Search Legislation

Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015

Statws

This is the original version (as it was originally enacted).

Awdurdodau lleol sy’n uno’n wirfoddol

3Cynigion ar gyfer uno

(1)Caiff unrhyw 2 brif awdurdod lleol neu ragor, yn ddim hwyrach na 30 Tachwedd 2015 neu unrhyw ddyddiad diweddarach y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu drwy reoliadau, wneud cais ar y cyd i Weinidogion Cymru yn cynnig uno eu prif ardaloedd i greu prif ardal newydd.

(2)Nid yw adran 101 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys i’r swyddogaeth o wneud cais o dan is-adran (1).

(3)Ni chaniateir i’r swyddogaeth o wneud cais gan brif awdurdod lleol o dan is-adran (1) fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth y prif awdurdod lleol o dan drefniadau gweithrediaeth (o fewn ystyr Rhan 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000).

(4)Mae’r cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at wneud cais o dan is-adran (1) yn cynnwys gwneud cais ar y cyd i Weinidogion Cymru, cyn i’r adran hon ddod i rym, gan 2 brif awdurdod lleol neu ragor sy’n cynnig uno eu prif ardaloedd i greu prif ardal newydd.

4Ymgynghori cyn gwneud cais i uno

(1)Cyn i brif awdurdodau lleol wneud cais o dan adran 3(1) rhaid i’r prif awdurdodau lleol ymgynghori â’r canlynol—

(a)aelodau’r cyhoedd mewn unrhyw brif ardal y mae’r cynnig i uno yn debygol o effeithio arni (“ardal yr effeithir arni”),

(b)y prif awdurdodau lleol ar gyfer ardaloedd yr effeithir arnynt a chynghorau ar gyfer cymunedau mewn unrhyw ardal yr effeithir arni,

(c)yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer unrhyw ardal sy’n gyfan gwbl neu’n rhannol o fewn unrhyw ardal yr effeithir arni,

(d)prif swyddog yr heddlu a’r comisiynydd heddlu a throseddu ar gyfer unrhyw ardal heddlu sy’n gyfan gwbl neu’n rhannol o fewn unrhyw ardal yr effeithir arni,

(e)yr awdurdod tân ac achub ar gyfer unrhyw ardal sy’n gyfan gwbl neu’n rhannol o fewn unrhyw ardal yr effeithir arni,

(f)y bwrdd iechyd lleol ar gyfer unrhyw ardal sy’n gyfan gwbl neu’n rhannol o fewn unrhyw ardal yr effeithir arni,

(g)pob undeb llafur a gydnabyddir (o fewn yr ystyr a roddir i “recognised” yn Neddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992) gan un neu ragor o’r prif awdurdodau lleol, ac

(h)unrhyw bersonau eraill y mae’r prif awdurdodau lleol o’r farn eu bod yn briodol.

(2)Rhaid bodloni is-adran (1) mewn perthynas â chais a wneir cyn i’r adran hon ddod i rym (yn ogystal â chais a wneir ar ôl hynny); a rhaid i unrhyw ymgynghoriad a gynhelir cyn i’r adran hon ddod i rym fodloni gofynion yr is-adran honno.

5Canllawiau ynghylch ceisiadau i uno

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau—

(a)ynghylch yr amcanion y dylai cynnig sydd mewn cais o dan adran 3(1) fwriadu eu cyflawni,

(b)ynghylch y materion y dylid eu hystyried wrth lunio’r cynnig sydd mewn cais o dan adran 3(1),

(c)ynghylch sut y mae’r ymgynghoriad sy’n ofynnol gan adran 4(1) i gael ei gynnal, a

(d)fel arall mewn perthynas â gwneud ceisiadau o dan adran 3(1).

(2)Rhaid i brif awdurdodau lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir o dan is-adran (1).

(3)Gellir cydymffurfio â’r gofyniad yn is-adran (2) drwy roi sylw i unrhyw ganllawiau mewn perthynas ag unrhyw faterion y cyfeirir atynt yn is-adran (1) a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru cyn i’r adran hon ddod i rym.

6Pŵer i wneud rheoliadau uno

(1)Pan wneir cais i Weinidogion Cymru o dan adran 3(1) caiff Gweinidogion Cymru, os ydynt o’r farn ei bod yn briodol gwneud hynny, wneud rheoliadau ar gyfer cyfansoddiad prif ardal newydd drwy uno, i greu prif ardal newydd, brif ardaloedd y prif awdurdodau lleol a wnaeth y cais.

(2)Rhaid i reoliadau uno wneud darpariaeth ar gyfer—

(a)sefydlu’r brif ardal newydd a diddymu’r prif ardaloedd presennol,

(b)ffin y brif ardal newydd,

(c)enw Cymraeg ac enw Saesneg y brif ardal newydd,

(d)pa un a yw’r brif ardal newydd i fod yn sir neu’n fwrdeistref sirol,

(e)sefydlu, fel cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol, awdurdod lleol ar gyfer y brif ardal newydd,

(f)enw Cymraeg ac enw Saesneg y prif awdurdod lleol newydd,

(g)trosglwyddo swyddogaethau’r awdurdodau sy’n uno i’r prif awdurdod lleol newydd, ac

(h)dirwyn i ben a diddymu’r awdurdodau sy’n uno.

(3)Pan fo’r brif ardal newydd i fod yn sir, rhaid i’r rheoliadau uno ddarparu y bydd y prif awdurdod lleol newydd yn cael enw’r sir ynghyd ag—

(a)yn achos yr enw Saesneg, y geiriau “County Council” neu’r gair “Council”, a

(b)yn achos yr enw Cymraeg, y geiriau “Cyngor Sir” neu’r gair “Cyngor”.

(4)Pan fo’r brif ardal newydd i fod yn fwrdeistref sirol, rhaid i’r rheoliadau uno ddarparu y bydd y prif awdurdod lleol newydd yn cael enw’r bwrdeistref sirol ynghyd ag—

(a)yn achos yr enw Saesneg, y geiriau “County Borough Council” neu’r gair “Council”, a

(b)yn achos yr enw Cymraeg, y geiriau “Cyngor Bwrdeistref Sirol” neu’r gair “Cyngor”.

7Awdurdodau cysgodol

(1)Rhaid i reoliadau uno—

(a)gwneud darpariaeth ar gyfer sefydlu, o ddyddiad penodedig, awdurdod cysgodol sy’n cynnwys holl aelodau’r awdurdodau sy’n uno,

(b)gwneud darpariaeth ar gyfer penodi gweithrediaeth gysgodol gan yr awdurdod cysgodol,

(c)pennu cyfansoddiad y weithrediaeth gysgodol,

(d)gwneud darpariaeth sy’n pennu swyddogaethau’r awdurdod cysgodol a’r weithrediaeth gysgodol, ac ynghylch arfer y swyddogaethau hynny, yn ystod y cyfnod cysgodol,

(e)gwneud darpariaeth ynghylch ariannu’r awdurdod cysgodol, a

(f)gwneud darpariaeth i’r awdurdod cysgodol a’r weithrediaeth gysgodol ddod yn brif awdurdod lleol ar gyfer y brif ardal newydd, ac yn weithrediaeth ar gyfer y prif awdurdod lleol hwnnw, ar gyfer y cyfnod cyn yr etholiad.

(2)Yn is-adran (1) ystyr “cyfnod cysgodol” yw’r cyfnod—

(a)sy’n dechrau â’r dyddiad yr awdurdodir neu y gwneir hi’n ofynnol yn gyntaf i’r awdurdod cysgodol neu’r weithrediaeth gysgodol arfer unrhyw swyddogaethau yn unol â’r rheoliadau uno, a

(b)sy’n dod i ben yn union cyn y dyddiad trosglwyddo.

(3)Yn is-adran (1) ystyr “cyfnod cyn yr etholiad” yw’r cyfnod—

(a)sy’n dechrau â’r dyddiad trosglwyddo, a

(b)sy’n dod i ben yn union cyn y pedwerydd diwrnod ar ôl cynnal yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif awdurdod lleol newydd.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau mewn perthynas ag arfer swyddogaethau gan awdurdodau cysgodol a gweithrediaethau cysgodol a sefydlir neu a benodir yn unol â rheoliadau uno; a rhaid i awdurdodau cysgodol a gweithrediaethau cysgodol roi sylw i ganllawiau a ddyroddir o dan yr is-adran hon wrth arfer eu swyddogaethau.

8Etholiadau a chynghorwyr

Caiff rheoliadau uno gynnwys darpariaeth—

(a)sy’n dileu etholiad cyffredin ar gyfer cynghorwyr i’r awdurdodau sy’n uno ac yn ymestyn tymhorau swyddi presennol cynghorwyr;

(b)sy’n datgymhwyso am gyfnod penodedig ddarpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol llenwi lleoedd gwag achlysurol ar gyfer swydd cynghorydd yn unrhyw un o’r awdurdodau sy’n uno;

(c)sy’n pennu dyddiad yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif awdurdod lleol yn y brif ardal newydd a thymhorau swyddi cynghorwyr a etholir yn yr etholiad hwnnw;

(d)sy’n gohirio etholiad cyffredin ar gyfer cynghorwyr i gynghorau cymuned yn y brif ardal newydd ac yn ymestyn tymhorau swyddi presennol cynghorwyr.

9Awdurdodau â model gweithrediaeth maer a chabinet

(1)Os yw un neu ragor o’r awdurdodau sy’n uno yn gweithredu drwy weithrediaeth maer a chabinet, neu wedi gwneud cynigion i weithredu drwy weithrediaeth o’r fath, caiff y rheoliadau uno gynnwys darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod cysgodol gynnal refferendwm ynghylch a ddylai’r prif awdurdod lleol newydd weithredu drwy weithrediaeth maer a chabinet (o fewn ystyr Rhan 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000).

(2)Caiff rheoliadau uno gynnwys darpariaeth sy’n atal awdurdod sy’n uno rhag llunio a chymeradwyo cynigion i weithredu drwy weithrediaeth maer a chabinet o’r fath.

10Darpariaeth ganlyniadol etc. arall

(1)Caiff rheoliadau uno gynnwys unrhyw ddarpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol neu drosiannol neu ddarpariaeth arbed sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau sy’n gymwys yn gyffredinol wneud darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol neu throsiannol neu darpariaeth arbed—

(a)at ddibenion rheoliadau uno neu o ganlyniad iddynt, neu

(b)er mwyn rhoi effaith lawn i reoliadau uno.

(3)Mae rheoliadau o dan is-adran (2) yn cael effaith yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a gynhwysir mewn rheoliadau uno.

(4)Yn yr adran hon mae cyfeiriadau at ddarpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol neu drosiannol neu ddarpariaeth arbed yn cynnwys darpariaeth—

(a)ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau ac eiddo, hawliau neu rwymedigaethau (gan gynnwys rhwymedigaethau troseddol) o awdurdod sy’n uno i brif awdurdod lleol newydd;

(b)i achos sifil neu droseddol a gychwynnir gan neu yn erbyn awdurdod sy’n uno gael ei barhau gan neu yn erbyn prif awdurdod lleol newydd;

(c)ar gyfer trosglwyddo staff, digolledu am golli swydd, neu mewn perthynas â phensiynau a materion staffio eraill;

(d)ar gyfer trin prif awdurdod lleol newydd at rai dibenion neu at bob diben fel yr un person mewn cyfraith ag awdurdod sy’n uno;

(e)mewn perthynas â rheolaeth neu gadwraeth eiddo (tirol neu bersonol) a drosglwyddir i brif awdurdod lleol newydd;

(f)ynghylch cynnal refferendwm sy’n ofynnol yn rhinwedd adran 9;

(g)mewn perthynas ag ymddiriedolwyr siarter;

(h)mewn perthynas â siroedd wedi eu cadw (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 270(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972).

(5)Mae’r hawliau a’r rhwymedigaethau y caniateir eu trosglwyddo yn unol â rheoliadau uno neu reoliadau o dan is-adran (2) yn cynnwys hawliau a rhwymedigaethau mewn perthynas â chontract cyflogi.

(6)Mae darpariaethau Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006 (O.S. 2006/246), ar wahân i reoliadau 4(6) a 10, yn gymwys i drosglwyddiad a wneir yn unol â rheoliadau uno neu reoliadau o dan is-adran (2) (pa un a yw’r trosglwyddiad yn drosglwyddiad perthnasol at ddibenion y Rheoliadau hynny ai peidio).

(7)Yn yr adran hon mae cyfeiriadau at ddarpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol neu drosiannol neu ddarpariaeth arbed hefyd yn cynnwys darpariaeth mewn cysylltiad ag—

(a)sefydlu cyrff cyhoeddus neu aelodaeth cyrff o’r fath mewn unrhyw ardal yr effeithir arni gan y rheoliadau uno ac ethol neu benodi aelodau’r cyrff cyhoeddus, neu

(b)diddymu neu sefydlu, neu gyfyngu neu ymestyn, awdurdodaeth unrhyw gorff cyhoeddus mewn neu dros unrhyw ran o unrhyw ardal yr effeithir arni gan reoliadau uno.

(8)Caiff darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol neu drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn rheoliadau uno neu reoliadau o dan is-adran (2) fod ar ffurf darpariaeth—

(a)sy’n addasu, yn eithrio neu’n cymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw ddeddfiad, neu

(b)sy’n diddymu neu’n dirymu unrhyw ddeddfiad (gydag arbedion neu hebddynt).

(9)Mae “deddfiad” yn is-adran (8) yn cynnwys unrhyw siarter, pa bryd bynnag y’i rhoddwyd.

(10)Nid yw’n ofynnol i Weinidogion Cymru achosi i ymchwiliad gael ei gynnal o dan is-adran (6) o adran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (awdurdodau cyfunol) mewn perthynas â gorchymyn o dan is-adran (4) o’r adran honno a wneir o ganlyniad i reoliadau uno neu reoliadau o dan is-adran (2).

(11)Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)amrywio rheoliadau uno (neu reoliadau o dan y paragraff hwn) drwy reoliadau, a

(b)amrywio neu ddirymu rheoliadau o dan is-adran (2) (neu’r paragraff hwn) drwy reoliadau.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Show Explanatory Notes for Sections: Displays relevant parts of the explanatory notes interweaved within the legislation content.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources