ATODLEN 12TROSI TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU PRESENNOL SY’N BODOLI CYN I BENNOD 3 O RAN 10 DDOD I RYM
22Gofyniad i feddiannu annedd fel prif gartref o dan gontractau penodol wedi eu trosi
1
Mae is-baragraff (2) yn cael effaith mewn perthynas â chontract wedi ei drosi y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo fel pe bai’n ddarpariaeth atodol a ragnodwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 23.
2
Rhaid i ddeiliad y contract (neu o leiaf un ohonynt, os oes mwy nag un) feddiannu’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract fel ei unig gartref neu ei brif gartref.
3
Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gontract wedi ei drosi a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig—
a
yn denantiaeth warchodedig neu denantiaeth statudol,
b
yn denantiaeth ddiogel,
c
yn denantiaeth sicr,
d
yn denantiaeth ragarweiniol, neu
e
yn denantiaeth isradd.