RHAN 2GWELLA LLESIANT
Amcanion llesiant
7Datganiadau ynghylch amcanion llesiant
1
Wrth gyhoeddi’r amcanion llesiant (gan gynnwys amcanion llesiant a adolygwyd o dan adran 8 neu 9) rhaid i gorff cyhoeddus hefyd gyhoeddi datganiad sy’n—
a
egluro pam y mae’r corff yn ystyried y bydd cyflawni’r amcanion yn cyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant;
b
egluro pam y mae’r corff cyhoeddus yn ystyried ei fod wedi gosod amcanion llesiant yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, gan gynnwys sut y mae’r corff yn bwriadu cynnwys personau eraill sydd â diddordeb mewn cyrraedd y nodau llesiant a sicrhau bod y personau hynny’n adlewyrchu amrywiaeth poblogaeth—
i
Cymru (pan fo’r corff yn arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru gyfan), neu
ii
y rhan o Gymru y mae’r corff yn arfer swyddogaethau mewn perthynas â hi;
c
nodi’r camau y mae’r corff cyhoeddus yn bwriadu eu cymryd i gyflawni’r amcanion hynny yn unol â’r egwyddor (gan gynnwys sut y mae’n bwriadu ei lywodraethu ei hun, sut y bydd yn parhau i adolygu’r camau a sut y mae’n bwriadu sicrhau bod adnoddau’n cael eu dyrannu’n flynyddol at ddiben cymryd camau o’r fath);
d
pennu’r cyfnodau erbyn pryd y mae’r corff yn disgwyl y bydd yn cyflawni’r amcanion;
e
darparu unrhyw wybodaeth arall y bydd y corff yn ei hystyried yn briodol ynghylch cymryd y camau a chyflawni’r amcanion.
2
Caniateir cynnwys amcanion llesiant corff cyhoeddus sydd hefyd yn aelod o fwrdd gwasanaethau cyhoeddus yng nghynllun llesiant lleol y bwrdd hwnnw (gweler Penodau 1 a 2 o Ran 4).