xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Caniateir i gyd-ddeiliad contract o dan gontract safonol cyfnodol dynnu’n ôl o’r contract drwy roi hysbysiad (“hysbysiad tynnu’n ôl”) i’r landlord.
(2)Rhaid i’r hysbysiad tynnu’n ôl bennu’r dyddiad y mae cyd-ddeiliad y contract yn bwriadu peidio â bod yn barti i’r contract (y “dyddiad tynnu’n ôl”).
(3)Rhaid i gyd-ddeiliad y contract roi rhybudd ysgrifenedig i gyd-ddeiliaid eraill y contract pan fydd yn rhoi’r hysbysiad tynnu’n ôl i’r landlord; a rhaid atodi copi o’r hysbysiad tynnu’n ôl i’r rhybudd.
(4)Rhaid i’r landlord roi rhybudd ysgrifenedig i’r cyd-ddeiliaid contract eraill cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r landlord dderbyn yr hysbysiad tynnu’n ôl; a rhaid atodi copi o’r hysbysiad tynnu’n ôl i’r rhybudd.
(5)Mae’r cyd-ddeiliad contract yn peidio â bod yn barti i’r contract ar y dyddiad tynnu’n ôl.
(6)Mae hysbysiad a roddir i’r landlord gan un neu ragor (ond nid pob un) o gyd-ddeiliaid y contract sy’n honni ei fod yn hysbysiad o dan adran 168 (hysbysiad gan ddeiliad contract i derfynu contract) i’w drin fel hysbysiad tynnu’n ôl, ac mae’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad i’w drin fel y dyddiad tynnu’n ôl.
(7)Nid yw is-adran (3) yn gymwys i hysbysiad sy’n cael ei drin fel hysbysiad tynnu’n ôl oherwydd is-adran (6).
(8)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 130 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2A. 130 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
Rhaid i Weinidogion Cymru ragnodi darpariaethau atodol sy’n pennu’r cyfnod byrraf a ganiateir rhwng y dyddiad y rhoddir hysbysiad o dan adran 130 i’r landlord, a’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 131 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I4A. 131 mewn grym ar 5.8.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2016/813, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1
I5A. 131 mewn grym ar 1.12.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2022/906, ergl. 2