ATODLEN 1CYMWYSTERAU CYMRU
RHAN 1SEFYDLU CYMWYSTERAU CYMRU
I1I227Pwerau atodol
1
Caiff Cymwysterau Cymru wneud unrhyw beth y mae’n ystyried ei fod yn angenrheidiol neu’n briodol at ddibenion ei swyddogaethau neu mewn cysylltiad â hwy.
2
Ond ni chaniateir i Gymwysterau Cymru, heb gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru—
a
caffael neu waredu tir neu unrhyw eiddo arall, am gydnabyddiaeth o swm sydd uwchlaw’r trothwy gwariant;
b
cael benthyg neu roi benthyg arian.
3
Y trothwy gwariant yw pa swm bynnag (os oes swm) a bennir mewn hysbysiad a roddir gan Weinidogion Cymru i Gymwysterau Cymru at ddibenion y paragraff hwn.
4
Caniateir i hysbysiad o dan baragraff (3)—
a
pennu trothwyon gwahanol ar gyfer mathau gwahanol o dir neu eiddo arall, a
b
cael ei amrywio neu ei ddirymu gan Weinidogion Cymru.