ATODLEN 4BYRDDAU GWASANAETHAU CYHOEDDUS: DIWYGIADAU CANLYNIADOL A DIDDYMU

I1I229Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (mccc 7)

Yn adran 2 (Cynlluniau ar y cyd ar gyfer darparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

2A

Caiff cynllun ei gofnodi drwy ei gynnwys o fewn cynllun llesiant lleol a gyhoeddir o dan adran 39 neu 44(5) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2) gan fwrdd gwasanaethau cyhoeddus y mae pob un o’r partneriaid yn aelodau ohono.