ATODLEN 3DARPARIAETH BELLACH YNGHYLCH CYDNABOD CYRFF DYFARNU
3Amodau cydnabod safonol
1
Caiff Cymwysterau Cymru ddiwygio’r amodau safonol; ac os yw’n gwneud hynny, mae pob cydnabyddiaeth (pa un a’i rhoddir cyn neu ar ôl i’r diwygiadau ddod i rym) i fod yn ddarostyngedig i’r amodau fel y’u diwygiwyd.
2
Mae is-baragraff (1) yn ddarostyngedig i baragraff 2(3) a (4).
3
Os yw Cymwysterau Cymru yn diwygio’r amodau safonol, rhaid iddo—
a
cyhoeddi’r amodau fel y’u diwygiwyd,
b
hysbysu pob corff cydnabyddedig am y diwygiadau, a pha bryd y maent i gael effaith.
4
Caiff Cymwysterau Cymru ddarparu bod diwygiad i’r amodau i gael effaith ar ddyddiadau gwahanol mewn perthynas â chyrff gwahanol, neu mewn perthynas â disgrifiadau gwahanol o gorff.
5
Nid yw diwygiad i gael ei drin fel pe bai’n cael effaith mewn perthynas â chorff cyn i’r corff gael ei hysbysu amdano.