- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, Adran 32 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 27 Ebrill 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
(1)Dyma bartneriaid eraill bwrdd gwasanaethau cyhoeddus—
(a)cyngor cymuned ar gyfer cymuned mewn ardal sydd o fewn yr ardal awdurdod lleol (neu y mae unrhyw ran ohoni o fewn yr ardal awdurdod lleol) (ond gweler hefyd adran 40);
(b)ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru;
[F1(ba)Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru;]
F2(c). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(d)awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru y mae unrhyw ran ohono o fewn yr ardal awdurdod lleol;
(e)Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru;
(f)sefydliad yn y sector addysg bellach neu’r sector addysg uwch sydd wedi ei leoli yn gyfan gwbl neu’n rhannol o fewn yr ardal awdurdod lleol;
(g)Cyngor Celfyddydau Cymru;
(h)Cyngor Chwaraeon Cymru;
(i)Llyfrgell Genedlaethol Cymru;
(j)Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
(2)Wrth arfer ei swyddogaethau, rhaid i fwrdd—
(a)gofyn am gyngor ei bartneriaid eraill, a
(b)eu cynnwys fel arall yn y fath fodd ac i’r fath raddau ag sy’n briodol yn eu barn hwy.
(3)Yn is-adran (1)(f), mae i “sector addysg bellach” a “sector addysg uwch” yr un ystyr ag a roddir i “further education sector” a “higher education sector” yn Neddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13).
Diwygiadau Testunol
F1A. 32(1)(ba) wedi ei fewnosod (1.4.2023) gan Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (asc 1), a. 29(2), Atod. 3 para. 12(b); O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(t)
F2A. 32(1)(c) wedi ei hepgor (1.4.2023) yn rhinwedd Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (asc 1), a. 29(2), Atod. 3 para. 12(a); O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(t)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 56(2)
I2A. 32 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: