ATODLEN 12TROSI TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU PRESENNOL SY’N BODOLI CYN I BENNOD 3 O RAN 10 DDOD I RYM

I3I1I221Olyniaeth

1

Mae deiliad y contract o dan gontract wedi ei drosi i’w drin fel olynydd wrth gefn mewn perthynas â’r contract—

a

os oedd y contract wedi ei drosi, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth o ddisgrifiad sydd yng ngholofn 1 o Dabl 7,

b

os oedd, cyn y diwrnod penodedig, wedi ei freinio yn neiliad y contract o dan y ddarpariaeth sydd yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw, ac

c

os oedd deiliad y contract yn gymwys i olynu oherwydd y darpariaethau sydd yng ngholofn 3 o’r Tabl hwnnw.

TABL 7

Y MATH O DENANTIAETH

Y DDARPARIAETH FREINIO

Y DARPARIAETHAU CYMHWYSO

Tenantiaeth ddiogel

Adran 89 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68)

Adrannau 87(b) a 113(1)(b) o’r Ddeddf honno

Tenantiaeth ragarweiniol

Adran 133 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52)

Adrannau 131(b) a 140(1)(b) o’r Ddeddf honno

Tenantiaeth isradd

Adran 143H o Ddeddf Tai 1996

Adran 143P(1)(c) o’r Ddeddf honno

2

Mae deiliad y contract o dan gontract wedi ei drosi i’w drin fel olynydd wrth gefn mewn perthynas â’r contract—

a

os oedd y contract, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth sicr, a

b

os oedd deiliad y contract, cyn y diwrnod penodedig, wedi dod â hawl i’r denantiaeth sicr o dan baragraff 3 o Atodlen 1 i Ddeddf Rhenti 1977 (p. 42) (olyniaeth).

3

Mae deiliad y contract o dan gontract wedi ei drosi i’w drin fel olynydd wrth gefn mewn perthynas â’r contract—

a

os oedd y contract, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth sicr,

b

os oedd, cyn y diwrnod penodedig, wedi ei freinio yn neiliad y contract o dan adran 17 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50) (olynu i denantiaeth sicr), ac

c

os oedd y landlord o dan y contract, ar y diwrnod penodedig, yn landlord preifat.