RHAN 7DARPARIAETHAU NAD YDYNT OND YN GYMWYS I GONTRACTAU SAFONOL CYFNOD PENODOL
PENNOD 1TROSOLWG
132Trosolwg o’r Rhan
Nid yw’r Rhan hon ond yn gymwys i gontractau safonol cyfnod penodol, ac mae’n ymwneud ag—
a
gwahardd deiliad y contract o’r annedd am gyfnodau penodedig,
b
amrywio contractau safonol cyfnod penodol,
c
cyd-ddeiliaid contract yn tynnu’n ôl o gontractau safonol cyfnod penodol penodedig, a
d
delio (hynny yw, trosglwyddiadau).
PENNOD 2GWAHARDD AM GYFNODAU PENODEDIG
133Gwahardd deiliad contract o annedd am gyfnodau penodedig
1
Caiff contract safonol cyfnod penodol ddarparu nad oes hawl gan ddeiliad y contract i feddiannu’r annedd fel cartref yn ystod y cyfryw gyfnodau a bennir yn y contract.
2
Caiff y contract bennu cyfnodau at ddibenion is-adran (1) drwy gyfeirio at unrhyw faterion y mae’n rhesymol i ddeiliad y contract eu canfod (yn ogystal â thrwy gyfeirio at ddyddiadau penodedig).
PENNOD 3AMRYWIO CONTRACTAU
134Amrywio
1
Ni chaniateir amrywio contract safonol cyfnod penodol ac eithrio—
a
drwy gytundeb rhwng y landlord a deiliad y contract, neu
b
drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad.
2
Rhaid i unrhyw amrywiad a wneir i gontract safonol cyfnod penodol (ac eithrio drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad) fod yn unol ag adran 135.
3
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol; mae adran 20 yn darparu—
a
bod rhaid ymgorffori is-adrannau (1)(b) a (2) o’r adran hon, a
b
na chaniateir ymgorffori is-adrannau (1)(b) a (2) o’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddynt.
135Cyfyngiad ar amrywio
1
Ni chaniateir amrywio unrhyw un o delerau sylfaenol contract safonol cyfnod penodol sy’n ymgorffori unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau sylfaenol y mae is-adran (2) yn gymwys iddynt (ac eithrio drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad).
2
Mae’r is-adran hon yn gymwys i’r darpariaethau sylfaenol a ganlyn—
a
adran 134(1)(b) a (2) a’r adran hon,
b
adran 45 (gofyniad i ddefnyddio cynllun blaendal),
c
adran 52 (cyd-ddeiliad contract yn peidio â bod yn barti i’r contract meddiannaeth),
d
adran 55 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall),
e
adran 148 (terfynu a ganiateir),
f
adran 149 (hawliadau meddiant),
g
adran 155 (marwolaeth unig ddeiliad contract),
h
adran 158 (sicrhau contract drwy ddatganiad ffug),
i
adran 186(2) a (4) (cyfyngiad ar derfynu contract safonol cyfnod penodol yn ystod chwe mis cyntaf meddiannaeth),
j
adran 196 (cyfyngiad ar ddefnyddio cymal terfynu’r landlord mewn contract safonol cyfnod penodol yn ystod pedwar mis cyntaf meddiannaeth), a
k
adran 198 (torri’r rheolau blaendal: contractau sydd â chymal terfynu landlord).
3
Nid yw amrywiad i unrhyw deler sylfaenol arall (ac eithrio drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad) yn cael unrhyw effaith—
a
oni bai o ganlyniad i’r amrywiad—
i
y byddai’r ddarpariaeth sylfaenol y mae’r teler yn ei hymgorffori wedi ei hymgorffori heb ei haddasu, neu
ii
na fyddai’r ddarpariaeth sylfaenol y mae’r teler yn ei hymgorffori wedi ei hymgorffori neu y byddai wedi ei hymgorffori ynghyd ag addasiadau iddi, ond ym marn deiliad y contract effaith hyn fyddai bod sefyllfa deiliad y contract yn gwella;
b
pe byddai’r amrywiad (boed o fewn paragraff (a) ai peidio) yn golygu bod y teler sylfaenol yn anghydnaws â theler sylfaenol sy’n ymgorffori darpariaeth sylfaenol y mae is-adran (2) yn gymwys iddi.
4
Nid yw amrywiad i un o delerau contract safonol cyfnod penodol yn cael unrhyw effaith pe byddai’n golygu bod un neu ragor o delerau’r contract yn anghydnaws â theler sylfaenol (oni bai yr amrywir y teler sylfaenol hwnnw hefyd yn unol â’r adran hon mewn ffordd a fyddai’n osgoi‘r anghydnawsedd).
5
Nid yw is-adran (4) yn gymwys i amrywiad a wneir drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad.
6
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol, ond nid yw is-adran (2)(k) wedi ei hymgorffori fel un o delerau contract nad yw’n cynnwys cymal terfynu deiliad y contract; mae adran 20 yn darparu—
a
bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a
b
na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.
136Datganiad ysgrifenedig yn cofnodi amrywiad
1
Os yw contract safonol cyfnod penodol yn cael ei amrywio yn unol â’r contract neu drwy neu o ganlyniad i unrhyw ddeddfiad rhaid i’r landlord, cyn diwedd y cyfnod perthnasol, roi i ddeiliad y contract—
a
datganiad ysgrifenedig o’r teler neu’r telerau sy’n cael ei amrywio neu eu hamrywio, neu
b
datganiad ysgrifenedig o’r contract fel y’i hamrywiwyd.
2
Y cyfnod perthnasol yw’r cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod yr amrywir y contract.
3
Ni chaiff y landlord godi ffi am ddarparu datganiad ysgrifenedig o dan is-adran (1).
4
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol.
137Methu â darparu datganiad ysgrifenedig etc.
1
Os yw’r landlord o dan gontract safonol cyfnod penodol wedi methu â chydymffurfio â gofyniad o dan adran 136 mae’r landlord yn atebol i dalu tâl digolledu i ddeiliad y contract o dan adran 87.
2
Mae’r tâl digolledu yn daladwy mewn perthynas â’r dyddiad perthnasol a phob diwrnod ar ôl y dyddiad perthnasol—
a
hyd y diwrnod y mae’r landlord yn rhoi datganiad ysgrifenedig o’r teler neu’r telerau a amrywiwyd, neu o’r contract fel y’i hamrywiwyd, i ddeiliad y contract, neu
b
os yw hynny’n gynharach, hyd ddiwrnod olaf y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r dyddiad perthnasol.
3
Mae llog yn daladwy ar y tâl digolledu os yw’r landlord wedi methu â rhoi datganiad ysgrifenedig i ddeiliad y contract ar y diwrnod y cyfeirir ato yn is-adran (2)(b) neu cyn hynny.
4
Mae’r llog yn dechrau cronni ar y diwrnod y cyfeirir ato yn is-adran (2)(b), ar y raddfa sy’n bodoli o dan adran 6 o Ddeddf Talu Dyledion Masnachol yn Hwyr (Llog) 1998 (p. 20) ar ddiwedd y diwrnod hwnnw.
5
Y dyddiad perthnasol yw’r diwrnod yr amrywiwyd y contract.
6
Nid yw is-adrannau (1) i (5) yn gymwys os gellir priodoli methiant y landlord i gydymffurfio â’r gofyniad i weithred neu anwaith ar ran deiliad y contract.
7
Os, o dan adran 136, yw’r landlord yn rhoi datganiad ysgrifenedig o’r contract fel y’i hamrywiwyd i ddeiliad y contract, mae adrannau 36 a 37 (datganiadau anghyflawn ac anghywir) yn gymwys i’r datganiad fel pe bai cyfeiriadau yn yr adrannau hynny at y dyddiad perthnasol yn gyfeiriadau at y diwrnod yr amrywiwyd y contract.
PENNOD 4CYD-DDEILIAID CONTRACT: TYNNU’N ÔL
138Cyd-ddeiliad contract yn tynnu’n ôl gan ddefnyddio cymal terfynu deiliad contract
1
Os yw contract safonol cyfnod penodol yn cynnwys cymal terfynu deiliad contract, caiff ddarparu, os oes cyd-ddeiliaid contract, bod hysbysiad a roddir i’r landlord gan un neu ragor (ond nid pob un) ohonynt sy’n honni ei fod yn hysbysiad o dan y cymal terfynu i’w drin fel hysbysiad fod y cyd-ddeiliad hwnnw i’r contract (neu’r cyd-ddeiliaid hynny i’r contract) yn bwriadu tynnu’n ôl o’r contract (“hysbysiad tynnu’n ôl”).
2
Os yw’n gwneud hynny, rhaid iddo hefyd wneud darpariaeth sy’n cyfateb i is-adrannau (4) a (5) o adrannau 111 a 130.
PENNOD 5DELIO: TROSGLWYDDIADAU
Un deiliad contract
139Trosglwyddiad ar farwolaeth unig ddeiliad contract
1
Caiff contract safonol cyfnod penodol ddarparu y gellir trosglwyddo contract ar farwolaeth unig ddeiliad contract wrth weinyddu ystad deiliad y contract.
2
Nid yw adran 73 (yr hawl i olynu) yn gymwys i gontract safonol cyfnod penodol sy’n cynnwys darpariaeth o’r fath.
3
Nid yw adran 155 (terfynu contract yn dilyn marwolaeth) wedi ei hymgorffori fel un o delerau contract safonol cyfnod penodol sy’n cynnwys darpariaeth o’r fath.
Cyd-ddeiliaid contract
140Trosglwyddiadau a orfodir
1
Caiff contract safonol cyfnod penodol ddarparu y caiff un cyd-ddeiliad contract neu ragor ohonynt (os oes rhai) ei gwneud yn ofynnol i’r cyd-ddeiliad contract arall neu’r cyd-ddeiliaid contract eraill ymuno mewn trosglwyddiad o’r contract yn unol â’r contract.
2
Os yw’r contract yn cynnwys darpariaeth o’r fath, caiff y cyd-ddeiliad neu’r cyd-ddeiliaid contract sy’n dymuno trosglwyddo’r contract meddiannaeth wneud cais i’r llys am orchymyn fod y cyd-ddeiliad contract arall neu’r cyd-ddeiliaid contract eraill yn ymuno yn y trosglwyddiad.
3
Caiff y llys wneud y gorchymyn y gwnaed cais amdano os yw o’r farn bod hynny’n briodol.
141Buddiant cyd-ddeiliad contract
1
Mae’r adran hon yn gymwys os yw contract safonol cyfnod penodol yn darparu y caiff cyd-ddeiliad contract drosglwyddo ei hawliau a’i rwymedigaethau o dan y contract.
2
Rhaid i’r contract hefyd ddarparu na chaniateir trosglwyddo oni bai bod y trosglwyddwr yn rhoi hysbysiad i’r cyd-ddeiliaid contract eraill y gwneir trosglwyddiad.
3
Rhaid i’r contract hefyd ddarparu nad oes gan y trosglwyddai hawl i feddiannu’r annedd heb gydsyniad y cyd-ddeiliaid contract eraill.
142Trosglwyddo ar farwolaeth cyd-ddeiliad contract
1
Mae’r adran hon yn gymwys os yw contract safonol cyfnod penodol yn darparu y caniateir, ar farwolaeth cyd-ddeiliad contract, trosglwyddo ei hawliau a’i rwymedigaethau o dan y contract wrth weinyddu ei ystad.
2
Rhaid i’r contract hefyd ddarparu na chaniateir gwneud trosglwyddiad oni bai bod cyd-ddeiliad y contract yn rhoi hysbysiad i’r cyd-ddeiliaid contract eraill, cyn ei farwolaeth, y gwneir trosglwyddiad o’r fath.
3
Rhaid i’r contract hefyd ddarparu nad oes gan y trosglwyddai hawl i feddiannu’r annedd heb gydsyniad y cyd-ddeiliaid contract eraill.