RHAN 1RHEOLEIDDIO TAI RHENT PREIFAT
Cyflwyniad
3Awdurdod trwyddedu
1
At ddibenion y Rhan hon rhaid i Weinidogion Cymru wneud y naill neu’r llall o’r canlynol drwy orchymyn—
a
dynodi un person fel yr awdurdod trwyddedu ar gyfer Cymru gyfan, neu
b
dynodi gwahanol bersonau fel awdurdodau trwyddedu ar gyfer gwahanol ardaloedd o Gymru a bennir yn y gorchymyn, ar yr amod nad oes gan yr un ardal fwy nag un awdurdod trwyddedu a bod yr holl ardaloedd gyda’i gilydd, yn cynnwys Cymru gyfan.
2
Mewn perthynas â Gweinidogion Cymru—
a
ni chaiff Gweinidogion Cymru ond dynodi person sy’n arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus mewn perthynas â Chymru yn llwyr neu yn bennaf;
b
caiff Gweinidogion Cymru eu dynodi eu hunain;
c
ni chaiff Gweinidogion Cymru ddynodi un o Weinidogion y Goron.
3
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud unrhyw ddarpariaeth y maent yn ei hystyried yn angenrheidiol neu’n hwylus mewn perthynas â dynodi person o dan yr adran hon.
4
Cyn gwneud gorchymyn o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw berson y maent yn bwriadu ei ddynodi (ac eithrio hwy eu hunain) a’r cyfryw bersonau eraill ag y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol.