xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4LL+CCYFLWR ANHEDDAU

PENNOD 2LL+CCYFLWR ANHEDDAU(MAE’R BENNOD HON YN GYMWYS I BOB CONTRACT DIOGEL, POB CONTRACT SAFONOL CYFNODOL A PHOB CONTRACT SAFONOL CYFNOD PENODOL A WNEIR AM GYFNOD O LAI NA SAITH MLYNEDD)

Mynediad i anheddau a hawliau meddianwyr a ganiateirLL+C

98Hawl y landlord i fynd i’r anneddLL+C

(1)Caiff y landlord fynd i’r annedd ar unrhyw adeg resymol at ddiben—

(a)arolygu ei stad ac arolygu a yw mewn cyflwr da, neu

(b)gwneud gwaith neu atgyweiriadau y mae angen ei wneud neu eu gwneud er mwyn cydymffurfio ag adran 91 neu 92.

(2)Rhaid i’r landlord roi o leiaf 24 awr o rybudd i ddeiliad y contract cyn arfer yr hawl honno.

(3)Mae is-adran (4) yn gymwys—

(a)pan fo’r annedd yn ffurfio rhan o adeilad yn unig, a

(b)os oes angen i’r landlord wneud gwaith neu atgyweiriadau mewn rhan arall o’r adeilad er mwyn cydymffurfio ag adran 91 neu 92.

(4)Nid yw’r landlord yn atebol am fethu â chydymffurfio ag adran 91 neu 92 os nad oes gan y landlord hawliau digonol dros y rhan arall honno o’r adeilad i allu gwneud y gwaith neu’r atgyweiriadau, ac os nad oedd yn gallu cael yr hawliau hynny ar ôl gwneud ymdrech resymol i’w cael.

(5)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel, pob contract safonol cyfnodol, a phob contract safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1A. 98 wedi ei addasu (1.12.2022) gan 2002 c. 15, Atod. 7 para. 3A(6) (fel y mewnosodwyd gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 27(2)(b))

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 98 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 98 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

99Hawliau meddianwyr a ganiateir i orfodi’r BennodLL+C

(1)Caiff meddiannydd a ganiateir sy’n cael anaf personol, neu’n dioddef colled neu ddifrod i eiddo personol o ganlyniad i fethiant y landlord i gydymffurfio ag adran 91 neu 92, orfodi’r adran berthnasol yn ei hawl ei hun drwy ddod ag achos mewn cysylltiad â’r anaf, y golled neu’r difrod.

(2)Ond os yw meddiannydd a ganiateir yn lletywr neu’n isddeiliad, ni chaiff wneud hynny oni chaniateir i’r lletywr fyw yn yr annedd, neu oni wneir y contract isfeddiannaeth, yn unol â’r contract meddiannaeth.

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel, pob contract safonol cyfnodol, a phob contract safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 99 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I4A. 99 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2