Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

PENNOD 6LL+CCONTRACTAU ENGHREIFFTIOL

29Datganiad ysgrifenedig enghreifftiol o gontractLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ragnodi datganiadau ysgrifenedig enghreifftiol o gontractau ar gyfer contract meddiannaeth o unrhyw fath neu ddisgrifiad sy’n briodol yn eu barn hwy.

(2)Mae datganiad ysgrifenedig enghreifftiol o gontract ar gyfer contract meddiannaeth o fath neu ddisgrifiad penodol yn ddatganiad ysgrifenedig (gweler adran 31) sy’n ymgorffori’r holl ddarpariaethau sylfaenol ac atodol sy’n gymwys i’r contract hwnnw, heb eu haddasu.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 29 mewn grym ar 5.8.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2016/813, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1

I3A. 29 mewn grym ar 1.12.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2022/906, ergl. 2