RHAN 2DIGARTREFEDD

PENNOD 2CYMORTH I BOBL SY’N DDIGARTREF NEU O DAN FYGYTHIAD O DDIGARTREFEDD

Darpariaethau atodol

I1I291Lleoli y tu allan i’r ardal

1

Rhaid i awdurdod tai lleol wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Bennod hon sicrhau neu gynorthwyo i sicrhau bod llety addas ar gael i’r ceisydd ei feddiannu yn ei ardal, i’r graddau y bo hynny’n rhesymol ymarferol.

2

Os yw’r awdurdod yn sicrhau bod llety ar gael i’r ceisydd ei feddiannu y tu allan i’w ardal yng Nghymru neu yn Lloegr, rhaid iddo roi hysbysiad i’r awdurdod tai lleol (pa un ai yng Nghymru neu yn Lloegr) y mae’r llety wedi ei leoli yn ei ardal.

3

Rhaid i’r hysbysiad nodi—

a

enw’r ceisydd,

b

nifer y personau eraill sy’n preswylio fel arfer gyda’r ceisydd fel aelod o’i deulu neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddynt breswylio gyda’r ceisydd, a disgrifiad o’r personau hynny,

c

cyfeiriad y llety,

d

y dyddiad y daeth y llety ar gael i’r ceisydd, ac

e

pa swyddogaeth o dan y Bennod hon yr oedd yr awdurdod yn ei chyflawni wrth sicrhau bod y llety ar gael i’r ceisydd ei feddiannu.

4

Rhaid i’r hysbysiad fod ar ffurf ysgrifenedig, a rhaid ei roi cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau gyda’r diwrnod y daeth y llety ar gael i’r ceisydd.