RHAN 3ANSAWDD YR ADDYSG
Asesu ansawdd yr addysg
17Asesu ansawdd yr addysg
1
Rhaid i CCAUC asesu, neu wneud trefniadau ar gyfer asesu, ansawdd yr addysg a ddarperir yng Nghymru—
a
gan bob sefydliad rheoleiddiedig;
b
ar ran pob sefydliad rheoleiddiedig (pa un ai gan sefydliad rheoleiddiedig arall neu gan ddarparwr allanol).
2
At ddibenion is-adran (1), mae addysg a ddarperir y tu allan i Gymru i’w thrin fel pe bai wedi ei darparu yng Nghymru os y’i darperir fel rhan o gwrs a ddarperir yn bennaf yng Nghymru.
3
Yn y Ddeddf hon, mae cyfeiriadau at ddarparwr allanol yn gyfeiriadau at berson—
a
nad yw’n sefydliad rheoleiddiedig, ond
b
sy’n gyfrifol am ddarparu cwrs addysg cyfan, neu ran ohono, ar ran sefydliad rheoleiddiedig.
4
At ddibenion is-adran (3)(b)—
a
caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch yr amgylchiadau pan fo person i’w drin (neu nad yw i’w drin) fel person sy’n gyfrifol am ddarparu cwrs (neu ran ohono);
b
nid yw cwrs (neu ran ohono) i’w drin fel cwrs a ddarperir ar ran sefydliad rheoleiddiedig os y’i darperir o dan drefniadau gyda’r sefydliad hwnnw a wnaed cyn i’r adran hon ddod i rym.
Pwerau mewn cysylltiad ag addysg o ansawdd annigonol
18Addysg o ansawdd annigonol: cyffredinol
1
Mae adrannau 19 ac 20 yn gymwys os, o ganlyniad i arfer ei swyddogaethau o dan adran 17, mae CCAUC wedi ei fodloni—
a
bod ansawdd yr addysg a ddarperir gan neu ar ran sefydliad rheoleiddiedig, neu
b
bod ansawdd cwrs addysg penodol a ddarperir felly,
yn annigonol neu’n debygol o ddod yn annigonol.
2
At ddibenion y Ddeddf hon, mae ansawdd yr addysg neu gwrs addysg yn annigonol os nad yw’n ddigonol i ddiwallu anghenion rhesymol y rhai hynny sy’n cael yr addysg neu sy’n ymgymryd â’r cwrs.
19Cyfarwyddydau mewn cysylltiad ag ansawdd annigonol
1
Caiff CCAUC roi cyfarwyddyd i gorff llywodraethu’r sefydliad sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gymryd (neu beidio â chymryd) camau penodedig at y diben o—
a
gwella ansawdd yr addysg neu’r cwrs, neu
b
atal ansawdd yr addysg neu’r cwrs rhag dod yn annigonol.
2
Am y ddarpariaeth weithdrefnol ynghylch cyfarwyddydau o dan yr adran hon, gweler adrannau 41 i 44.
20Mesurau eraill mewn cysylltiad ag ansawdd annigonol
1
Caiff CCAUC roi cyngor neu gymorth i gorff llywodraethu’r sefydliad gyda golwg ar—
a
gwella ansawdd yr addysg neu’r cwrs, neu
b
atal ansawdd yr addysg neu’r cwrs rhag dod yn annigonol.
2
Caiff CCAUC gynnal, neu drefnu i berson arall gynnal, adolygiad o unrhyw faterion y mae o’r farn eu bod yn berthnasol i ansawdd yr addysg a ddarperir gan neu ar ran y sefydliad.
3
Rhaid i gorff llywodraeth ystyried unrhyw gyngor a roddir iddo o dan is-adran (1).
Cydweithredu o ran asesu ansawdd etc
21Asesu ansawdd etc: dyletswydd i gydweithredu
1
Rhaid i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig sicrhau y darperir i berson sy’n arfer swyddogaeth yn rhinwedd adran 17 neu 20 unrhyw wybodaeth, cymorth a mynediad i gyfleusterau’r sefydliad sy’n ofynnol yn rhesymol gan y person at y diben o arfer y swyddogaeth (gan gynnwys y diben o arfer unrhyw bŵer o dan adran 22).
2
Rhaid i gorff llywodraethu darparwr allanol sicrhau y darperir i berson sy’n arfer swyddogaeth yn rhinwedd adran 17 neu 20(2) unrhyw wybodaeth, cymorth a mynediad i gyfleusterau’r darparwr allanol ag sy’n ofynnol yn rhesymol gan y person at y diben o arfer y swyddogaeth (gan gynnwys y diben o arfer unrhyw bŵer o dan adran 22).
3
Os yw CCAUC wedi ei fodloni bod corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio ag is-adran (1) neu (2), caiff ei gyfarwyddo i gymryd (neu i beidio â chymryd) camau penodedig at y diben o sicrhau’r ddarpariaeth o wybodaeth, cymorth neu fynediad fel y’i disgrifir yn is-adran (1) neu (2) (fel y bo’n briodol).
Pwerau atodol at y diben o asesu ansawdd etc
22Asesu ansawdd etc: pwerau mynd i mewn ac arolygu
1
At y diben o arfer swyddogaeth yn rhinwedd adran 17 neu 20(2), caiff person awdurdodedig—
a
mynd i mewn i fangre sefydliad rheoleiddiedig neu ddarparwr allanol;
b
edrych ar ddogfennau y daw o hyd iddynt yn y fangre, eu copïo neu eu cymryd.
2
Yn is-adran (1)(b), mae cyfeiriadau at—
a
dogfennau yn cynnwys gwybodaeth wedi ei chofnodi ar unrhyw ffurf;
b
dogfennau y daw o hyd iddynt yn y fangre yn cynnwys—
i
dogfennau sydd wedi eu storio ar gyfrifiaduron neu ar ddyfeisiau storio electronig yn y fangre, a
ii
dogfennau sydd wedi eu storio mewn man arall ond gellir cael mynediad iddynt drwy gyfrifiaduron yn y fangre.
3
Mae’r pŵer a roddir gan is-adran (1)(b) yn cynnwys pŵer—
a
i’w gwneud yn ofynnol i berson ddarparu dogfennau;
b
i osod gofynion o ran sut y darperir dogfennau (a gaiff gynnwys gofynion i ddarparu copïau darllenadwy o ddogfennau sydd wedi eu storio’n electronig);
c
i edrych ar gyfrifiadur y mae dogfennau wedi eu creu neu eu storio arno neu ar ddyfais storio electronig y mae dogfennau wedi eu creu neu eu storio arni.
4
Ni chaniateir i bŵer a roddir gan yr adran hon ond gael ei arfer ar ôl rhoi hysbysiad rhesymol—
a
i gorff llywodraethu’r sefydliad rheoleiddiedig neu ddarparwr allanol y mae’r person awdurdodedig yn bwriadu arfer y pŵer mewn perthynas â’i fangre, a
b
corff llywodraethu unrhyw sefydliad rheoleiddiedig y mae’r sefydliad hwnnw neu’r darparwr allanol hwnnw yn darparu ar ei ran yr addysg y mae arfer y swyddogaeth o dan adran 17 neu 20(2) yn ymwneud â hi.
5
Nid yw is-adran (4) yn gymwys i arfer pŵer os yw’r person awdurdodedig wedi ei fodloni—
a
bod yr achos yn achos brys, neu
b
y byddai cydymffurfio â’r is-adran honno yn tanseilio’r diben o arfer y pŵer.
6
Yn yr adran hon, ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan CCAUC (pa un ai yn gyffredinol neu’n benodol) i arfer y pwerau a roddir gan yr adran hon.
7
Cyn arfer pŵer o dan yr adran hon, rhaid i berson awdurdodedig, os yw’n ofynnol iddo wneud hynny, ddangos copi o awdurdodiad y person o dan is-adran (6).
8
O ran y pwerau a roddir gan yr adran hon—
a
caniateir iddynt gael eu harfer ar adegau rhesymol yn unig;
b
ni chaniateir iddynt gael eu harfer i’w gwneud yn ofynnol i berson wneud unrhyw beth ac eithrio ar adeg sy’n rhesymol.
9
Nid yw’r pwerau a roddir gan yr adran hon yn cynnwys pŵer i fynd i mewn i annedd heb gytundeb y meddiannydd.
Canllawiau sy’n ymwneud ag ansawdd yr addysg
23Canllawiau ynghylch materion sy’n berthnasol i ansawdd
1
Caiff CCAUC ddyroddi neu gymeradwyo canllawiau ynghylch unrhyw fater sy’n berthnasol yn ei farn ef i wella neu gynnal ansawdd yr addysg a ddarperir gan neu ar ran sefydliadau rheoleiddiedig.
2
Cyn dyroddi neu gymeradwyo canllawiau o dan yr adran hon (neu unrhyw ganllawiau diwygiedig), rhaid i CCAUC ymgynghori â’r canlynol—
a
corff llywodraethu pob sefydliad rheoleiddiedig, a
b
unrhyw bersonau eraill sy’n briodol yn ei farn ef.
3
Rhaid i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig ystyried unrhyw ganllawiau a ddyroddir neu a gymeradwyir o dan yr adran hon.
24Canllawiau ynghylch meini prawf ar gyfer asesu ansawdd
1
Caiff CCAUC ddyroddi neu gymeradwyo canllawiau ynghylch—
a
y meini prawf sydd i’w cymhwyso gan berson sy’n arfer swyddogaeth yn rhinwedd adran 17 wrth asesu ansawdd yr addysg;
b
y materion y bydd CCAUC yn eu hystyried wrth benderfynu a yw ansawdd yr addysg, neu gwrs addysg, yn annigonol neu’n debygol o ddod yn annigonol.
2
Cyn dyroddi neu gymeradwyo canllawiau o dan yr adran hon (neu unrhyw ganllawiau diwygiedig), rhaid i CCAUC ymgynghori â’r canlynol—
a
corff llywodraethu pob sefydliad rheoleiddiedig, a
b
unrhyw bersonau eraill sy’n briodol yn ei farn ef.
Cyngor i CCAUC ynghylch swyddogaethau asesu ansawdd
25Pwyllgor i gynghori CCAUC ynghylch arfer swyddogaethau asesu ansawdd
1
Rhaid i CCAUC sefydlu pwyllgor i’w gynghori ar arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon.
2
Caiff CCAUC roi i’r pwyllgor unrhyw swyddogaethau eraill sy’n briodol yn ei farn ef.
3
Rhaid i un aelod o’r pwyllgor fod yn berson yr ymddengys i CCAUC ei fod yn cynrychioli buddiannau personau y darperir addysg uwch yng Nghymru iddynt.
4
O ran aelodau eraill y pwyllgor—
a
rhaid i fwyafrif fod yn bersonau nad ydynt yn aelodau o CCAUC;
b
rhaid i fwyafrif fod yn bersonau yr ymddengys i CCAUC fod ganddynt brofiad o ddarparu addysg uwch neu eu bod wedi dangos galluedd o ran darparu addysg uwch.
5
Wrth benodi personau o fewn is-adran (4)(b) i’r pwyllgor, rhaid i CCAUC ystyried dymunoldeb penodi personau sydd ar hyn o bryd yn ymwneud â darparu addysg uwch neu ag ymgymryd â chyfrifoldeb am ei darparu.
6
Mae Atodlen 1 i Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 yn gymwys o ran y pwyllgor fel y mae’n gymwys o ran pwyllgor a sefydlir gan CCAUC o dan baragraff 8 o’r Atodlen honno.
Atodol
26Cymhwyso’r Rhan hon pan fo sefydliad yn peidio â chael cynllun a gymeradwywyd
1
Mae’r adran hon yn gymwys—
a
pan fo cynllun ffioedd a mynediad sy’n ymwneud â sefydliad yn peidio â bod mewn grym, a
b
pan na fo cynllun ffioedd a mynediad newydd mewn grym mewn perthynas â’r sefydliad.
2
Mae’r Rhan hon yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas ag addysg a ddarperir gan neu ar ran y sefydliad drwy gwrs dynodedig.
3
At ddibenion cymhwyso’r Rhan hon yn rhinwedd is-adran (2), mae’r sefydliad i’w drin fel sefydliad rheoleiddiedig.
4
Mae cwrs dynodedig yn gwrs sydd wedi ei ddynodi at ddibenion adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan yr adran honno.