Adran 31 | Rhaid i landlord (“L”) roi datganiad ysgrifenedig o gontract meddiannaeth i ddeiliad contract (“D-C”) | |
Adrannau 39 a 40 | Rhaid i L roi enw a chyfeiriad L i D-C ynghyd â gwybodaeth arall | |
Adran 41 | Rhaid i hysbysiadau a dogfennau fod mewn ysgrifen | |
Adrannau 43 a 45 | Talu blaendaliadau etc. a’r gofyniad bod L yn defnyddio cynllun blaendal awdurdodedig | Rhaid ymgorffori adran 45 heb ei haddasu. |
Adran 49 | Caniateir i D-C, gyda chydsyniad L, ychwanegu cyd D-C | |
Adran 52 | Hawliau cyd D-C pan fo cyd D-C arall yn marw neu’n gadael y contract fel arall | Rhaid ei hymgorffori heb ei haddasu. |
Adran 54 | Rhaid i L beidio ag ymyrryd â hawl D-C i feddiannu’r annedd | |
Adran 55 | Ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall | Rhaid ei hymgorffori heb ei haddasu. |
Adran 57 | Ni chaniateir i D-C ddelio â’r contract meddiannaeth ond mewn ffyrdd cyfyngedig | |
Adran 88 | Caniateir i D-C osod tâl digolledu y mae L yn atebol i’w dalu o dan adran 87 yn erbyn rhent D-C | |
Adrannau 91 i 93 a 95 i 99 | Rhwymedigaethau L i gadw’r annedd mewn cyflwr da etc. | |
Adrannau 103 i 109 | Pryd a sut y caniateir amrywio contract | Rhaid ymgorffori adrannau 103(1)(b) a (2) a 108 heb eu haddasu. Nid yw adran 104 ond yn gymwys i gontractau y mae rhent yn daladwy oddi tanynt, ac nid yw adran 105 ond yn gymwys i gontractau y mae cydnabyddiaeth heblaw am rhent yn daladwy oddi tanynt. |
Adran 111 | Cyd D-C yn tynnu’n ôl | |
Adran 113 | Caniateir i D-C gael lletywyr | |
Adran 114 | Caniateir i D-C drosglwyddo contract i olynwyr posibl | |
Adran 118 | Hawl D-C i drosglwyddo i D-C diogel eraill | Ond yn gymwys pan fo L yn landlord cymunedol. |
Adrannau 148 i 150 | Darpariaeth gyffredinol yn ymwneud â therfynu contract | Rhaid ymgorffori adrannau 148 a 149 heb eu haddasu. |
Adrannau 152 i 155 | Terfynu heb hawliad meddiant | Rhaid ymgorffori adran 155 (marwolaeth D-C) heb ei haddasu. |
Adrannau 157 i 159 | Terfynu gan L ar sail tor contract | |
Adrannau 160 a 161 a Rhan 1 o Atodlen 8 | Terfynu gan L ar sail rheoli ystad | |
Adrannau 163 i 167 | Terfynu drwy hysbysiad a roddir gan D-C | |
Adran 206 | Effaith gorchymyn adennill meddiant | |
Adran 231 | Terfynu contract sydd â chyd D-C | |