41Adennill costau ar gyfer gosod sancsiynauLL+C
(1)Caiff Cymwysterau Cymru, drwy hysbysiad, ei gwneud yn ofynnol i gorff dyfarnu y gosodwyd sancsiwn arno dalu’r costau yr aeth Cymwysterau Cymru iddynt mewn cysylltiad â gosod y sancsiwn.
(2)Mae’r cyfeiriadau yn is-adran (1) at osod sancsiwn yn gyfeiriadau at—
(a)rhoi cyfarwyddyd o dan adran 37;
(b)gosod cosb ariannol o dan adran 38;
(c)tynnu cydnabyddiaeth yn ôl o dan baragraff 19 o Atodlen 3.
(3)Mae “costau” yn cynnwys, ymhlith pethau eraill—
(a)costau ymchwilio;
(b)costau gweinyddu;
(c)costau cael cyngor arbenigol (gan gynnwys cyngor cyfreithiol).
(4)Rhaid i hysbysiad a roddir i gorff dyfarnu o dan is-adran (1)—
(a)pennu’r swm y mae’n ofynnol ei dalu,
(b)pennu’r cyfnod y mae rhaid gwneud y taliad ynddo, ac
(c)cynnwys dadansoddiad manwl o’r swm a bennir.
(5)Rhaid i’r cyfnod a bennir o dan is-adran (4)(b) fod yn gyfnod o 28 o ddiwrnodau o leiaf sy’n dechrau â’r dyddiad yr anfonir yr hysbysiad.
(6)Rhaid i’r hysbysiad hefyd gynnwys gwybodaeth o ran—
(a)sut y caniateir i daliad gael ei wneud,
(b)hawliau apelio o dan adran 42, ac
(c)canlyniadau peidio â thalu.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 41 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 60(2)
I2A. 41 mewn grym ar 21.9.2015 gan O.S. 2015/1687, ergl. 2 (ynghyd ag erglau. 3-12)