RHAN 2LL+CDIGARTREFEDD

PENNOD 2LL+CCYMORTH I BOBL SY’N DDIGARTREF NEU O DAN FYGYTHIAD O DDIGARTREFEDD

CyffredinolLL+C

99Dehongli’r Bennod hon a mynegai o ymadroddion wedi eu diffinioLL+C

Yn y Bennod hon—

  • ystyr “llety cadw ieuenctid” (“youth detention accommodation”) yw—

    (a)

    cartref plant diogel;

    (b)

    canolfan hyfforddi ddiogel;

    (c)

    sefydliad troseddwyr ifanc;

    (d)

    llety a ddarperir, a gyflenwir ac a gynhelir gan Weinidogion Cymru o dan adran 82(5) o Ddeddf Plant 1989 at ddiben cyfyngu ar ryddid plant;

    (e)

    llety, neu lety o ddisgrifiad, a bennir am y tro [F3drwy reoliadau o dan adran 248(1)(f) o'r Cod Dedfrydu] (llety cadw ieuenctid at ddibenion gorchmynion cadw a hyfforddi);

  • mae i “llety sydd ar gael i’w feddiannu” (“accommodation available for occupation”) yr ystyr a roddir gan adran 56;

  • ystyr “lluoedd arfog rheolaidd y Goron” (“regular armed forces of the Crown”) yw’r lluoedd arfog rheolaidd fel y’u diffinnir gan adran 374 o Ddeddf y Lluoedd Arfog 2006;

  • mae i “o dan fygythiad o ddigartrefedd” (“threatened with homelessness”) yr ystyr a roddir gan adran 55(4);

  • mae i “person cyfyngedig” (“restricted person”) yr ystyr a roddir gan adran 63(5);

  • ystyr “rhagnodedig” (“prescribed”) yw wedi ei ragnodi mewn rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru;

  • mae i “rhesymol parhau i feddiannu llety” (“reasonable to continue to occupy accommodation”) yr ystyr a roddir gan adran 57;

  • mae i “tenantiaeth sicr” (“assured tenancy”) a “tenantiaeth fyrddaliol sicr” (“assured shorthold tenancy”) yr ystyr a roddir gan Ran 1 o Ddeddf Tai 1988;

  • mae i “yn derbyn gofal, yn cael ei letya neu’n cael ei faethu (“looked after, accommodated or fostered”) yr ystyr a roddir gan adran 70(2);

  • ystyr “yn gymwys i gael cymorth” (“eligible for help”) yw nad yw cymorth o dan y Bennod hon wedi ei wahardd gan Atodlen 2.

Diwygiadau Testunol

F3Geiriau yn a. 99 wedi eu hamnewid (1.12.2020) gan Sentencing Act 2020 (c. 17), a. 416(1), Atod. 24 para. 308(2) (ynghyd ag Atod. 27); O.S. 2020/1236, rhl. 2

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 99 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I2A. 99 mewn grym ar 1.12.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(b), Atod. Rhn. 2

I3A. 99 mewn grym ar 27.4.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1272, ergl. 2, Atod. para. 50