xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
20(1)Cyn tynnu cydnabyddiaeth yn ôl oddi wrth gorff cydnabyddedig o dan baragraff 19, rhaid i Gymwysterau Cymru roi i’r corff hysbysiad am ei fwriad i wneud hynny.
(2)Rhaid i’r hysbysiad—
(a)esbonio pam y mae Cymwysterau Cymru yn bwriadu tynnu cydnabyddiaeth yn ôl yn y cyswllt o dan sylw, a
(b)pennu pa bryd y mae Cymwysterau Cymru yn bwriadu penderfynu pa un ai i dynnu cydnabyddiaeth yn ôl.
(3)Wrth benderfynu pa un ai i dynnu cydnabyddiaeth yn ôl fel y’i pennir yn yr hysbysiad, rhaid i Gymwysterau Cymru roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y corff cydnabyddedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 3 para. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
I2Atod. 3 para. 20 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)