xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3LL+CDARPARIAETHAU SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH

PENNOD 2LL+CDARPARU GWYBODAETH

Datganiad ysgrifenedig o’r contractLL+C

31Datganiad ysgrifenedigLL+C

(1)Rhaid i’r landlord o dan gontract meddiannaeth roi datganiad ysgrifenedig o’r contract i ddeiliad y contract cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r dyddiad meddiannu.

(2)Os yw deiliad y contract o dan gontract meddiannaeth yn newid, rhaid i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig o’r contract i ddeiliad newydd y contract cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau—

(a)â’r diwrnod y mae deiliad y contract yn newid, neu

(b)os yw’n hwyrach, â’r diwrnod y daw’r landlord (neu yn achos cyd-landlordiaid, unrhyw un ohonynt) i wybod bod deiliad y contract wedi newid.

(3)Ni chaiff y landlord godi ffi am ddarparu datganiad ysgrifenedig o dan is-adran (1) neu (2).

(4)Caiff deiliad y contract ofyn am ddatganiad ysgrifenedig pellach o’r contract unrhyw bryd.

(5)Caiff y landlord godi ffi resymol am ddarparu datganiad ysgrifenedig pellach.

(6)Rhaid i’r landlord roi’r datganiad ysgrifenedig pellach i ddeiliad y contract cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau—

(a)â’r diwrnod y gwneir y cais, neu

(b)os yw’r landlord yn codi ffi, â’r diwrnod y mae deiliad y contract yn talu’r ffi.

(7)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 31 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

32Yr hyn y mae datganiad ysgrifenedig i’w gynnwysLL+C

(1)Rhaid i ddatganiad ysgrifenedig o gontract meddiannaeth nodi enwau’r partïon i’r contract.

(2)Rhaid iddo hefyd nodi—

(a)telerau’r contract sy’n ymdrin â materion allweddol mewn perthynas â’r contract,

(b)telerau sylfaenol y contract,

(c)telerau atodol y contract, a

(d)unrhyw delerau ychwanegol.

(3)Rhaid iddo nodi—

(a)unrhyw ddarpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i’r contract nad yw wedi ei hymgorffori fel un o delerau’r contract oherwydd adran 20(1) neu 21(2), a

(b)unrhyw ddarpariaeth atodol sy’n gymwys i’r contract nad yw wedi ei hymgorffori fel un o delerau’r contract oherwydd adran 21(2), 24(1) neu 25(2).

(4)Rhaid iddo gynnwys gwybodaeth esboniadol am unrhyw faterion a ragnodir.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I4A. 32(1)-(3) mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

I5A. 32(4) mewn grym ar 5.8.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2016/813, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1

I6A. 32(4) mewn grym ar 1.12.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2022/906, ergl. 2

33Newidiadau golygyddolLL+C

(1)Caiff y datganiad ysgrifenedig nodi telerau sylfaenol a thelerau atodol y contract meddiannaeth ynghyd â newidiadau golygyddol iddynt.

(2)Newidiadau i eiriad teler sylfaenol neu deler atodol yw newidiadau golygyddol, nad ydynt yn newid sylwedd y teler hwnnw mewn unrhyw ffordd...F1

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 33 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I8A. 33 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

34Methu â darparu datganiad ysgrifenedig etc.LL+C

(1)Os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth wedi methu â chydymffurfio â gofyniad i ddarparu datganiad ysgrifenedig o dan adran 31, caiff deiliad y contract wneud cais i’r llys am ddatganiad llys ynghylch telerau’r contract.

(2)Pan wneir cais o dan is-adran (1) mae pob darpariaeth sylfaenol ac atodol sy’n gymwys i’r contract i’w thrin fel pe bai wedi ei hymgorffori fel un o delerau’r contract heb ei haddasu, oni bai bod deiliad y contract yn honni nad oedd wedi ei hymgorffori neu’n honni ei bod wedi ei hymgorffori ynghyd ag addasiadau iddi.

(3)Os yw deiliad y contract yn gwneud honiad o fath a grybwyllir yn is-adran (2), rhaid i’r llys ddyfarnu ar yr honiad hwnnw.

(4)Nid yw is-adran (3) yn gymwys os gellir priodoli methiant y landlord i gydymffurfio ag adran 31 i weithred neu anwaith ar ran deiliad y contract.

(5)Caiff y llys—

(a)cysylltu datganiad o’r contract meddiannaeth i’w ddatganiad, neu

(b)gorchymyn i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig o’r contract i ddeiliad y contract.

[F2(6)Mae paragraffau 1 a 2 o Atodlen 9A yn gwneud darpariaeth yn ymwneud â chontractau safonol cyfnodol, a chontractau safonol cyfnod penodol sy’n ymgorffori adran 186 neu sy’n cynnwys cymal terfynu’r landlord, sy’n atal landlord rhag rhoi hysbysiad (o dan adran 173 neu 186 neu o dan gymal terfynu’r landlord) sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad contract ildio meddiant, os nad yw’r landlord wedi darparu datganiad ysgrifenedig o’r contract o dan adran 31(1) neu (2).]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 34 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I10A. 34 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

35Methu â darparu datganiad: digolleduLL+C

(1)Os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth wedi methu â chydymffurfio â gofyniad i ddarparu datganiad ysgrifenedig o dan adran 31, mae’r landlord yn atebol i dalu tâl digolledu i ddeiliad y contract o dan adran 87.

(2)Mae’r tâl digolledu yn daladwy ar gyfer y dyddiad perthnasol a phob diwrnod ar ôl y dyddiad perthnasol—

(a)hyd y diwrnod y mae’r landlord yn rhoi datganiad ysgrifenedig o’r contract i ddeiliad y contract, neu

(b)os yw hynny’n gynharach, hyd ddiwrnod olaf y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r dyddiad perthnasol.

(3)Mae llog yn daladwy ar y tâl digolledu os yw’r landlord wedi methu â rhoi datganiad ysgrifenedig o’r contract i ddeiliad y contract ar y diwrnod y cyfeirir ato yn is-adran (2)⁠(b) neu cyn hynny.

(4)Mae’r llog yn dechrau cronni ar y diwrnod y cyfeirir ato yn is-adran (2)(b), ar y raddfa sy’n bodoli o dan adran 6 o Ddeddf Talu Dyledion Masnachol yn Hwyr (Llog) 1998 (p. 20) ar ddiwedd y diwrnod hwnnw.

(5)Nid yw’r adran hon yn gymwys os gellir priodoli methiant y landlord i gydymffurfio ag adran 31 i weithred neu anwaith ar ran deiliad y contract.

(6)Y dyddiad perthnasol yw diwrnod cyntaf y cyfnod yr oedd yn ofynnol i’r landlord roi’r datganiad ysgrifenedig cyn i’r cyfnod hwnnw ddod i ben.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 35 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I12A. 35 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

36Datganiad ysgrifenedig anghyflawnLL+C

(1)Os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth yn darparu datganiad ysgrifenedig anghyflawn o’r contract, caiff deiliad y contract wneud cais i’r llys am ddatganiad llys ynghylch telerau’r contract.

(2)Mae datganiad ysgrifenedig yn anghyflawn os nad yw’n cynnwys popeth y mae’n ofynnol iddo ei gynnwys o dan adran 32.

(3)Ni chaiff deiliad y contract wneud cais i’r llys o dan is-adran (1) cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau—

(a)os oedd yn ofynnol i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig o dan adran 31(1), â’r dyddiad meddiannu;

(b)os oedd yn ofynnol i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig o dan adran 31(2), â’r diwrnod y rhoddodd y landlord y datganiad ysgrifenedig i ddeiliad newydd y contract;

(c)os oedd yn ofynnol i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig pellach o dan adran 31(4) i (6), â diwrnod cyntaf y cyfnod a grybwyllir yn adran 31(6).

(4)Mae is-adran (5) yn gymwys os nad yw’r datganiad ysgrifenedig—

(a)yn nodi darpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i’r contract ac os nad yw’n cynnwys datganiad nad yw’r ddarpariaeth wedi ei hymgorffori oherwydd adran 20(1) neu 21(2), neu

(b)yn nodi darpariaeth atodol sy’n gymwys i’r contract ac os nad yw’n cynnwys datganiad nad yw’r ddarpariaeth wedi ei hymgorffori oherwydd adran 21(2), 24(1) neu 25(2).

(5)Mae’r ddarpariaeth honno i’w thrin fel pe bai wedi ei hymgorffori fel un o delerau’r contract heb ei haddasu oni bai—

(a)bod adran 21 neu 25 yn gymwys mewn perthynas â hi, neu

(b)bod deiliad y contract yn honni nad oedd wedi ei hymgorffori neu’n honni ei bod wedi ei hymgorffori ynghyd ag addasiadau iddi.

(6)Os yw deiliad y contract yn gwneud honiad o’r fath a grybwyllir yn is-adran (5)(b), rhaid i’r llys ddyfarnu ar yr honiad hwnnw.

(7)Nid yw is-adran (6) yn gymwys os gellir priodoli hepgor y ddarpariaeth neu’r datganiad ysgrifenedig i weithred neu anwaith ar ran deiliad y contract.

(8)Caiff y llys—

(a)cysylltu datganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth i’w ddatganiad, neu

(b)gorchymyn i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig cyflawn o’r contract i ddeiliad y contract.

(9)Os yw’r llys wedi ei fodloni bod y datganiad ysgrifenedig yn anghyflawn oherwydd diffyg bwriadol ar ran y landlord, caiff orchymyn i’r landlord dalu tâl digolledu i ddeiliad y contract o dan adran 87.

(10)Mae’r tâl digolledu yn daladwy ar gyfer y cyfnod, heb fod yn hwy na dau fis, a bennir gan y llys; a chaiff y llys orchymyn i’r landlord dalu llog ar unrhyw raddfa ac wedi’i gyfrifo mewn unrhyw fodd sy’n briodol yn ei farn.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 36 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I14A. 36 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

37Datganiad anghywir: cais deiliad y contract i’r llysLL+C

(1)Caiff deiliad y contract o dan gontract meddiannaeth wneud cais i’r llys am ddatganiad bod datganiad ysgrifenedig o’r contract—

(a)yn nodi un neu ragor o delerau’r contract yn anghywir neu’n nodi teler nad oes iddo unrhyw effaith,

(b)yn datgan yn anghywir nad yw darpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i’r contract wedi ei hymgorffori fel un o delerau’r contract oherwydd adran 20(1) neu 21(2),

(c)yn datgan yn anghywir nad yw darpariaeth atodol sy’n gymwys i’r contract wedi ei hymgorffori fel un o delerau’r contract oherwydd adran 21(2), 24(1) neu 25(2), neu

(d)yn nodi teler nad yw’n un o delerau’r contract.

(2)Ond nid yw datganiad ysgrifenedig yn anghywir ond am nad yw’n nodi teler a amrywiwyd yn unol â’r contract neu drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad, os rhoddwyd—

(a)datganiad ysgrifenedig o’r teler a amrywiwyd yn unol ag adran 109, 128 neu 136, neu

(b)hysbysiad o’r amrywiad yn unol ag adran 104, 105(2) i (4) neu 107(1)(b) a (2) i (6) (amrywio contractau diogel) neu adran 123 [F3neu 124(2) i (4)] (amrywio contractau safonol cyfnodol),

oni bai bod y datganiad wedi ei roi o dan adran 31(2) neu (4) ar ôl i unrhyw amrywiad o’r fath i deler gael effaith.

(3)Ni chaiff deiliad y contract wneud cais i’r llys o dan is-adran (1) cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau—

(a)os oedd yn ofynnol i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig o dan adran 31(1), â’r dyddiad meddiannu;

(b)os oedd yn ofynnol i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig o dan adran 31(2), â’r diwrnod y rhoddodd y landlord y datganiad ysgrifenedig i ddeiliad newydd y contract;

(c)os oedd yn ofynnol i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig pellach o dan adran 31(4) i (6), â diwrnod cyntaf y cyfnod a grybwyllir yn adran 31(6).

(4)Os yw’r llys yn fodlon bod y sail yn is-adran (1)(a), (1)(b) neu (1)(c) wedi ei phrofi, caiff wneud datganiad sy’n nodi’r teler cywir.

(5)Os yw’r llys yn fodlon bod y sail yn is-adran (1)(d) wedi ei phrofi, caiff wneud datganiad nad yw’r teler yn un o delerau’r contract.

(6)Caiff y llys—

(a)cysylltu datganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth i’w ddatganiad, neu

(b)gorchymyn i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig wedi ei gywiro o’r contract i ddeiliad y contract.

(7)Os yw’r llys yn fodlon bod y datganiad ysgrifenedig yn anghywir fel y disgrifir yn is-adran (1) oherwydd diffyg bwriadol ar ran y landlord, caiff orchymyn i’r landlord dalu tâl digolledu i ddeiliad y contract o dan adran 87.

(8)Mae’r tâl digolledu yn daladwy ar gyfer y cyfnod, heb fod yn hwy na dau fis, a bennir gan y llys; a chaiff y llys orchymyn i’r landlord dalu llog ar unrhyw raddfa ac wedi ei gyfrifo mewn unrhyw fodd sy’n briodol yn ei farn.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 37 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I16A. 37 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

38Datganiad anghywir: cais landlord i’r llys am ddatganiad bod contract yn gontract safonolLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth yn landlord cymunedol, ac os yw wedi rhoi i ddeiliad y contract—

(a)hysbysiad o dan adran 13 (hysbysiad o gontract safonol), ond

(b)datganiad ysgrifenedig o’r contract sy’n gyson â chontract diogel.

(2)Caiff y landlord wneud cais i’r llys am ddatganiad bod y contract yn gontract safonol.

(3)Ni chaiff y llys wneud y datganiad os yw’n fodlon mai bwriad y landlord, ar yr adeg y rhoddodd y datganiad ysgrifenedig i ddeiliad y contract, oedd y dylai’r contract fod yn gontract diogel.

(4)Os yw’r llys yn gwneud y datganiad mae pob darpariaeth sylfaenol ac atodol sy’n gymwys i’r contract wedi ei hymgorffori fel un o delerau’r contract heb ei haddasu, oni bai bod deiliad y contract yn honni nad oedd wedi ei hymgorffori neu ei bod wedi ei hymgorffori ynghyd ag addasiadau iddi.

(5)Os yw deiliad y contract yn gwneud honiad o fath a grybwyllir yn is-adran (4), rhaid i’r llys ddyfarnu ar yr honiad hwnnw.

(6)Caiff y llys—

(a)cysylltu datganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth i’w ddatganiad, neu

(b)gorchymyn i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig wedi ei gywiro o’r contract i ddeiliad y contract.

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 38 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I18A. 38 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2