xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 Rhn. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2Atod. 1 Rhn. 2 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
DARPARIAETH SYLFAENOL | NATUR Y DDARPARIAETH | NODIADAU |
---|---|---|
Adran 31 | Rhaid i landlord (“L”) roi datganiad ysgrifenedig o gontract meddiannaeth i ddeiliad contract (“D-C”) | |
Adrannau 39 a 40 | Rhaid i L roi enw a chyfeiriad L i D-C ynghyd â gwybodaeth arall | |
Adran 41 | Rhaid i hysbysiadau a dogfennau fod mewn ysgrifen | |
Adrannau 43 a 45 | Talu blaendaliadau etc. a’r gofyniad bod L yn defnyddio cynllun blaendal awdurdodedig | Rhaid ymgorffori adran 45 heb ei haddasu. |
Adran 49 | Caniateir i D-C, gyda chydsyniad L, ychwanegu cyd D-C | |
Adran 52 | Hawliau cyd D-C pan fydd cyd D-C arall yn marw neu’n gadael y contract fel arall | Rhaid ei hymgorffori heb ei haddasu. |
Adran 54 | Rhaid i L beidio ag ymyrryd â hawl D-C i feddiannu’r annedd | |
Adran 55 | Ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall | Rhaid ei hymgorffori heb ei haddasu. |
Adran 57 | Ni chaniateir i D-C ddelio â’r contract meddiannaeth ond mewn ffyrdd cyfyngedig | |
Adran 88 | Caniateir i D-C osod tâl digolledu y mae L yn atebol i’w dalu o dan adran 87 yn erbyn rhent D-C | |
Adrannau 91 i 93 a 95 i 99 | Rhwymedigaethau L i gadw’r annedd mewn cyflwr da etc. | |
Adrannau 122 i 128 | Pryd a sut y caniateir amrywio’r contract | Rhaid ymgorffori adrannau [F1122(1)(b)] a (2) a 127 heb eu haddasu. Nid yw adran 123 ond yn gymwys i gontractau y mae rhent yn daladwy oddi tanynt [F2ac nad ydynt yn denantiaethau cymdeithas dai (o ran hynny, gweler adran 93 o Ddeddf Rhenti 1977 (p. 42))], ac nid yw adran 124 ond yn gymwys i gontractau y mae cydnabyddiaeth heblaw am rhent yn daladwy oddi tanynt. F3... |
Adran 130 | Cyd D-C yn tynnu’n ôl | |
Adran 145 | Hawl L i wahardd D-C dros dro o lety â chymorth | Ond yn gymwys i gontractau safonol â chymorth (gweler adran 143). |
Adrannau 148 i 150 | Darpariaeth gyffredinol yn ymwneud â therfynu contract | Rhaid ymgorffori adrannau 148 a 149 heb eu haddasu. |
Adran 151 | Darpariaeth bellach ynghylch hysbysiadau sy’n eu gwneud yn ofynnol i ddeiliad-contract ildio meddiant | Ond yn gymwys i gontractau safonol rhagarweiniol a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedig. |
Adrannau 152 i 155 | Terfynu heb hawliad meddiant | Rhaid ymgorffori adran 155 (marwolaeth D-C) heb ei haddasu. |
Adrannau 157 i 159 | Terfynu gan L ar sail tor contract | Rhaid ymgorffori adran 158 (cymell L i wneud contract drwy ddatganiad ffug) heb ei haddasu. |
Adrannau 160 a 161 a Rhan 1 o Atodlen 8 | Terfynu gan L ar sail rheoli ystad | |
Adrannau 168 i 172 | Terfynu drwy hysbysiad a roddir gan D-C | |
[F4Adrannau 173 i 175 a 177 i 180, a Rhan 1 o Atodlen 9A] | Terfynu drwy hysbysiad a roddir gan L | [F5Os nad yw adran 173 yn cael ei hymgorffori, nid yw adrannau 174 i 177A nac Atodlen 9A yn gymwys; ond os yw’r contract yn ymgorffori adran 173, rhaid ymgorffori Rhan 1 o Atodlen 9A heb addasiadau iddi. Mae adran 174A yn gymwys yn hytrach nag adran 174 i gontract sydd o fewn Atodlen 8A, ac nid yw adran 175 yn gymwys i gontract sydd o fewn Atodlen 9 (hyd yn oed os yw adran 173 wedi ei hymgorffori).] |
Adrannau 181 a 182 | Terfynu gan L ar sail ôl-ddyledion rhent difrifol | Yn adran 182, nid yw is-adran (2) yn gymwys i gontractau safonol rhagarweiniol a chontractau safonol ymddygiad gwaharddedig, ac nid yw is-adran (3) ond yn gymwys i gontractau o’r fath. |
Adran 183 | Hawliadau meddiant pan fo contract yn bodoli yn sgil diwedd contract safonol cyfnod penodol | Ond yn gymwys i gontract sydd yn bodoli yn sgil diwedd contract safonol cyfnod penodol (gweler adran 184(2)). |
Adran 206 | Effaith gorchymyn adennill meddiant | |
Adran 231 | Terfynu contract sydd â chyd D-C | |
Paragraff 7 o Atodlen 4 | Amrywio contract diogel yr ymdrinnir ag ef mewn datganiad ysgrifenedig o gontract safonol rhagarweiniol | Nid yw ond yn gymwys i gontractau safonol rhagarweiniol pan fo’r datganiad ysgrifenedig yn ymdrin â’r contract diogel a allai godi ar ddiwedd y cyfnod rhagarweiniol, yn unol â pharagraff 6(2) o Atodlen 4. |
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn Atod. 1 Rhn. 2 tabl 4 wedi ei amnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 6 para. 22(2)(a)(i)
F2Geiriau yn Atod. 1 Rhn. 2 tabl 4 wedi eu mewnosod (1.12.2022) gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Tenantiaethau Cymdeithas Dai: Darpariaethau Sylfaenol) 2022 (O.S. 2022/799), rhlau. 1, 5(6)(b) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2022/906, erglau. 1(2), 14)
F3Geiriau yn Atod. 1 Rhn. 2 tabl 4 wedi eu hepgor (7.6.2021) yn rhinwedd Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 6 para. 22(2)(a)(ii)
F4Geiriau yn Atod. 1 Rhn. 2 tabl 4 wedi eu hamnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 6 para. 22(2)(b)(i)
F5Geiriau yn Atod. 1 Rhn. 2 tabl 4 wedi eu hamnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 6 para. 22(2)(b)(ii)