RHAN 2DIGARTREFEDD
PENNOD 2CYMORTH I BOBL SY’N DDIGARTREF NEU O DAN FYGYTHIAD O DDIGARTREFEDD
Dyletswyddau i gynorthwyo ceiswyr
I1I2I478Penderfynu rhoi sylw i fwriadoldeb
1
Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, bennu categori neu gategorïau o geiswyr at ddibenion yr adran hon.
I32
Ni chaiff awdurdod tai lleol roi sylw i ba un a yw ceisydd wedi dod yn ddigartref yn fwriadol ai peidio at ddibenion adrannau 68 a 75 oni bai bod—
a
y ceisydd yn dod o fewn categori a bennir o dan is-adran (1) y mae’r awdurdod wedi penderfynu, mewn perthynas â'r categori hwnnw, rhoi sylw i ba un a yw ceiswyr o fewn y categori hwnnw wedi dod yn ddigartref yn fwriadol ai peidio, a
b
yr awdurdod wedi cyhoeddi hysbysiad am ei benderfyniad o dan baragraff (a) sy’n pennu’r categori hwnnw.
3
Mae is-adran (4) yn gymwys pan fo awdurdod tai lleol wedi cyhoeddi hysbysiad o dan is-adran (2) oni bai bod yr awdurdod wedi—
a
penderfynu rhoi’r gorau i roi sylw i ba un a yw ceiswyr sy’n dod o fewn y categori a bennir yn yr hysbysiad wedi dod yn ddigartref yn fwriadol ai peidio, a
b
wedi cyhoeddi hysbysiad am ei benderfyniad sy’n pennu’r categori.
4
At ddibenion adran 68 a 75, rhaid i awdurdod tai lleol roi sylw i ba un a yw ceisydd wedi dod yn ddigartref yn fwriadol ai peidio os yw’r ceisydd yn dod o fewn categori a bennir yn yr hysbysiad a gyhoeddwyd gan yr awdurdod o dan is-adran (2).