ATODLEN 1LL+CTROSOLWG O DDARPARIAETHAU SYLFAENOL A YMGORFFORIR FEL TELERAU CONTRACTAU MEDDIANNAETH

RHAN 2LL+CCONTRACTAU SAFONOL CYFNODOL

TABL 4

DARPARIAETH SYLFAENOLNATUR Y DDARPARIAETHNODIADAU
Adran 31Rhaid i landlord (“L”) roi datganiad ysgrifenedig o gontract meddiannaeth i ddeiliad contract (“D-C”)
Adrannau 39 a 40Rhaid i L roi enw a chyfeiriad L i D-C ynghyd â gwybodaeth arall
Adran 41Rhaid i hysbysiadau a dogfennau fod mewn ysgrifen
Adrannau 43 a 45Talu blaendaliadau etc. a’r gofyniad bod L yn defnyddio cynllun blaendal awdurdodedigRhaid ymgorffori adran 45 heb ei haddasu.
Adran 49Caniateir i D-C, gyda chydsyniad L, ychwanegu cyd D-C
Adran 52Hawliau cyd D-C pan fydd cyd D-C arall yn marw neu’n gadael y contract fel arallRhaid ei hymgorffori heb ei haddasu.
Adran 54Rhaid i L beidio ag ymyrryd â hawl D-C i feddiannu’r annedd
Adran 55Ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arallRhaid ei hymgorffori heb ei haddasu.
Adran 57Ni chaniateir i D-C ddelio â’r contract meddiannaeth ond mewn ffyrdd cyfyngedig
Adran 88Caniateir i D-C osod tâl digolledu y mae L yn atebol i’w dalu o dan adran 87 yn erbyn rhent D-C
Adrannau 91 i 93 a 95 i 99Rhwymedigaethau L i gadw’r annedd mewn cyflwr da etc.
Adrannau 122 i 128Pryd a sut y caniateir amrywio’r contractRhaid ymgorffori adrannau [F1122(1)(b)] a (2) a 127 heb eu haddasu. Nid yw adran 123 ond yn gymwys i gontractau y mae rhent yn daladwy oddi tanynt [F2ac nad ydynt yn denantiaethau cymdeithas dai (o ran hynny, gweler adran 93 o Ddeddf Rhenti 1977 (p. 42))], ac nid yw adran 124 ond yn gymwys i gontractau y mae cydnabyddiaeth heblaw am rhent yn daladwy oddi tanynt. F3...
Adran 130Cyd D-C yn tynnu’n ôl
Adran 145Hawl L i wahardd D-C dros dro o lety â chymorthOnd yn gymwys i gontractau safonol â chymorth (gweler adran 143).
Adrannau 148 i 150Darpariaeth gyffredinol yn ymwneud â therfynu contractRhaid ymgorffori adrannau 148 a 149 heb eu haddasu.
Adran 151Darpariaeth bellach ynghylch hysbysiadau sy’n eu gwneud yn ofynnol i ddeiliad-contract ildio meddiantOnd yn gymwys i gontractau safonol rhagarweiniol a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedig.
Adrannau 152 i 155Terfynu heb hawliad meddiantRhaid ymgorffori adran 155 (marwolaeth D-C) heb ei haddasu.
Adrannau 157 i 159Terfynu gan L ar sail tor contractRhaid ymgorffori adran 158 (cymell L i wneud contract drwy ddatganiad ffug) heb ei haddasu.
Adrannau 160 a 161 a Rhan 1 o Atodlen 8Terfynu gan L ar sail rheoli ystad
Adrannau 168 i 172Terfynu drwy hysbysiad a roddir gan D-C
[F4Adrannau 173 i 175 a 177 i 180, a Rhan 1 o Atodlen 9A]Terfynu drwy hysbysiad a roddir gan L [F5Os nad yw adran 173 yn cael ei hymgorffori, nid yw adrannau 174 i 177A nac Atodlen 9A yn gymwys; ond os yw’r contract yn ymgorffori adran 173, rhaid ymgorffori Rhan 1 o Atodlen 9A heb addasiadau iddi. Mae adran 174A yn gymwys yn hytrach nag adran 174 i gontract sydd o fewn Atodlen 8A, ac nid yw adran 175 yn gymwys i gontract sydd o fewn Atodlen 9 (hyd yn oed os yw adran 173 wedi ei hymgorffori).]
Adrannau 181 a 182Terfynu gan L ar sail ôl-ddyledion rhent difrifolYn adran 182, nid yw is-adran (2) yn gymwys i gontractau safonol rhagarweiniol a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedig, ac nid yw is-adran (3) ond yn gymwys i gontractau o’r fath.
Adran 183Hawliadau meddiant pan fo contract yn bodoli yn sgil diwedd contract safonol cyfnod penodolOnd yn gymwys i gontract sydd yn bodoli yn sgil diwedd contract safonol cyfnod penodol (gweler adran 184(2)).
Adran 206Effaith gorchymyn adennill meddiant
Adran 231Terfynu contract sydd â chyd D-C
Paragraff 7 o Atodlen 4Amrywio contract diogel yr ymdrinnir ag ef mewn datganiad ysgrifenedig o gontract safonol rhagarweiniolNid yw ond yn gymwys i gontractau safonol rhagarweiniol pan fo’r datganiad ysgrifenedig yn ymdrin â’r contract diogel a allai godi ar ddiwedd y cyfnod rhagarweiniol, yn unol â pharagraff 6(2) o Atodlen 4.