Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

PENNOD 4LL+CDELIO

LletywyrLL+C

113LletywyrLL+C

(1)Caiff deiliad y contract o dan gontract diogel ganiatáu i bersonau fyw yn yr annedd fel lletywyr.

(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 113 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 113 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

TrosglwyddoLL+C

114Trosglwyddo i olynydd posiblLL+C

(1)Caiff deiliad y contract o dan gontract diogel drosglwyddo’r contract fel y disgrifir yn yr adran hon, ond dim ond os yw’r landlord yn cydsynio.

(2)Caiff deiliad y contract drosglwyddo’r contract i—

(a)olynydd posibl, neu

(b)os oes dau neu ragor o olynwyr posibl, yr holl olynwyr posibl sy’n dymuno cael eu cynnwys yn y trosglwyddiad.

(3)Os un deiliad contract yn unig sydd, olynydd posibl yw person a fyddai, o dan adran 74, yn gymwys i olynu deiliad y contract pe byddai deiliad y contract yn marw yn union cyn y trosglwyddiad.

(4)Os oes cyd-ddeiliaid contract, olynydd posibl yw person a fyddai, o dan adran 74, yn gymwys i olynu cyd-ddeiliad contract—

(a)pe byddai’r cyd-ddeiliad contract yn marw yn union cyn y trosglwyddiad, a

(b)ar adeg y farwolaeth, os cyd-ddeiliad y contract oedd unig ddeiliad y contract.

(5)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 114 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I4A. 114 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

115Trosglwyddo i olynydd posibl: cydsyniad y landlordLL+C

Pan fo landlord yn gwrthod cydsynio neu’n cydsynio yn ddarostyngedig i amodau i drosglwyddiad a ddisgrifir yn adran 114, mae’r hyn sy’n rhesymol at ddibenion adran 84 (cydsyniad y landlord) i’w benderfynu gan roi sylw i Atodlen 6.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 115 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I6A. 115 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2