C1RHAN 9TERFYNU ETC. CONTRACTAU MEDDIANNAETH

Annotations:
Modifications etc. (not altering text)
C1

Rhn. 9 wedi ei eithrio (1.12.2022) gan 2004 c. 34, a. 33(c) (fel y mewnosodwyd gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 28(2)(c))

C1PENNOD 9HAWLIADAU MEDDIANT: PWERAU’R LLYS

(MAE’R BENNOD HON YN GYMWYS I BOB CONTRACT MEDDIANNAETH)

I6I8C1204C1Hawliadau meddiant

1

Ni chaiff y llys wrando hawliad meddiant a wneir gan y landlord o dan gontract meddiannaeth—

a

os yw’r landlord wedi methu â gweithredu yn unol â pha un bynnag o’r darpariaethau a ganlyn sy’n gymwys—

F5i

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

ii

adran 159 (cyfyngiadau ar wneud hawliad meddiant yn dilyn tor contract);

iii

adran 161 (cyfyngiadau ar wneud hawliad meddiant ar seiliau rheoli ystad);

iv

adran 166 (cyfyngiadau ar wneud hawliad meddiant yn dilyn hysbysiad deiliad y contract: contractau diogel);

v

adran 171 (cyfyngiadau ar wneud hawliad meddiant yn dilyn hysbysiad deiliad y contract: contractau safonol cyfnodol);

vi

adran 175 (cyfyngiad ar roi hysbysiad y landlord o dan gontract safonol cyfnodol F1tan ar ôl chwe mis cyntaf meddiannaeth);

vii

adrannau F3177, 177A a 179 (cyfyngiadau yn ymwneud â hysbysiad y landlord: contractau safonol cyfnodol);

viii

adran 182 (cyfyngiadau ar wneud hawliad meddiant yn dilyn ôl-ddyledion rhent difrifol: contractau safonol cyfnodol);

ix

adran 186 (cyfyngiad yn ymwneud â hysbysiad mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol);

x

adran 188 (cyfyngiadau ar wneud hawliad meddiant yn dilyn ôl-ddyledion rhent difrifol: contractau safonol cyfnod penodol);

xi

adran 192 (cyfyngiadau ar wneud hawliad meddiant ar ôl defnyddio cymal terfynu deiliad contract mewn contract safonol cyfnod penodol);

xii

adran 196 (cyfyngiad ar ddefnyddio cymal terfynu’r landlord mewn contract safonol cyfnod penodol F2tan ar ôl 18 mis cyntaf meddiannaeth);

xiii

adrannau F6...198 a 200 (cyfyngiadau yn ymwneud â chymal terfynu’r landlord mewn contract safonol cyfnod penodol);

xiv

adran 203 (adolygiad o benderfyniad i roi hysbysiad yn ceisio meddiant: contractau safonol rhagarweiniol a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedig),

F4xv

Atodlen 9A (cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adrannau 173 a 186 ac o dan gymal terfynu’r landlord: torri rhwymedigaethau statudol), neu

b

os oedd yn ofynnol i’r landlord roi hysbysiad adennill meddiant a’i fod wedi methu â chydymffurfio ag adran 150 neu (mewn perthynas â chontract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig) adran 151.

2

Nid yw is-adran (1) yn gymwys os yw’r llys yn ystyried ei bod yn rhesymol hepgor y gofynion a grybwyllir yn yr is-adran honno.

3

Nid yw is-adran (1) yn gymwys i gais am orchymyn adennill meddiant yn erbyn isddeiliad o dan adran 65(2) (gorchymyn adennill meddiant estynedig).

I1I4C1205C1Gorchmynion adennill meddiant

1

Ni chaiff y llys wneud gorchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract o dan gontract meddiannaeth ildio meddiant o’r annedd ond ar un neu ragor o’r seiliau yn—

a

adran 157 (tor contract);

b

adran 160 (rheoli ystad);

c

adran 165 (hysbysiad deiliad y contract: contractau diogel);

d

adran 170 (hysbysiad deiliad y contract: contractau safonol cyfnodol);

e

adran 178 (hysbysiad y landlord: contractau safonol cyfnodol);

f

adran 181 (ôl-ddyledion rhent difrifol: contractau safonol cyfnodol);

g

adran 186 (hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol);

h

adran 187 (ôl-ddyledion rhent difrifol: contractau safonol cyfnod penodol);

i

adran 191 (hysbysiad deiliad y contract: contractau safonol cyfnod penodol);

j

adran 199 (hysbysiad y landlord: contractau safonol cyfnod penodol).

2

Pan fo’n ofynnol i’r landlord roi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract, ni chaiff y llys wneud gorchymyn adennill meddiant ar sail nad yw wedi ei phennu yn hysbysiad adennill meddiant y landlord.

3

Ond caiff y llys ganiatáu addasu neu ychwanegu at y sail (neu’r seiliau) a bennir yn yr hysbysiad adennill meddiant ar unrhyw adeg cyn i’r llys wneud gorchymyn adennill meddiant.

I2I9C1206C1Effaith gorchymyn adennill meddiant

C21

Os yw’r llys yn gwneud gorchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract o dan gontract meddiannaeth ildio meddiant o’r annedd ar ddyddiad a bennir yn y gorchymyn, daw’r contract i ben—

a

os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar y dyddiad hwnnw, neu cyn hynny, ar y dyddiad hwnnw,

b

os yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd ar ôl y dyddiad hwnnw ond cyn gweithredu’r gorchymyn adennill meddiant, ar y diwrnod y mae’n ildio meddiant o’r annedd, neu

c

os nad yw deiliad y contract yn ildio meddiant o’r annedd cyn gweithredu’r gorchymyn adennill meddiant, pan weithredir y gorchymyn adennill meddiant.

2

Mae is-adran (3) yn gymwys—

a

os yw’n amod o’r gorchymyn fod yn rhaid i’r landlord gynnig contract meddiannaeth newydd mewn perthynas â’r un annedd i un neu ragor o’r cyd-ddeiliaid contract (ond nid pob un ohonynt), a

b

os yw’r cyd-ddeiliad contract hwnnw (neu’r cyd-ddeiliaid contract hynny) yn parhau i feddiannu’r annedd ar ddiwrnod meddiannu’r contract newydd ac ar ôl hynny.

3

Daw’r contract meddiannaeth y gwnaed y gorchymyn adennill meddiant mewn perthynas ag ef i ben yn union cyn dyddiad meddiannu’r contract newydd.

4

Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.

I3I7C1207C1Cymryd rhan mewn achos

1

Mae hawl gan berson sy’n meddiannu annedd sy’n ddarostyngedig i gontract meddiannaeth, ac sydd â hawliau cartref, cyhyd ag y bo’r person yn parhau i’w meddiannu—

a

i fod yn barti i unrhyw achos ar hawliad meddiant sy’n ymwneud â’r annedd, neu mewn cysylltiad â gorchymyn adennill meddiant o’r annedd, neu

b

i geisio gohiriad, ataliad neu oediad o dan adran 211, 214 neu 219.

2

Mae i “hawliau cartref” yr un ystyr ag a roddir i “home rights” yn adran 30(2) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 (p. 27).

I10I5C1208C1Camliwio neu gelu ffeithiau i gael gorchymyn adennill meddiant

1

Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r llys, ar ôl i’r landlord o dan gontract meddiannaeth gael gorchymyn adennill meddiant yn erbyn deiliad y contract, yn fodlon bod y gorchymyn wedi ei gael drwy gamliwio neu gelu ffeithiau perthnasol.

2

Caiff y llys orchymyn i’r landlord dalu i ddeiliad y contract unrhyw swm sy’n ymddangos yn ddigollediad digonol am niwed neu golled a gafodd deiliad y contract o ganlyniad i’r gorchymyn.