RHAN 1RHEOLEIDDIO TAI RHENT PREIFAT

Trwyddedu

I1I226Trwydded yn dod i ben neu yn cael ei hadnewyddu

1

Daw trwydded i ben ar ddiwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau gyda’r dyddiad y rhoddwyd y drwydded, oni bai bod deiliad trwydded yn gwneud cais i adnewyddu’r drwydded yn unol ag is-adran (2).

2

Caiff deiliad trwydded wneud cais i adnewyddu’r drwydded yn ystod y cyfnod o 84 o ddiwrnodau cyn y dyddiad y byddai’r drwydded fel arall yn dod i ben.

3

Pan fo cais yn cael ei wneud i adnewyddu trwydded yn unol ag is-adran (2) nid yw’r drwydded yn dod i ben nes i’r cais gael ei benderfynu ac nid yw’n dod i ben oni bai bod y cais yn cael ei wrthod.

4

Mae cais i adnewyddu trwydded i’w wneud a’i benderfynu yn unol ag adrannau 19 (gofynion cais am drwydded) i 21 (penderfynu ar gais).

5

Ond pan fo awdurdod trwyddedu yn adnewyddu trwydded, nid yw’r gofyniad yn is-adran (2)(a) o adran 21 i neilltuo rhif trwydded i ddeiliad y drwydded yn gymwys.

6

Lle gwrthodir cais i adnewyddu trwydded, daw’r drwydded bresennol i ben ar ba un bynnag o’r dyddiadau canlynol sy’n digwydd gyntaf—

a

pan nad yw deiliad y drwydded yn apelio yn erbyn y gwrthodiad o fewn y cyfnod apelio, pan ddaw’r cyfnod hwnnw i ben;

b

pan fo deiliad y drwydded yn apelio o fewn y cyfnod apelio ond yn tynnu’r apêl yn ôl yn ddiweddarach, dyddiad ei dynnu’n ôl;

c

pa fo deiliad y drwydded yn apelio o fewn y cyfnod apelio a’r tribiwnlys eiddo preswyl yn cadarnhau penderfyniad yr awdurdod trwyddedu, dyddiad penderfyniad y tribiwnlys (yn ddarostyngedig i baragraff (d));

d

pan fo deiliad y drwydded yn cyflwyno apêl bellach, y dyddiad y mae pob dull o apelio yn erbyn y penderfyniad wedi ei ddisbyddu a phenderfyniad yr awdurdod trwyddedu yn cael ei gadarnhau.

7

Y “cyfnod apelio” at ddibenion is-adran (6) yw’r cyfnod hwnnw a grybwyllir yn adran 27(3)(a) (apelau trwyddedu).

8

Mae trwydded yn dod i ben ac mae unrhyw gais a wneir gan ddeiliad y drwydded i’w hadnewyddu i’w drin fel pe bai wedi ei dynnu’n ôl pan fo deiliad trwydded—

a

yn marw;

b

yn achos corff corfforaethol, yn cael ei ddiddymu.