27(1)Caiff Cymwysterau Cymru wneud unrhyw beth y mae’n ystyried ei fod yn angenrheidiol neu’n briodol at ddibenion ei swyddogaethau neu mewn cysylltiad â hwy.
(2)Ond ni chaniateir i Gymwysterau Cymru, heb gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru—
(a)caffael neu waredu tir neu unrhyw eiddo arall, am gydnabyddiaeth o swm sydd uwchlaw’r trothwy gwariant;
(b)cael benthyg neu roi benthyg arian.
(3)Y trothwy gwariant yw pa swm bynnag (os oes swm) a bennir mewn hysbysiad a roddir gan Weinidogion Cymru i Gymwysterau Cymru at ddibenion y paragraff hwn.
(4)Caniateir i hysbysiad o dan baragraff (3)—
(a)pennu trothwyon gwahanol ar gyfer mathau gwahanol o dir neu eiddo arall, a
(b)cael ei amrywio neu ei ddirymu gan Weinidogion Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
I2Atod. 1 para. 27 mewn grym ar 6.8.2015 gan O.S. 2015/1591, ergl. 2(c)