RHAN 3CYDNABOD CYRFF DYFARNU
Cyffredinol
4Cydnabod cyrff dyfarnu
1
Caiff Cymwysterau Cymru gydnabod corff dyfarnu o dan ddarpariaethau’r Rhan hon.
2
Mae Rhan 4 (cymwysterau blaenoriaethol a chymeradwyo cymwysterau) yn gwneud darpariaeth i gorff a gydnabyddir o dan y Rhan hon mewn cysylltiad â dyfarnu cymhwyster wneud cais i Gymwysterau Cymru i ffurf ar y cymhwyster hwnnw gael ei chymeradwyo.
3
Mae Rhan 5 (dynodi cymwysterau eraill) yn gwneud darpariaeth i gorff a gydnabyddir o dan y Rhan hon mewn cysylltiad â dyfarnu cymhwyster wneud cais i Gymwysterau Cymru i ffurf ar y cymhwyster hwnnw gael ei dynodi o dan adran 29.
Meini prawf cydnabod
5Dyletswydd i osod meini prawf cydnabod cyffredinol
1
Rhaid i Gymwysterau Cymru osod a chyhoeddi meini prawf cydnabod (“meini prawf cydnabod cyffredinol”) i’w cymhwyso ganddo at ddibenion adran 8 (cydnabod corff dyfarnu yn gyffredinol).
2
Caiff y meini prawf cydnabod cyffredinol wneud darpariaeth wahanol ar gyfer disgrifiadau gwahanol o gorff dyfarnu.
6Pŵer i osod meini prawf cydnabod sy’n benodol i gymhwyster
1
Caiff Cymwysterau Cymru osod a chyhoeddi meini prawf cydnabod (“meini prawf cydnabod sy’n benodol i gymhwyster”) i’w cymhwyso ganddo at ddibenion adran 9 (cydnabod corff dyfarnu mewn ffordd sy’n benodol i gymhwyster).
2
Caiff y meini prawf wneud darpariaeth wahanol ar gyfer—
a
disgrifiadau gwahanol o gorff dyfarnu;
b
cymwysterau gwahanol neu ddisgrifiadau gwahanol o gymhwyster.
7Diwygio meini prawf cydnabod cyffredinol a meini prawf cydnabod sy’n benodol i gymhwyster
1
Caiff Cymwysterau Cymru ddiwygio—
a
y meini prawf cydnabod cyffredinol;
b
y meini prawf cydnabod sy’n benodol i gymhwyster.
2
Os yw Cymwysterau Cymru yn diwygio’r meini prawf, rhaid iddo—
a
cyhoeddi’r meini prawf fel y’u diwygiwyd, a
b
pennu pa bryd y mae’r diwygiadau i gael effaith.
3
Rhaid i’r dyddiad a bennir o dan is-adran (2)(b) beidio â rhagflaenu’r dyddiad y cyhoeddir y meini prawf diwygiedig.
Cydnabod cyrff dyfarnu
8Cydnabod corff dyfarnu yn gyffredinol
1
Caiff corff dyfarnu wneud cais i Gymwysterau Cymru i gael ei gydnabod yn gyffredinol yn gorff sy’n dyfarnu cymwysterau yng Nghymru.
2
Caiff y corff dyfarnu bennu yn ei gais gymhwyster neu ddisgrifiad o gymhwyster nad yw’n dymuno cael ei gydnabod mewn cysylltiad â’i ddyfarnu.
3
Os yw’r corff yn bodloni’r meini prawf cydnabod cyffredinol a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar o dan adran 5, rhaid i Gymwysterau Cymru gydnabod y corff dyfarnu.
4
Os nad yw’r corff yn bodloni’r holl feini prawf hynny caiff Cymwysterau Cymru, er hynny, os yw o’r farn ei bod yn briodol gwneud hynny, gydnabod y corff.
5
Wrth benderfynu a yw’n briodol cydnabod corff o dan is-adran (4), rhaid i Gymwysterau Cymru roi sylw i—
a
pa un a yw’r corff yn bodloni’r meini prawf cydnabod cyffredinol yn sylweddol,
b
effaith ei fethiant i fodloni’r meini prawf hynny yn llawn, ac
c
pa mor debygol ydyw o fodloni’r meini prawf yn llawn wedi hynny.
6
Pan fo cymhwyster neu ddisgrifiad o gymhwyster wedi ei bennu gan gorff dyfarnu yn unol ag is-adran (2), nid yw cyfeiriadau at y meini prawf cydnabod cyffredinol yn is-adrannau (3) i (5) i gael eu trin fel pe baent yn cynnwys y meini prawf hynny i’r graddau y maent yn gymwys mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster neu’r disgrifiad o gymhwyster a bennir.
7
Pan fo corff dyfarnu wedi ei gydnabod o dan yr adran hon ac eithrio mewn cysylltiad â dyfarnu cymhwyster neu ddisgrifiad o gymhwyster a bennir ganddo yn unol ag is-adran (2), neu gymhwyster neu ddisgrifiad o gymhwyster y mae cydnabyddiaeth o dan yr adran hon wedi ei hildio neu wedi ei thynnu’n ôl mewn cysylltiad â’i ddyfarnu, caiff wneud cais i Gymwysterau Cymru i gael ei gydnabod mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster neu’r disgrifiad o gymhwyster.
8
Mae is-adrannau (2) i (6) yn gymwys at ddibenion cais o dan is-adran (7) fel pe bai’n gais o dan is-adran (1).
9
Effaith cydnabod o dan yr adran hon yw bod y corff yn cael ei gydnabod mewn cysylltiad â dyfarnu cymwysterau yng Nghymru ac eithrio—
a
y cymwysterau hynny y mae meini prawf cydnabod sy’n benodol i gymhwyster yn gymwys mewn cysylltiad â hwy,
b
unrhyw gymhwyster neu ddisgrifiad o gymhwyster a bennir yn unol ag is-adran (2), ac
c
unrhyw gymhwyster neu ddisgrifiad o gymhwyster y mae cydnabyddiaeth o dan yr adran hon wedi peidio â chael effaith mewn cysylltiad â’i ddyfarnu yn rhinwedd cael ei hildio neu ei thynnu’n ôl.
9Cydnabod corff dyfarnu mewn ffordd sy’n benodol i gymhwyster
1
Caiff corff dyfarnu wneud cais i Gymwysterau Cymru i gael ei gydnabod mewn cysylltiad â dyfarnu yng Nghymru gymhwyster neu ddisgrifiad o gymhwyster y gosodir meini prawf cydnabod sy’n benodol i gymhwyster mewn perthynas ag ef o dan adran 6.
2
Os yw’r corff yn bodloni’r ddau o’r canlynol—
a
y meini prawf cydnabod cyffredinol a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar o dan adran 5, a
b
y meini prawf cydnabod sy’n benodol i gymhwyster sy’n berthnasol mewn cysylltiad â’r cymhwyster a’r corff o dan sylw,
rhaid i Gymwysterau Cymru gydnabod y corff mewn cysylltiad â dyfarnu yng Nghymru y cymhwyster neu’r disgrifiad o gymhwyster o dan sylw.
3
Os nad yw’r corff yn bodloni’r holl feini prawf hynny caiff Cymwysterau Cymru, er hynny, os yw o’r farn ei bod yn briodol gwneud hynny, gydnabod y corff mewn cysylltiad â dyfarnu yng Nghymru y cymhwyster neu’r disgrifiad o gymhwyster o dan sylw.
4
Wrth benderfynu a yw’n briodol cydnabod corff o dan is-adran (3), rhaid i Gymwysterau Cymru roi sylw i—
a
pa un a yw’r corff yn bodloni’n sylweddol y meini prawf y cyfeirir atynt yn is-adran (2),
b
effaith ei fethiant i fodloni’r meini prawf hynny yn llawn, ac
c
pa mor debygol ydyw o fodloni’r meini prawf hynny yn llawn wedi hynny.
5
Effaith cydnabyddiaeth o dan yr adran hon, cyhyd â bod y corff yn cael ei gydnabod o dan adran 8, yw ei fod yn cael ei gydnabod hefyd mewn cysylltiad â dyfarnu yng Nghymru y cymhwyster neu’r disgrifiad o gymhwyster a bennir yn y gydnabyddiaeth o dan yr adran hon.
10Rheolau ynghylch ceisiadau am gydnabyddiaeth
1
Rhaid i Gymwysterau Cymru wneud rheolau ynghylch gwneud ceisiadau iddo o dan y Rhan hon.
2
Caiff y rheolau wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.
3
Cânt wneud darpariaeth ynghylch—
a
ffurf a chynnwys ceisiadau;
b
y ffordd y mae ceisiadau i gael eu gwneud (gan gynnwys o ran unrhyw ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad â chais).
4
Rhaid i Gymwysterau Cymru gyhoeddi’r rheolau a wneir o dan yr adran hon.
11Darpariaeth bellach ynghylch cydnabyddiaeth
1
Os yw Cymwysterau Cymru yn gwrthod cais am gydnabyddiaeth a wneir o dan y Rhan hon, rhaid iddo roi datganiad i’r corff dyfarnu o dan sylw sy’n nodi ei resymau dros wrthod y cais.
2
Mae Atodlen 3 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch cydnabyddiaeth o dan y Rhan hon, gan gynnwys—
a
cyfnod para’r gydnabyddiaeth;
b
yr amodau y mae’r gydnabyddiaeth i fod yn ddarostyngedig iddynt;
c
ildio cydnabyddiaeth a thynnu cydnabyddiaeth yn ôl.
12Cydnabod: dehongli
1
At ddibenion y Ddeddf hon, cydnabyddir corff mewn cysylltiad â dyfarnu cymhwyster—
a
os na osodir unrhyw feini prawf o dan adran 6 mewn cysylltiad â’r cymhwyster, os cydnabyddir y corff o dan adran 8 (ar yr amod nad yw’r cymhwyster yn un a bennir, neu o ddisgrifiad a bennir, gan y corff o dan adran 8(2) ac nad yw’n un y mae cydnabyddiaeth o’r corff mewn cysylltiad ag ef wedi peidio â chael effaith fel y’i nodir ym mharagraff 1(2) o Atodlen 3);
b
os gosodir meini prawf o dan adran 6 mewn cysylltiad â’r cymhwyster, neu gymwysterau o’r disgrifiad hwnnw, os yw’r corff—
i
yn cael ei gydnabod o dan adran 8, a
ii
yn cael ei gydnabod o dan adran 9 mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster neu’r disgrifiad o gymhwyster o dan sylw.
2
Yn y Ddeddf hon—
a
mae cyfeiriadau at gydnabyddiaeth yn gyfeiriadau at gydnabyddiaeth o dan y Rhan hon;
b
mae cyfeiriadau at gorff cydnabyddedig yn gyfeiriadau at gorff dyfarnu a gydnabyddir o dan y Rhan hon.
3
At ddibenion y Rhan hon, dyfarnu cymhwyster yng Nghymru yw ei ddyfarnu i bersonau a asesir mewn cysylltiad â’r cymhwyster yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru.