xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 12TROSI TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU PRESENNOL SY’N BODOLI CYN I BENNOD 3 O RAN 10 DDOD I RYM

Olyniaeth

21(1)Mae deiliad y contract o dan gontract wedi ei drosi i’w drin fel olynydd wrth gefn mewn perthynas â’r contract—

(a)os oedd y contract wedi ei drosi, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth o ddisgrifiad sydd yng ngholofn 1 o Dabl 7,

(b)os oedd, cyn y diwrnod penodedig, wedi ei freinio yn neiliad y contract o dan y ddarpariaeth sydd yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw, ac

(c)os oedd deiliad y contract yn gymwys i olynu oherwydd y darpariaethau sydd yng ngholofn 3 o’r Tabl hwnnw.

TABL 7

Y MATH O DENANTIAETHY DDARPARIAETH FREINIOY DARPARIAETHAU CYMHWYSO
Tenantiaeth ddiogelAdran 89 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68)Adrannau 87(b) a 113(1)(b) o’r Ddeddf honno
Tenantiaeth ragarweiniolAdran 133 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52)Adrannau 131(b) a 140(1)(b) o’r Ddeddf honno
Tenantiaeth israddAdran 143H o Ddeddf Tai 1996Adran 143P(1)(c) o’r Ddeddf honno

(2)Mae deiliad y contract o dan gontract wedi ei drosi i’w drin fel olynydd wrth gefn mewn perthynas â’r contract—

(a)os oedd y contract, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth sicr, a

(b)os oedd deiliad y contract, cyn y diwrnod penodedig, wedi dod â hawl i’r denantiaeth sicr o dan baragraff 3 o Atodlen 1 i Ddeddf Rhenti 1977 (p. 42) (olyniaeth).

(3)Mae deiliad y contract o dan gontract wedi ei drosi i’w drin fel olynydd wrth gefn mewn perthynas â’r contract—

(a)os oedd y contract, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth sicr,

(b)os oedd, cyn y diwrnod penodedig, wedi ei freinio yn neiliad y contract o dan adran 17 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50) (olynu i denantiaeth sicr), ac

(c)os oedd y landlord o dan y contract, ar y diwrnod penodedig, yn landlord preifat.