xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3LL+CDARPARIAETHAU SY’N GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH

PENNOD 7LL+CYMDDYGIAD GWRTHGYMDEITHASOL AC YMDDYGIAD GWAHARDDEDIG ARALL

55Ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arallLL+C

(1)Rhaid i ddeiliad y contract o dan gontract meddiannaeth beidio ag ymddwyn na bygwth ymddwyn mewn modd a allai beri niwsans neu annifyrrwch i berson sydd â hawl (o ba bynnag ddisgrifiad)—

(a)i fyw yn yr annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract meddiannaeth, neu

(b)i fyw mewn annedd neu lety arall yng nghyffiniau’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract meddiannaeth.

(2)Rhaid i ddeiliad y contract beidio ag ymddwyn na bygwth ymddwyn mewn modd a allai beri niwsans neu annifyrrwch i berson sy’n cymryd rhan mewn gweithgarwch cyfreithlon—

(a)yn yr annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract meddiannaeth, neu

(b)yng nghyffiniau’r annedd honno.

(3)Rhaid i ddeiliad y contract beidio ag ymddwyn na bygwth ymddwyn mewn modd—

(a)a allai beri niwsans neu annifyrrwch—

(i)i’r landlord o dan y contract meddiannaeth, neu

(ii)i berson (boed wedi ei gyflogi gan y landlord ai peidio) sy’n gweithredu mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r landlord o ran rheoli tai, a

(b)sy’n ymwneud yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol â swyddogaethau’r landlord o ran rheoli tai, neu’n effeithio arnynt.

(4)Ni chaiff deiliad y contract ddefnyddio na bygwth defnyddio’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract meddiannaeth, gan gynnwys unrhyw rannau cyffredin ac unrhyw ran arall o adeilad sy’n ffurfio’r annedd, at ddibenion troseddol.

(5)Rhaid i ddeiliad y contract beidio, drwy unrhyw weithred neu anwaith—

(a)caniatáu, cymell nac annog unrhyw berson sy’n byw yn yr annedd neu’n ymweld â’r annedd, i ymddwyn fel y crybwyllir yn is-adrannau (1) i (3), na

(b)caniatáu, cymell nac annog unrhyw berson i ymddwyn fel y crybwyllir yn is-adran (4).

(6)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth; mae adran 20 yn darparu—

(a)bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a

(b)na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 55 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 55 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

56Y pŵer i ddiwygio adran 55LL+C

Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio adran 55 drwy reoliadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 56 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I4A. 56 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2