Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015

6Cyhoeddi ac adolygu strategaethau lleol

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid cyhoeddi strategaeth leol gyntaf awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol heb fod yn hwyrach na un flwyddyn ar ôl dyddiad cynnal yr etholiad arferol cyntaf wedi dyddiad cychwyn adran 5(1).

(2)Heb fod yn hwyrach nag un flwyddyn ar ôl dyddiad pob etholiad arferol dilynol, rhaid i awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol adolygu eu strategaeth leol.

(3)Mewn perthynas ag awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)cânt adolygu eu strategaeth leol ar unrhyw adeg arall, a

(b)rhaid iddynt adolygu eu strategaeth leol os cânt eu cyfarwyddo yn ysgrifenedig i wneud hynny gan Weinidogion Cymru.

(4)Rhaid i gyfarwyddyd o dan is-adran (3)(b) nodi’r rhesymau dros roi’r cyfarwyddyd.

(5)Os bydd awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu diwygio eu strategaeth leol ar ôl adolygiad, rhaid iddynt gyhoeddi’r strategaeth ddiwygiedig cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(6)Rhaid i awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy cyn—

(a)cyhoeddi eu strategaeth leol gyntaf;

(b)diwygio eu strategaeth leol.

(7)Yn yr adran hon, ystyr “etholiad arferol” yw etholiad a gynhelir o dan adran 26 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70) (ethol cynghorwyr i awdurdodau lleol).