RHAN 3CYDNABOD CYRFF DYFARNU
Meini prawf cydnabod
I1I45Dyletswydd i osod meini prawf cydnabod cyffredinol
1
Rhaid i Gymwysterau Cymru osod a chyhoeddi meini prawf cydnabod (“meini prawf cydnabod cyffredinol”) i’w cymhwyso ganddo at ddibenion adran 8 (cydnabod corff dyfarnu yn gyffredinol).
2
Caiff y meini prawf cydnabod cyffredinol wneud darpariaeth wahanol ar gyfer disgrifiadau gwahanol o gorff dyfarnu.
I2I56Pŵer i osod meini prawf cydnabod sy’n benodol i gymhwyster
1
Caiff Cymwysterau Cymru osod a chyhoeddi meini prawf cydnabod (“meini prawf cydnabod sy’n benodol i gymhwyster”) i’w cymhwyso ganddo at ddibenion adran 9 (cydnabod corff dyfarnu mewn ffordd sy’n benodol i gymhwyster).
2
Caiff y meini prawf wneud darpariaeth wahanol ar gyfer—
a
disgrifiadau gwahanol o gorff dyfarnu;
b
cymwysterau gwahanol neu ddisgrifiadau gwahanol o gymhwyster.
I3I67Diwygio meini prawf cydnabod cyffredinol a meini prawf cydnabod sy’n benodol i gymhwyster
1
Caiff Cymwysterau Cymru ddiwygio—
a
y meini prawf cydnabod cyffredinol;
b
y meini prawf cydnabod sy’n benodol i gymhwyster.
2
Os yw Cymwysterau Cymru yn diwygio’r meini prawf, rhaid iddo—
a
cyhoeddi’r meini prawf fel y’u diwygiwyd, a
b
pennu pa bryd y mae’r diwygiadau i gael effaith.
3
Rhaid i’r dyddiad a bennir o dan is-adran (2)(b) beidio â rhagflaenu’r dyddiad y cyhoeddir y meini prawf diwygiedig.