Deddf Tai (Cymru) 2014

94Gwarchod eiddo: darpariaethau atodolLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)At ddibenion adran 93 caiff yr awdurdod—

(a)mynd, ar bob adeg resymol, i unrhyw fangre sy’n breswylfa arferol i’r ceisydd neu a oedd yn breswylfa arferol i’r ceisydd ddiwethaf, a

(b)ymdrin ag unrhyw eiddo personol gan y ceisydd mewn unrhyw fodd sy’n rhesymol angenrheidiol, yn arbennig drwy ei storio neu drefnu iddo gael ei storio.

(2)Pan fo awdurdod lleol yn bwriadu arfer y pŵer o dan is-adran (1)(a), rhaid i’r swyddog y mae’n ei awdurdodi i wneud hynny ddarparu, os gofynnir iddo wneud hynny, ddogfennaeth ddilys yn nodi’r awdurdodiad i wneud hynny.

(3)Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn rhwystro arfer y pŵer o dan is-adran (1)(a) yn cyflawni trosedd a yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 4 ar y raddfa safonol.

(4)Pan fo’r ceisydd yn gofyn i’r awdurdod symud ei eiddo i leoliad penodol a enwebir gan y ceisydd—

(a)caiff yr awdurdod, os ymddengys iddo bod y cais yn un rhesymol, gyflawni ei gyfrifoldebau o dan adran 93 drwy wneud yr hyn y mae’r ceisydd yn gofyn amdano, a

(b)ar ôl gwneud hynny, nid oes ganddo unrhyw ddyletswydd bellach na phŵer pellach i gymryd camau o dan yr adran honno mewn perthynas â’r eiddo hwnnw.

(5)Os gwneir cais o’r fath, rhaid i’r awdurdod hysbysu’r ceisydd cyn cydymffurfio â’r cais am ganlyniadau gwneud hynny.

(6)Os na wneir unrhyw gais o’r fath (neu, os caiff ei wneud, nas gweithredir arno) mae unrhyw ddyletswydd neu bŵer ar ran yr awdurdod i gymryd camau o dan adran 93 yn dod i ben pan fydd o’r farn nad oes unrhyw reswm i gredu bellach bod yna berygl o golli neu niweidio eiddo personol person o ganlyniad i’w anallu i’w warchod neu i ymdrin ag ef.

(7)Ond caniateir cadw mewn storfa unrhyw eiddo sy’n cael ei storio yn rhinwedd y ffaith bod yr awdurdod wedi cymryd y cyfryw gamau ac mae unrhyw amodau y’i cymerwyd i storfa ar eu sail yn parhau i gael effaith, gydag unrhyw addasiadau angenrheidiol.

(8)Pan fo’r awdurdod—

(a)yn peidio â bod yn ddarostyngedig i ddyletswydd i gymryd camau o dan adran 93 mewn perthynas ag eiddo ceisydd, neu

(b)yn peidio â bod â’r pwerau i gymryd y cyfryw gamau, ar ôl cymryd y cyfryw gamau yn flaenorol,

rhaid iddo hysbysu’r ceisydd am y ffaith honno a’r rheswm dros hynny.

(9)Rhaid rhoi’r hysbysiad i’r ceisydd—

(a)drwy ei drosglwyddo i’r ceisydd, neu

(b)ei adael yng nghyfeiriad hysbys diwethaf y ceisydd, neu ei anfon yno.

(10)Mae’r cyfeiriadau yn yr adran hon at eiddo personol y ceisydd yn cynnwys eiddo personol unrhyw berson y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gyda’r ceisydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 94 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I2A. 94 mewn grym ar 27.4.2015 gan O.S. 2015/1272, ergl. 2, Atod. para. 45