xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CCYNLLUNIAU FFIOEDD A MYNEDIAD

Cymeradwyo etc cynllun ffioedd a mynediadLL+C

7Cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediadLL+C

(1)Os gwneir cais i CCAUC i gymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad o dan adran 2, rhaid i CCAUC drwy roi hysbysiad i’r corff llywodraethu o dan sylw naill ai—

(a)cymeradwyo’r cynllun, neu

(b)gwrthod y cynllun.

(2)Ond ni chaiff CCAUC gymeradwyo cynllun oni bai ei fod wedi ei fodloni bod y sefydliad y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef o fewn adran 2(3).

(3)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch y materion sydd i’w hystyried gan CCAUC wrth wneud unrhyw benderfyniad mewn cysylltiad â chymeradwyo neu wrthod cynllun o dan yr adran hon.

(4)At ddibenion y Ddeddf hon, y cyfnod pan fo cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â sefydliad ac sydd wedi ei gymeradwyo o dan yr adran hon mewn grym yw’r cyfnod sy’n dechrau ar y diwrnod y’i cymeradwyir o dan yr adran hon, ac sy’n dod i ben ar ba un bynnag o’r canlynol sydd gynharaf—

(a)y diwrnod y daw’r cyfnod y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef i ben;

(b)os caiff cymeradwyaeth CCAUC i’r cynllun ei dynnu’n ôl drwy hysbysiad a roddir o dan adran 38 neu 39, dyddiad yr hysbysiad.

(5)Yn y Ddeddf hon—

(a)mae cyfeiriadau at gynllun a gymeradwywyd yn gyfeiriadau at gynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â sefydliad sydd wedi ei gymeradwyo o dan yr adran hon ac sydd mewn grym ar hyn o bryd;

(b)mae cyfeiriadau at sefydliad rheoleiddiedig yn gyfeiriadau at sefydliad y mae cynllun a gymeradwywyd yn ymwneud ag ef (ond gweler adrannau 26 a 27(8)).

(6)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i adran 37(5) (peidio â chymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd).

(7)Am y ddarpariaeth weithdrefnol ynghylch hysbysiad o dan is-adran (1)(b), gweler adrannau 41 i 44.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I2A. 7(1)(2)(4)-(7) mewn grym ar 1.1.2016 gan O.S. 2015/1327, ergl. 6(e)

I3A. 7(3) mewn grym ar 20.5.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 2(f)

I4A. 7(3) mewn grym ar 1.1.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1327, ergl. 6(e)

I5A. 7(5) mewn grym ar 25.5.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 3(b)

8Cyhoeddi cynllun a gymeradwywydLL+C

(1)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig gyhoeddi cynllun y sefydliad a gymeradwywyd.

(2)Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud drwy reoliadau o dan yr adran hon yn cynnwys darpariaeth ynghylch sut a phryd y mae cynllun i’w gyhoeddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I7A. 8 mewn grym ar 20.5.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 2(g)

9Amrywio cynllun a gymeradwywydLL+C

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth sy’n caniatáu i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig amrywio cynllun y sefydliad a gymeradwywyd.

(2)Rhaid i’r rheoliadau ddarparu mai dim ond os caiff amrywiad ei gymeradwyo gan CCAUC y mae i gymryd effaith.

(3)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch gwneud ceisiadau am gymeradwyaeth i amrywiad a phenderfynu ar y ceisiadau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I9A. 9 mewn grym ar 20.5.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 2(h)