xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 10LL+CAMRYWIOL

PENNOD 1LL+CDARPARIAETHAU PELLACH YN YMWNEUD Â CHONTRACTAU MEDDIANNAETH

Rhwymedigaethau landlordiaid cymunedol i ymgynghoriLL+C

234Trefniadau ymgynghoriLL+C

(1)Rhaid i landlord cymunedol wneud a chynnal unrhyw drefniadau sy’n briodol yn ei farn⁠—

(a)er mwyn hysbysu deiliaid contract o dan gontractau meddiannaeth gyda’r landlord am gynigion perthnasol ar faterion rheoli tai, a

(b)er mwyn rhoi cyfle rhesymol i ddeiliaid contract wneud sylwadau ar y cynigion.

(2)Nid yw’r dyletswyddau yn is-adran (1)—

(a)ond yn gymwys pan fo cynnig perthnasol ar fater rheoli tai yn debygol o effeithio’n sylweddol ar yr holl ddeiliaid contract o dan gontractau meddiannaeth gyda’r landlord, neu ar grŵp perthnasol o ddeiliaid contract o’r fath, a

(b)ond yn gymwys mewn perthynas â’r deiliaid contract sy’n debygol o gael eu heffeithio’n sylweddol.

(3)Cyn gwneud unrhyw benderfyniad ar gynnig perthnasol ar fater rheoli tai, rhaid i’r landlord ystyried unrhyw sylwadau a wneir gan ddeiliaid contract yn unol â’r trefniadau.

(4)Ystyr “cynnig perthnasol ar fater rheoli tai” yw cynnig sydd, ym marn y landlord, yn ymwneud â—

(a)rhaglen newydd i gynnal, gwella neu ddymchwel anheddau sy’n ddarostyngedig i gontractau meddiannaeth, neu

(b)newid arferion neu bolisi’r landlord o ran rheoli, cynnal, gwella neu ddymchwel anheddau o’r fath.

(5)Ond nid yw cynnig yn gynnig perthnasol ar fater rheoli tai i’r graddau y mae’n ymwneud ag—

(a)y rhent sy’n daladwy neu gydnabyddiaeth arall sy’n ddyledus i’r landlord, neu

(b)tâl a godir am wasanaethau a chyfleusterau a ddarperir gan y landlord.

(6)Ystyr “grŵp perthnasol” yw grŵp sy’n—

(a)ffurfio grŵp cymdeithasol penodol, neu

(b)meddiannu anheddau sy’n ffurfio dosbarth penodol (boed drwy gyfeiriad at y math o annedd, neu’r ystad dai neu ardal arall mwy o faint y maent wedi eu lleoli ynddi).

(7)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i baragraff 12(7) yn Rhan 2 o Atodlen 8 (cymeradwyo cynlluniau ailddatblygu).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 234 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 234 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

235Datganiad o drefniadau ymgynghoriLL+C

(1)Rhaid i landlord y mae’n ofynnol iddo wneud trefniadau o dan adran 234 baratoi a chyhoeddi datganiad o’r trefniadau.

(2)Os yw’r landlord yn awdurdod tai lleol, rhaid iddo sicrhau bod copi o’r datganiad ar gael i’w archwilio gan aelodau’r cyhoedd ar bob adeg resymol, yn ddi-dâl, ym mhrif swyddfa’r landlord.

(3)Os yw’r landlord yn landlord cymdeithasol cofrestredig neu’n ddarparwr tai cymdeithasol preifat cofrestredig, rhaid iddo anfon copi o’r datganiad at Weinidogion Cymru a’r awdurdod tai lleol ar gyfer yr ardal y mae’r anheddau wedi ei lleoli ynddi.

(4)Rhaid i awdurdod tai lleol yr anfonir copi ato o dan is-adran (3) sicrhau ei fod ar gael i’w archwilio gan aelodau’r cyhoedd ar bob adeg resymol, yn ddi-dâl, yn ei brif swyddfa.

(5)Rhaid i’r landlord roi copi o’r datganiad—

(a)i unrhyw ddeiliad contract o dan gontract meddiannaeth gyda’r landlord sy’n gofyn am un, yn ddi-dâl, a

(b)i unrhyw berson arall sy’n gofyn am un, o dalu ffi resymol.

(6)Rhaid i’r landlord hefyd—

(a)paratoi crynodeb o’r datganiad, a

(b)darparu copi o’r crynodeb yn ddi-dâl i unrhyw berson sy’n gofyn am un.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 235 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I4A. 235 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2