(1)Sefydlir swydd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru (y cyfeirir ato yn y Ddeddf hon fel y “Comisiynydd”).
(2)Rhaid i’r Comisiynydd fod yn unigolyn a benodir gan Weinidogion Cymru.
(3)Cyn gwneud y penodiad o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Cynulliad Cenedlaethol drwy ei bwyllgor cyfrifol.
(4)Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch y Comisiynydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I2A. 17 mewn grym ar 16.10.2015 gan O.S. 2015/1785, ergl. 2(e)