Amodau arbennig y caniateir i gydnabyddiaeth fod yn ddarostyngedig iddyntLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
5(1)Caiff Cymwysterau Cymru ddiwygio neu ddirymu amod arbennig.
(2)Os yw Cymwysterau Cymru yn diwygio neu’n dirymu amod arbennig, rhaid iddo—
(a)hysbysu’r corff o dan sylw am y diwygiad neu’r dirymiad, a
(b)pennu pa bryd y mae’r diwygiad neu’r dirymiad i ddod i rym.
(3)Rhaid i’r dyddiad a bennir o dan is-baragraff (2)(b) beidio â rhagflaenu’r dyddiad hysbysu o dan is-baragraff (2)(a).
(4)Mae’r paragraff hwn yn ddarostyngedig i baragraff 11 (diwygio amod capio ffioedd).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 3 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
I2Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)