Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

PENNOD 5LL+CCONTRACTAU SAFONOL YMDDYGIAD GWAHARDDEDIG

116Gorchymyn sy’n arddodi contract safonol cyfnodol oherwydd ymddygiad gwaharddedigLL+C

(1)Os yw’r landlord o dan gontract diogel yn landlord cymunedol neu’n elusen gofrestredig, caiff y landlord wneud cais i’r llys am orchymyn o dan yr adran hon ar y sail fod deiliad y contract wedi torri adran 55 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall).

(2)Effaith gorchymyn o dan yr adran hon yw—

(a)terfynu’r contract diogel o ddyddiad a bennir yn y gorchymyn, a

(b)os yw deiliad y contract yn parhau i feddiannu ar ôl y dyddiad penodedig, creu contract safonol cyfnodol y mae ei ddyddiad meddiannu ar y dyddiad a bennir yn y gorchymyn (ac sy’n gontract safonol cyfnodol hyd ddiwedd y cyfnod prawf).

(3)Ni chaiff y llys wneud gorchymyn o dan yr adran hon onid yw’n fodlon—

(a)bod deiliad y contract wedi torri adran 55,

(b)y byddai wedi gwneud gorchymyn adennill meddiant ar y sail yn adran 157 (tor contract) ar sail yr achos hwnnw o dor contract yn unig,

(c)y bydd y landlord yn sicrhau bod rhaglen o gymorth cymdeithasol ar gael i ddeiliad y contract, sydd â’r nod o atal ymddygiad gwaharddedig, a

(d)ei bod yn rhesymol gwneud y gorchymyn.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau ynglŷn â’r gweithgareddau a’r gwasanaethau (gan gynnwys gwasanaethau cymorth, cyngor a chwnsela) y caniateir eu cynnwys mewn rhaglen o gymorth cymdeithasol at ddibenion is-adran (3).

(5)Mae Atodlen 7 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfnodau prawf, ynghylch y weithdrefn ar gyfer cael gorchymyn o dan yr adran hon, ac ynghylch telerau contract safonol cyfnodol sy’n cael ei greu o dan yr adran hon.

(6)Yn y Ddeddf hon, ystyr “contract safonol ymddygiad gwaharddedig” yw contract sy’n gontract safonol cyfnodol sy’n cael ei greu yn sgil gorchymyn o dan yr adran hon, ac nad yw ei gyfnod prawf wedi dod i ben eto.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 116 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 116(1)-(3), (5)(6) mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

I3A. 116(4) mewn grym ar 5.8.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2016/813, ergl. 2(b), Atod. Rhn. 2

I4A. 116(4) mewn grym ar 1.12.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2022/906, ergl. 2

117Trosi i gontract diogelLL+C

(1)Mae contract safonol cyfnodol a ddaeth i fodolaeth yn sgil gorchymyn o dan adran 116 ac sy’n bodoli ar ddiwedd y cyfnod prawf—

(a)yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod prawf, a

(b)yn cael ei ddisodli gan gontract diogel sydd â dyddiad meddiannu sy’n dod yn union ar ôl i’r cyfnod hwnnw ddod i ben.

(2)Ond nid yw is-adran (1) yn gymwys os yw’r cyfnod prawf yn dod i ben oherwydd paragraff 3(9) o Atodlen 7.

(3)Mae Atodlen 7 yn gwneud darpariaeth ynghylch telerau contract diogel sy’n bodoli yn sgil diwedd cyfnod prawf.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 117 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I6A. 117 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2