ATODLEN 3DARPARIAETH BELLACH YNGHYLCH CYDNABOD CYRFF DYFARNU
I1I222Adolygu penderfyniad i dynnu cydnabyddiaeth yn ôl
1
Rhaid i Gymwysterau Cymru wneud trefniadau i benderfyniad i dynnu cydnabyddiaeth yn ôl oddi wrth gorff fod yn ddarostyngedig i adolygiad ar gais y corff o dan sylw.
2
Rhaid i’r trefniadau—
a
pennu’r cyfnod y caniateir gwneud cais am adolygiad ynddo,
b
gwneud darpariaeth i’r person sy’n cynnal yr adolygiad wneud argymhellion i Gymwysterau Cymru mewn cysylltiad â’r tynnu’n ôl,
c
gwneud darpariaeth i Gymwysterau Cymru, ar ôl ystyried yr argymhellion hynny, naill ai cadarnhau neu wrthdroi ei benderfyniad i dynnu cydnabyddiaeth yn ôl, a
d
ei gwneud yn ofynnol i Gymwysterau Cymru hysbysu’r corff o dan sylw am ganlyniad yr adolygiad.
3
Rhaid i’r trefniadau ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n annibynnol ar Gymwysterau Cymru gynnal adolygiad.
4
Mae person yn annibynnol ar Gymwysterau Cymru, at y diben hwn—
a
yn achos unigolyn, os nad yw’n aelod o Gymwysterau Cymru nac yn aelod o staff Cymwysterau Cymru;
b
yn achos corff, os nad yw unrhyw un o aelodau’r corff yn aelod o Gymwysterau Cymru nac yn aelod o staff Cymwysterau Cymru.
5
Os yw Cymwysterau Cymru, yn dilyn adolygiad, yn cadarnhau ei benderfyniad i dynnu cydnabyddiaeth yn ôl, rhaid iddo roi hysbysiad i’r corff o dan sylw—
a
sy’n rhoi rhesymau dros y cadarnhad, a
b
sy’n datgan y dyddiad y bydd y tynnu’n ôl yn cymryd effaith pan ddaw i ben.