar y ffurf sy’n ofynnol gan yr awdurdod,

b

yn cynnwys y gyfryw wybodaeth ag sy’n rhagnodedig,

c

yn cynnwys y gyfryw wybodaeth arall ag sy’n ofynnol gan yr awdurdod, ac

d

wedi ei yrru ynghyd â’r ffi ragnodedig.

2

Os yw’r landlord yn gofrestredig, rhaid i’r awdurdod trwyddedu hysbysu’r landlord—

a

bod y landlord yn gofrestredig, a

b

am y rhif cofrestru sydd wedi ei neilltuo i’r landlord.

3

Ar yr achlysur cyntaf y bydd landlord yn cael ei gofrestru rhaid i awdurdod trwyddedu neilltuo rhif cofrestru i’r landlord.

4

Caiff awdurdod trwyddedu godi ffi ragnodedig bellach ar y landlord am barhau yn gofrestredig, ond ni chaiff wneud hynny—

a

cyn pen 5 mlynedd ar ôl y dyddiad y cofrestrwyd y landlord, a

b

cyn pen pob cyfnod o 5 mlynedd ar ôl y dyddiad y codwyd ffi ragnodedig bellach.