RHAN 9TERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH
PENNOD 3TERFYNU POB CONTRACT MEDDIANNAETH (HAWLIAD MEDDIANT GAN LANDLORD)
Tor contract
157Tor contract
1
Os yw deiliad y contract o dan gontract meddiannaeth yn cyflawni tor contract, caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.
2
Mae adran 209 yn darparu na chaiff y llys wneud gorchymyn adennill meddiant ar y sail honno oni bai ei fod yn ystyried ei bod yn rhesymol gwneud hynny (ac mae rhesymoldeb i’w benderfynu gan roi sylw i Atodlen 10).
3
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.
158Datganiad ffug sy’n darbwyllo’r landlord i wneud contract i’w drin fel tor contract
1
Os yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth yn cael ei ddarbwyllo i wneud y contract drwy ddatganiad ffug perthnasol—
a
mae deiliad y contract i’w drin fel pe bai wedi torri’r contract meddiannaeth, a
b
caiff y landlord, felly, wneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 157 (tor contract).
2
Mae datganiad ffug yn berthnasol os caiff ei wneud yn fwriadol neu’n fyrbwyll gan—
a
deiliad y contract, neu
b
person arall sy’n gweithredu ar symbyliad deiliad y contract.
3
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth; mae adran 20 yn darparu—
a
bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a
b
na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.
159Cyfyngiadau ar adran 157
1
Cyn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 157, rhaid i’r landlord roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n pennu’r sail honno.
2
Caiff y landlord wneud hawliad meddiant gan ddibynnu ar dorri adran 55 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall) ar neu ar ôl y diwrnod y mae’r landlord yn rhoi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n nodi bod yr adran honno wedi ei thorri.
3
Ni chaiff y landlord wneud hawliad meddiant gan ddibynnu ar dorri unrhyw deler arall yn y contract cyn diwedd y cyfnod o fis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract sy’n nodi bod y teler hwnnw wedi ei dorri.
4
Yn y naill achos a’r llall, ni chaiff y landlord wneud hawliad meddiant ar ôl diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi’r hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract.
5
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.