xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3LL+CCYDNABOD CYRFF DYFARNU

Meini prawf cydnabodLL+C

5Dyletswydd i osod meini prawf cydnabod cyffredinolLL+C

(1)Rhaid i Gymwysterau Cymru osod a chyhoeddi meini prawf cydnabod (“meini prawf cydnabod cyffredinol”) i’w cymhwyso ganddo at ddibenion adran 8 (cydnabod corff dyfarnu yn gyffredinol).

(2)Caiff y meini prawf cydnabod cyffredinol wneud darpariaeth wahanol ar gyfer disgrifiadau gwahanol o gorff dyfarnu.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)

I2A. 5 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)

6Pŵer i osod meini prawf cydnabod sy’n benodol i gymhwysterLL+C

(1)Caiff Cymwysterau Cymru osod a chyhoeddi meini prawf cydnabod (“meini prawf cydnabod sy’n benodol i gymhwyster”) i’w cymhwyso ganddo at ddibenion adran 9 (cydnabod corff dyfarnu mewn ffordd sy’n benodol i gymhwyster).

(2)Caiff y meini prawf wneud darpariaeth wahanol ar gyfer—

(a)disgrifiadau gwahanol o gorff dyfarnu;

(b)cymwysterau gwahanol neu ddisgrifiadau gwahanol o gymhwyster.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)

I4A. 6 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)

7Diwygio meini prawf cydnabod cyffredinol a meini prawf cydnabod sy’n benodol i gymhwysterLL+C

(1)Caiff Cymwysterau Cymru ddiwygio—

(a)y meini prawf cydnabod cyffredinol;

(b)y meini prawf cydnabod sy’n benodol i gymhwyster.

(2)Os yw Cymwysterau Cymru yn diwygio’r meini prawf, rhaid iddo—

(a)cyhoeddi’r meini prawf fel y’u diwygiwyd, a

(b)pennu pa bryd y mae’r diwygiadau i gael effaith.

(3)Rhaid i’r dyddiad a bennir o dan is-adran (2)(b) beidio â rhagflaenu’r dyddiad y cyhoeddir y meini prawf diwygiedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)

I6A. 7 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)