Search Legislation

Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, ATODLEN 12 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 28 Ebrill 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to Schedule 12:

  • specified provision(s) savings for amendments by 2018 anaw 1, s. 6, Sch. 6 by S.I. 2019/110 reg. 5

Changes and effects yet to be applied to the whole Act associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Act (including any effects on those provisions):

(a gyflwynir gan adran 240)

ATODLEN 12LL+CTROSI TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU PRESENNOL SY’N BODOLI CYN I BENNOD 3 O RAN 10 DDOD I RYM

This schedule has no associated Explanatory Notes

DiffiniadauLL+C

1(1)Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “contract diogel wedi ei drosi” (“converted secure contract”) yw contract wedi ei drosi a ddaeth yn gontract diogel ar y diwrnod penodedig;

  • ystyr “contract safonol wedi ei drosi” (“converted standard contract”) yw contract wedi ei drosi a ddaeth yn gontract safonol ar y diwrnod penodedig;

  • [F1mae i “contract sy’n cymryd lle contract arall” (“substitute contract”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 32;]

  • ystyr “contract wedi ei drosi” (“converted contract”) yw tenantiaeth neu drwydded a fodolai yn union cyn y diwrnod penodedig ac a ddaeth yn gontract meddiannaeth ar y diwrnod hwnnw;

  • mae i “cyfnod darparu gwybodaeth” (“information provision period”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 11(1);

  • y “cyfnod hysbysu cychwynnol” (“initial notice period”) yw’r cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod penodedig.

  • [F2ystyr “MAS wedi ei throsi” (“converted AAO”) yw contract wedi ei drosi a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn feddiannaeth amaethyddol sicr;]

  • [F2mae i “meddiannaeth amaethyddol sicr” yr un ystyr ag a roddir i “assured agricultural occupancy” yn Rhan 1 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50) (gweler adran 24(1) o’r Ddeddf honno)]

  • [F2mae “tenantiaeth sicr” (“assured tenancy”) yn cynnwys cyfeiriad at feddiannaeth amaethyddol sicr a drinnir fel tenantiaeth sicr o dan adran 24(3) o Ddeddf Tai 1988 (yn ogystal â meddiannaeth amaethyddol sicr sy’n denantiaeth sicr);]

(2)Gweler adran 242 am ddiffiniadau o dermau eraill a ddefnyddir yn yr Atodlen hon.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 12 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2Atod. 12 para. 1 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Penderfynu a yw tenantiaeth neu drwydded sy’n bodoli eisoes yn gontract meddiannaethLL+C

2(1)Mae Atodlen 2 yn gymwys i—

(a)tenantiaeth neu drwydded a oedd yn denantiaeth ddiogel, yn denantiaeth sicr, yn denantiaeth ragarweiniol neu’n denantiaeth isradd yn union cyn y diwrnod penodedig, a

(b)tenantiaeth a fodolai yn union cyn y diwrnod penodedig ond nad yw o fewn paragraff (a),

fel pe bai paragraffau 3(2)(b) a 4 (sefydliadau gofal) wedi eu hepgor.

(2)Mae Atodlen 2 yn gymwys i denantiaeth a oedd yn denantiaeth ddiogel, yn denantiaeth sicr, yn denantiaeth ragarweiniol neu’n denantiaeth isradd yn union cyn y diwrnod penodedig fel pe bai paragraffau 3(2)(c) a 5 (trefniadau hwylus dros dro) wedi eu hepgor.

[F3(2A)Mae Atodlen 2 yn gymwys i denantiaeth neu drwydded a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth ddiogel neu’n denantiaeth sicr fel pe bai paragraff 7(3)(k)(i) o’r Atodlen honno wedi ei hepgor.]

(3)Caiff y landlord, mewn perthynas â thenantiaeth neu drwydded a fodolai yn union cyn y diwrnod penodedig, roi hysbysiad o dan baragraff 1 neu 3 o Atodlen 2 ar unrhyw adeg cyn diwedd y cyfnod hysbysu cychwynnol.

(4)Os yw’r landlord yn gwneud hynny, mae’r denantiaeth neu’r drwydded i’w thrin fel pe bai wedi dod yn gontract meddiannaeth ar y diwrnod penodedig.

[F4(5)Nid yw Rhan 5 o Atodlen 2 (rheolau arbennig sy’n gymwys i lety â chymorth) yn gymwys i—

(a)tenantiaeth a oedd yn bodoli yn union cyn y diwrnod penodedig;

(b)trwydded—

(i)a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth ddiogel;

(ii)sydd â dyddiad dechrau (o fewn yr ystyr a roddir ym mharagraff 13(5) o Atodlen 2) sy’n dod mwy na 6 mis cyn y diwrnod penodedig.

(6)Wrth eu cymhwyso i denantiaeth neu drwydded a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn feddiannaeth amaethyddol sicr—

(a)mae adran 7 (tenantiaethau a thrwyddedau sy’n gontractau meddiannaeth) yn gymwys fe pe bai isadran (1)(b) (rhaid i rent neu gydnabyddiaeth arall fod yn daladwy) wedi ei hepgor, a

(b)mae Atodlen 2 yn gymwys fel pe bai paragraff 1(2) wedi ei hepgor.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 12 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I4Atod. 12 para. 2 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

[F52A.(1)) Nid yw adran 7(6) a pharagraff 7(2) o Atodlen 2 yn gymwys i drwydded pan fo, yn union cyn y diwrnod penodedig—

(a)y trwyddedai yn 16 neu 17 oed, a

(b)y drwydded yn—

(i)tenantiaeth ddiogel, neu

(ii)meddiannaeth amaethyddol sicr.

(2)Pan fo is-baragraff (1) yn gymwys, mae’r Ddeddf hon yn gymwys i ddeiliad y contract fel pe bai ef neu hi yn 18 oed.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 12 para. 2A mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Penderfynu a yw contract wedi ei drosi yn gontract diogel neu’n gontract safonolLL+C

3(1)Mae adrannau 11 i 17 (landlordiaid cymunedol a landlordiaid preifat) yn gymwys i gontract wedi ei drosi—

(a)y mae’r landlord oddi tano yn landlord preifat, a

(b)a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth ddiogel yr oedd y landlord oddi tani yn landlord preifat,

fel pe bai’r landlord yn landlord cymunedol.

(2)Ond yn adran 14 (adolygu hysbysiad o gontract safonol) mae is-adran (1) yn gymwys fel pe bai “a bod penderfyniad y landlord i roi’r hysbysiad yn ddarostyngedig i adolygiad barnwrol” wedi ei fewnosod ar ôl “adran 13”.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 12 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I7Atod. 12 para. 3 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

4(1)Caiff y landlord o dan gontract wedi ei drosi [F6y mae adran 11 yn gymwys iddo (pa un ai o dan baragraff 3 ai peidio)] roi [F7hysbysiad fel y’i disgrifir yn] adran 11(2)(b) (hysbysiad o gontract safonol) ar unrhyw adeg cyn diwedd y cyfnod hysbysu cychwynnol.

(2)Os yw’r landlord yn gwneud hynny, mae’r contract i’w drin fel pe bai wedi dod yn gontract safonol ar y diwrnod penodedig.

(3)Caiff y landlord o dan gontract wedi ei drosi roi hysbysiad o dan adran 17(1) (hysbysiad o gontract diogel) ar unrhyw adeg cyn diwedd y cyfnod hysbysu cychwynnol.

(4)Os yw’r landlord yn [F8rhoi hysbysiad o dan adran 13], mae’r contract i’w drin fel pe bai wedi dod yn gontract diogel ar y diwrnod penodedig.

Diwygiadau Testunol

F7Geiriau yn Atod. 12 para. 4(1) wedi eu amnewid (14.7.2022) gan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12) 2022 (O.S. 2022/795), rhlau. 1(2), 6(a)(ii)

F8Geiriau yn Atod. 12 para. 4(2) wedi eu amnewid (14.7.2022) gan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12) 2022 (O.S. 2022/795), rhlau. 1(2), 6(b)

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 12 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I9Atod. 12 para. 4 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

[F95Mae contract wedi ei drosi a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn—

(a)tenantiaeth ragarweiniol, neu

(b)tenantiaeth fyrddaliol sicr—

(i)yr oedd y landlord yn landlord cymdeithasol cofrestredig neu’n ddarparwr cofrestredig preifat o dai cymdeithasol oddi tani, ond nid cymdeithas dai gwbl gydfuddiannol neu gymdeithas dai gydweithredol, a

(ii)y mynegwyd ei bod yn denantiaeth gychwynnol, neu fel arall ei bod yn gyfystyr â hynny,

yn cael effaith fel contract safonol rhagarweiniol (gweler paragraff 23).]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 12 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I11Atod. 12 para. 5 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

6Mae contract wedi ei drosi yn cael effaith fel contract safonol ymddygiad gwaharddedig (gweler paragraff 24) os, yn union cyn y diwrnod penodedig—

(a)oedd adran 20B o Ddeddf Tai 1988 (p. 50) (tenantiaeth fyrddaliol sicr isradd) yn gymwys iddo, neu

(b)oedd adran 143A o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) (tenantiaethau isradd) yn gymwys iddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 12 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I13Atod. 12 para. 6 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

[F106A.Nid yw contract wedi ei drosi sy’n ymwneud â llety â chymorth ond yn cael effaith fel contract safonol â chymorth os, yn union cyn y diwrnod penodedig, yr oedd y contract yn—

(a)tenantiaeth fyrddaliol sicr (gweler paragraff 24A ar gyfer darpariaeth bellach ynghylch contractau safonol â chymorth a oedd yn denantiaethau byrddaliol sicr), neu

(b)trwydded, heblaw trwydded a oedd yn denantiaeth ddiogel.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 12 para. 6A mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

7(1)Mae contract wedi ei drosi y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo yn eithriad ychwanegol i adran 11(1) (contractau a wneir â landlord cymunedol yn gontractau diogel).

(2)Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i gontract wedi ei drosi a oedd yn denantiaeth neu’n drwydded am gyfnod penodol yn union cyn y diwrnod penodedig, cyn belled â—

(a)bod premiwm wedi ei dalu am y contract, a

(b)cyn diwedd y cyfnod o fis sy’n dechrau â’r diwrnod penodedig, bod deiliad y contract yn penderfynu y dylai’r contract ddod yn gontract safonol cyfnod penodol.

(3)Cyn y diwrnod penodedig, rhaid i landlord cymunedol sy’n landlord o dan denantiaeth neu drwydded am gyfnod penodol, ac y talwyd premiwm ar ei chyfer—

(a)hysbysu deiliad y contract o’i hawl i benderfynu o dan is-baragraff (2)(b) y dylai’r contract ddod yn gontract safonol, ac erbyn pryd y mae’n rhaid gwneud y penderfyniad, a

(b)egluro sut y bydd adran 11 yn gymwys i’r contract os nad yw deiliad y contract yn gwneud y penderfyniad.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 12 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I16Atod. 12 para. 7 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

8(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo landlord cymunedol yn dod yn landlord o dan gontract safonol cyfnod penodol cyn diwedd y cyfnod o fis sy’n dechrau â’r diwrnod penodedig.

(2)Mae adran 12 (contractau a fabwysiedir gan landlord cymunedol) yn gymwys fel pe bai, yn is-adran (8)(b), “cyn diwedd y cyfnod o fis sy’n dechrau â’r diwrnod penodedig (o fewn ystyr adran 242)” yn cael ei roi yn lle “cyn i’r landlord cymunedol ddod yn landlord arno”.

(3)Rhaid i’r landlord roi’r hysbysiad sy’n ofynnol yn ôl adran 15(1) i ddeiliad y contract ar y diwrnod penodedig neu cyn y diwrnod penodedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 12 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I18Atod. 12 para. 8 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

9(1)Mae’r canlynol yn eithriadau ychwanegol i adrannau 11(1) a 12(3) (contractau a wneir neu a fabwysiedir gan landlord cymunedol yn gontractau diogel).

(2)Contract wedi ei drosi a oedd, cyn y diwrnod penodedig—

(a)wedi bod yn denantiaeth ddiogel, ond

(b)wedi peidio â bod yn denantiaeth o’r fath oherwydd adran 89, 91 neu 93 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68) (olyniaeth, aseinio ac is-osod).

(3)Contract wedi ei drosi a oedd, cyn y diwrnod penodedig—

(a)wedi bod yn denantiaeth ragarweiniol, ond

(b)wedi peidio â bod yn denantiaeth o’r fath oherwydd adran 133 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) (olyniaeth).

(4)Contract wedi ei drosi a oedd, cyn y diwrnod penodedig—

(a)wedi bod yn denantiaeth isradd, ond

(b)wedi peidio â bod yn denantiaeth o’r fath oherwydd adran 143I o Ddeddf Tai 1996 (olyniaeth).

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 12 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I20Atod. 12 para. 9 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

10Mae contract diogel wedi ei drosi a oedd yn denantiaeth ddiogel yn union cyn y diwrnod penodedig yn dod yn gontract safonol—

(a)os bu’r tenant farw cyn y diwrnod penodedig, a

(b)os ceir digwyddiad ar ôl y diwrnod hwnnw a fyddai, oni bai am y Ddeddf hon, wedi peri i’r contract beidio â bod yn denantiaeth ddiogel o dan adran 89 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68) (olyniaeth).

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 12 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I22Atod. 12 para. 10 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Datganiad ysgrifenedig o gontract wedi ei drosi a darparu gwybodaethLL+C

11(1)Rhaid i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig o’r contract i ddeiliad y contract o dan gontract wedi ei drosi cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod penodedig (y “cyfnod darparu gwybodaeth”).

[F11(1A)Pan fo hunaniaeth deiliad y contract wedi newid cyn 1 Mehefin 2023 (sef y diwrnod cyntaf ar ôl diwedd y cyfnod darparu gwybodaeth), mae adran 31(2) (rhoi datganiad ysgrifenedig i ddeiliad contract newydd) yn gymwys mewn perthynas â chontract wedi ei drosi fel pe bai “ag 1 Mehefin 2023” wedi ei roi yn lle “â’r diwrnod y mae deiliad y contract yn newid”.]

(2)Mae unrhyw gyfeiriadau yn y Ddeddf hon at rwymedigaeth y landlord o dan adran 31(1) i’w darllen, mewn perthynas â chontractau wedi eu trosi, fel cyfeiriadau at rwymedigaeth y landlord o dan is-baragraff (1).

[F12(3)Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â chontract sy’n cymryd lle contract arall (ac yn unol â hynny mae adran 31 yn gymwys, fel y’i haddasir gan baragraff 11A, mewn perthynas â chontractau o’r fath).]

[F1311A(1)Wrth eu cymhwyso i gontract sy’n cymryd lle contract arall sydd wedi dod i fodolaeth cyn 1 Mehefin 2023—LL+C

(a)mae adran 31(1) i’w darllen fel pe bai “ag 1 Mehefin 2023” wedi ei roi yn lle “â’r dyddiad meddiannu”;

(b)mae adran 31(2) i’w darllen fel pe bai “ag 1 Mehefin 2023” wedi ei roi yn lle “â’r diwrnod y mae deiliad y contract yn newid”;

(c)mae’r darpariaethau a ganlyn i’w darllen fel pe bai “ag 1 Mehefin 2023” wedi ei roi yn lle “â’r dyddiad meddiannu”—

(i)adran 36(3)(a);

(ii)adran 37(3)(a);

(d)mae adran 39(1) i’w darllen fel pe bai “ag 1 Mehefin 2023” wedi ei roi yn lle “â dyddiad meddiannu’r contract”.

(2)Wrth eu cymhwyso i gontract sy’n cymryd lle contract arall sydd wedi dod i fodolaeth ar neu ar ôl 1 Mehefin 2023—

(a)mae’r darpariaethau a ganlyn i’w darllen fel pe bai’r cyfeiriadau at y dyddiad meddiannu yn gyfeiriadau at y diwrnod y mae gan ddeiliad y contract hawl i ddechrau meddiannu’r annedd o dan y contract sy’n cymryd lle contract arall—

(i)adran 31(1);

(ii)adran 36(3)(a);

(iii)adran 37(3)(a);

(b)mae adran 39(1) i’w darllen fel pe bai’r cyfeiriad at ddyddiad meddiannu’r contract yn gyfeiriad at y dyddiad y mae gan ddeiliad y contract hawl i ddechrau meddiannu’r annedd o dan y contract sy’n cymryd lle contract arall.]

12LL+CMae adrannau 36 a 37 (ceisiadau i’r llys) yn gymwys mewn perthynas â datganiad ysgrifenedig a ddarperir oherwydd paragraff 11(1) fel pe bai’r geiriau a ganlyn wedi eu rhoi yn lle’r geiriau yn adran 36(3) a 37(2),

Os oedd yn ofynnol i’r landlord ddarparu’r datganiad ysgrifenedig o dan baragraff 11(1) o Atodlen 12, ni chaiff deiliad y contract wneud cais i’r llys o dan is-adran (1) cyn—

(a)diwedd y cyfnod darparu gwybodaeth (o fewn ystyr Atodlen 12), neu

(b)os yw’n gynharach, y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddodd y landlord y datganiad ysgrifenedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 12 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I26Atod. 12 para. 12 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

[F1412ALL+CF15... Mae Atodlen 9A (cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adran 173, o dan adran 186, ac o dan gymal terfynu’r landlord) yn gymwys mewn perthynas â chontract wedi ei drosi [F16, heblaw am gontract sy’n cymryd lle contract arall,] fel pe bai—

(a)paragraff 1 wedi ei hepgor, a

(b)y canlynol wedi ei roi yn lle paragraff 2—

Methu â darparu datganiad ysgrifenedig o fewn y cyfnod penodedig

2Os—

(a)yw’n ofynnol i landlord ddarparu datganiad ysgrifenedig o’r contract o dan baragraff 11(1) o Atodlen 12, neu o dan adran 31(2) F17..., a

(b)yw’r landlord wedi methu â chydymffurfio â pharagraff 11(1) neu adran 31(2),

ni chaiff y landlord roi hysbysiad cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddodd y landlord y datganiad ysgrifenedig i ddeiliad y contract.]

13(1)Mae adran 39(1) (gwybodaeth am gyfeiriad y landlord) yn gymwys mewn perthynas â chontract wedi ei drosi [F18, heblaw am gontract sy’n cymryd lle contract arall,] fel pe bai “y cyfnod darparu gwybodaeth (o fewn ystyr Atodlen 12)” yn cael ei roi yn lle “y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â dyddiad meddiannu’r contract”.LL+C

(2)Mae adran 40(2) (tâl digolledu) yn gymwys mewn perthynas ag adran 39(1), fel y’i diwygir gan is-baragraff (1), fel pe bai’r cyfeiriad at y dyddiad perthnasol yn gyfeiriad at ddiwrnod cyntaf y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dod i ben â diwrnod olaf y cyfnod darparu gwybodaeth (ac yn unol â hynny mae adran 40 i’w darllen fel pe bai is-adran (5) wedi ei hepgor).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I28Atod. 12 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I29Atod. 12 para. 13 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Cynlluniau BlaendalLL+C

[F1913A.(1)Nid yw’r darpariaethau a grybwyllir yn is-baragraff (2) yn gymwys i gontract wedi ei drosi onid oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth fyrddaliol sicr.

(2)Y darpariaethau (sy’n ymwneud â gofyniad i ddefnyddio cynllun blaendal) yw—

(a)adrannau 45 a 46;

(b)Atodlen 5;

(c)paragraffau 4(2) a (5) o Atodlen 9A.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I30Atod. 12 para. 13A mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

[F2013B.LL+CNid yw adran 123 (amrywio’r rhent) yn gymwys i gontract wedi ei drosi sy’n gontract safonol cyfnodol [F21y mae’r landlord oddi tano yn landlord preifat ac] a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig—

(a)yn denantiaeth sicr ond nid yn denantiaeth fyrddaliol sicr, a

(b)yn cynnwys teler a oedd yn gwneud darpariaeth ynghylch amrywio’r rhent o dan y denantiaeth neu’r drwydded.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I31Atod. 12 para. 13B mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

AmrywioLL+C

14(1)Ni chaniateir amrywio contract wedi ei drosi cyn bod y landlord wedi rhoi datganiad ysgrifenedig o’r contract i ddeiliad y contract.

(2)Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys [F22

(a)] i amrywiad o dan adran 104 neu 123 (amrywio rhent) [F23, na

(b)cynnydd mewn rhent o dan adran 93 o Ddeddf Rhenti 1977 (p. 42).]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I32Atod. 12 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I33Atod. 12 para. 14 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

15(1)Mae adrannau 104 a 123 (amrywio rhent) yn gymwys i gontract wedi ei drosi [F24(heblaw contract a grybwyllir ym mharagraff 13B)] fel pe bai unrhyw amrywiadau yn y rhent sy’n daladwy o dan y contract cyn y diwrnod penodedig yn amrywiadau o dan ba rai bynnag o’r adrannau hynny sy’n berthnasol.

[F25(1A)Mae adrannau 104 ac 123 (amrywio’r rhent) yn gymwys i gontract wedi ei drosi y mae’r landlord oddi tano yn landlord cymunedol fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (3)(a) ym mhob un o’r adrannau hyn—

(a)ni chaiff yr hysbysiad cyntaf a roddir ar ôl y diwrnod penodedig bennu dyddiad sy’n gynharach na 51 o wythnosau ar ôl y dyddiad pan gafodd rhent newydd effaith ddiwethaf, a.]

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau—

(a)sy’n galluogi deiliad y contract o dan gontract wedi ei drosi perthnasol, ar ôl derbyn hysbysiad o dan adran 104 neu 123, wneud cais i berson neu bersonau rhagnodedig bennu’r rhent ar gyfer yr annedd, a

(b)i’r rhent a bennir gan y person neu’r personau rhagnodedig, yn unol ag unrhyw ragdybiaethau a gaiff eu rhagnodi, fod y rhent ar gyfer yr annedd o dan y contract (oni bai bod y landlord a deiliad y contract yn cytuno fel arall).

[F26(3)Mae contract wedi ei drosi yn gontract wedi ei drosi perthnasol—

(a)os oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth neu’n drwydded yr oedd adran 13 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50) (codiadau rhent o dan denantiaethau cyfnodol sicr) yn gymwys iddi,

(b)os yw’n gontract safonol cyfnodol sy’n cymryd lle contract arall F27...—

(i)sy’n codi o dan adran 184(2), neu

(ii)sydd o fewn adran 184(6),

a oedd yn union cyn y diwrnod penodedig yn denantiaeth sicr, ond nid yn denantiaeth fyrddaliol sicr, am gyfnod penodol, neu

(c)os yw’n gontract sicr a oedd yn union cyn y diwrnod penodedig yn denantiaeth sicr, ond nid yn denantiaeth fyrddaliol sicr, am gyfnod penodol.]

Diwygiadau Testunol

F24Geiriau yn Atod. 12 para. 15(1) mewnosodwyd (14.7.2022) gan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12) 2022 (O.S. 2022/795), rhlau. 1(2), 12(a)

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I34Atod. 12 para. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I35Atod. 12 para. 15(2) mewn grym ar 5.8.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2016/813, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1

I36Atod. 12 para. 15(1)(3) mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

I37Atod. 12 para. 15(2) mewn grym ar 1.12.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Gwast ac ymddwyn fel tenantLL+C

16Nid yw adran 101 yn gymwys i gontract wedi ei drosi; felly—

(a)mae deiliad contract o dan gontract wedi ei drosi yn ddarostyngedig i’r un atebolrwydd am wast mewn perthynas â’r annedd ag yr oedd yn ddarostyngedig iddo yn union cyn y diwrnod penodedig, a

(b)mae’r rheol gyfreithiol sy’n golygu bod dyletswydd oblygedig ar denant i ymddwyn fel tenant wrth ddefnyddio mangre sydd ar les yn gymwys i ddeiliad contract o dan gontract wedi ei drosi fel yr oedd yn gymwys iddo yn union cyn y diwrnod penodedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I38Atod. 12 para. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I39Atod. 12 para. 16 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

DelioLL+C

17(1)Mae’r paragraff hwn yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol wedi ei drosi a oedd yn denantiaeth ddiogel yn union cyn y diwrnod penodedig.

(2)Caiff deiliad y contract ganiatáu i bersonau fyw yn yr annedd fel lletywyr.

Gwybodaeth Cychwyn

I40Atod. 12 para. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I41Atod. 12 para. 17 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

18(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â chontract wedi ei drosi—

(a)sy’n gontract diogel neu’n gontract safonol cyfnodol, a

(b)y mae cyd-ddeiliaid contract oddi tano a oedd yn denantiaid cydradd mewn ecwiti yn union cyn y diwrnod penodedig.

(2)Mae’r darpariaethau contractau safonol cyfnod penodol a grybwyllir yn is-adran (1) o bob un o adrannau 140, 141 a 142 (trosglwyddiadau) yn delerau’r contract, ac mae is-adrannau (2) a (3) o bob un o’r adrannau hynny yn gymwys yn unol â hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I41Atod. 12 para. 17 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

I42Atod. 12 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I43Atod. 12 para. 18 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

19(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â chontract wedi ei drosi sy’n gontract safonol cyfnod penodol.

(2)Mae’r darpariaethau contractau safonol cyfnod penodol a grybwyllir yn is-adran (1) o bob un o adrannau 139, 140, 141 a 142 (trosglwyddiadau) yn delerau’r contract, ac mae is-adrannau (2) a (3) o bob un o’r adrannau hynny yn gymwys yn unol â hynny.

(3)Nid yw is-baragraff (2) yn gymwys i’r graddau y mae unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hynny yn anghydnaws ag un o delerau presennol y contract.

Gwybodaeth Cychwyn

I41Atod. 12 para. 17 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

I44Atod. 12 para. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I45Atod. 12 para. 19 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

OlyniaethLL+C

20(1)Mae deiliad y contract o dan gontract wedi ei drosi i’w drin fel olynydd â blaenoriaeth mewn perthynas â’r contract—

(a)os oedd y contract wedi ei drosi, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth o ddisgrifiad sydd yng ngholofn 1 o Dabl 6,

(b)os oedd, cyn y diwrnod penodedig, wedi ei freinio yn neiliad y contract o dan y ddarpariaeth sydd yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw, ac

(c)os oedd deiliad y contract yn gymwys i olynu oherwydd y darpariaethau yng ngholofn 3 o’r Tabl hwnnw.

TABL 6

Y MATH O DENANTIAETHY DDARPARIAETH FREINIOY DARPARIAETHAU CYMHWYSO
Tenantiaeth ddiogelAdran 89 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68)Adrannau 87 a 113(1)(a) o’r Ddeddf honno
Tenantiaeth ragarweiniolAdran 133 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52)Adrannau 131 a 140(1)(a) o’r Ddeddf honno
Tenantiaeth israddAdran 143H o Ddeddf Tai 1996Adran 143P(1)(a) neu (b) o’r Ddeddf honno

(2)Mae deiliad y contract o dan gontract wedi ei drosi hefyd i’w drin fel olynydd â blaenoriaeth mewn perthynas â’r contract—

(a)os oedd y contract, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth sicr,

(b)os oedd, cyn y diwrnod penodedig, wedi ei freinio yn neiliad y contract o dan adran 17 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50) (olynu i denantiaeth sicr), ac

(c)os oedd y landlord o dan y contract, ar y diwrnod penodedig, yn landlord cymunedol.

Gwybodaeth Cychwyn

I46Atod. 12 para. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I47Atod. 12 para. 20 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

21(1)Mae deiliad y contract o dan gontract wedi ei drosi i’w drin fel olynydd wrth gefn mewn perthynas â’r contract—

(a)os oedd y contract wedi ei drosi, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth o ddisgrifiad sydd yng ngholofn 1 o Dabl 7,

(b)os oedd, cyn y diwrnod penodedig, wedi ei freinio yn neiliad y contract o dan y ddarpariaeth sydd yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw, ac

(c)os oedd deiliad y contract yn gymwys i olynu oherwydd y darpariaethau sydd yng ngholofn 3 o’r Tabl hwnnw.

TABL 7

Y MATH O DENANTIAETHY DDARPARIAETH FREINIOY DARPARIAETHAU CYMHWYSO
Tenantiaeth ddiogelAdran 89 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68)Adrannau 87(b) a 113(1)(b) o’r Ddeddf honno
Tenantiaeth ragarweiniolAdran 133 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52)Adrannau 131(b) a 140(1)(b) o’r Ddeddf honno
Tenantiaeth israddAdran 143H o Ddeddf Tai 1996Adran 143P(1)(c) o’r Ddeddf honno

(2)Mae deiliad y contract o dan gontract wedi ei drosi i’w drin fel olynydd wrth gefn mewn perthynas â’r contract—

(a)os oedd y contract, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth sicr, a

(b)os oedd deiliad y contract, cyn y diwrnod penodedig, wedi dod â hawl i’r denantiaeth sicr o dan baragraff 3 o Atodlen 1 i Ddeddf Rhenti 1977 (p. 42) (olyniaeth).

(3)Mae deiliad y contract o dan gontract wedi ei drosi i’w drin fel olynydd wrth gefn mewn perthynas â’r contract—

(a)os oedd y contract, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth sicr,

(b)os oedd, cyn y diwrnod penodedig, wedi ei freinio yn neiliad y contract o dan adran 17 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50) (olynu i denantiaeth sicr), ac

(c)os oedd y landlord o dan y contract, ar y diwrnod penodedig, yn landlord preifat.

Gwybodaeth Cychwyn

I47Atod. 12 para. 20 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

I48Atod. 12 para. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I49Atod. 12 para. 21 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Gofyniad i feddiannu annedd fel prif gartref o dan gontractau penodol wedi eu trosiLL+C

22(1)Mae is-baragraff (2) yn cael effaith mewn perthynas â chontract wedi ei drosi y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo fel pe bai’n ddarpariaeth atodol a ragnodwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 23.

(2)Rhaid i ddeiliad y contract (neu o leiaf un ohonynt, os oes mwy nag un) feddiannu’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract fel ei unig gartref neu ei brif gartref.

(3)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gontract wedi ei drosi a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig—

(a)yn denantiaeth warchodedig neu denantiaeth statudol,

(b)yn denantiaeth ddiogel,

(c)yn denantiaeth sicr,

(d)yn denantiaeth ragarweiniol, neu

(e)yn denantiaeth isradd.

Gwybodaeth Cychwyn

I50Atod. 12 para. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I51Atod. 12 para. 22 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Contractau safonol rhagarweiniolLL+C

23(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gontract wedi ei drosi sy’n cael effaith fel contract safonol rhagarweiniol oherwydd paragraff 5.

(2)Mae cyfnod rhagarweiniol y contract yn dod i ben—

(a)os bu farw’r tenant cyn y diwrnod penodedig, a

(b)os ceir digwyddiad ar ôl y diwrnod hwnnw a fyddai, oni bai am y Ddeddf hon, wedi peri i’r contract beidio â bod yn denantiaeth ragarweiniol o dan adran 133 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) (olyniaeth),

ac nid yw adran 16(1)(b) o’r Ddeddf hon (trosi i gontract diogel) yn gymwys pan fo’r cyfnod rhagarweiniol yn dod i ben oherwydd yr is-baragraff hwn.

[F28(3) Mae’r Ddeddf hon yn gymwys fel pe bai—

(a)yn adran 174 (hysbysiad y landlord: y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir), y cyfeiriad yn is-adran (1) at “chwe mis” yn gyfeiriad at “dau fis”,

(b)yn adran 175 (hysbysiad y landlord: cyfyngiad ar roi hysbysiad tan ar ôl chwe mis cyntaf meddiannaeth), y cyfeiriadau yn is-adrannau (1) a (2) at “chwe mis” yn gyfeiriadau at “bedwar mis” (a’r cyfeiriad yn y pennawd at “chwe mis” yn gyfeiriad at “pedwar mis”), ac

[F29(c)y cyfeiriad ym mharagraff 1(7) o Atodlen 4 at ddyddiad cyflwyno’r contract yn gyfeiriad—

(i)mewn perthynas â chontract wedi ei drosi a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth ragarweiniol, at y diwrnod a oedd yn ddechrau’r cyfnod prawf o dan adran 125(2)(a) neu (b) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52);

(ii)mewn perthynas â chontract wedi ei drosi a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth gychwynnol, at ddyddiad cyflwyno’r denantiaeth fel y’i pennir yn unol ag is-baragraff (5).]]

(4)Mae paragraff 2 o Atodlen 4 (cyfnod rhagarweiniol pan fo contractau blaenorol) yn gymwys fel pe bai cyfeiriadau at gontractau safonol rhagarweiniol yn gyfeiriadau at—

(a)tenantiaethau byrddaliol sicr yr oedd y landlord oddi tanynt yn landlord cymdeithasol cofrestredig neu’n ddarparwr tai cymdeithasol cofrestredig preifat, neu

(b)tenantiaethau rhagarweiniol.

(5)At ddibenion paragraff 2 o Atodlen 4 dyddiad cyflwyno tenantiaeth fyrddaliol sicr yr oedd y landlord oddi tani yn landlord cymdeithasol cofrestredig neu’n ddarparwr tai cymdeithasol preifat cofrestredig yw—

(a)y diwrnod yr oedd gan y tenant hawl i ddechrau meddiannu’r annedd, neu

(b)os na wnaed y denantiaeth â landlord cymdeithasol cofrestredig neu ddarparwr tai cymdeithasol preifat cofrestredig, y diwrnod y daeth landlord cymdeithasol cofrestredig neu ddarparwr tai cymdeithasol preifat cofrestredig yn landlord.

[F30(6)At ddibenion paragraff 2 o Atodlen 4, y dyddiad cyflwyno—

(a)mewn perthynas â chontract wedi ei drosi a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth ragarweiniol, yw’r diwrnod a oedd yn ddechrau’r cyfnod prawf o dan adran 125(2)(a) neu (b) o Ddeddf Tai 1996;

(b)mewn perthynas â chontract wedi ei drosi a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth gychwynnol, yw dyddiad cyflwyno’r denantiaeth fel y’i pennir yn unol ag is-baragraff (5).]

[F31(7)Nid yw paragraff 2(5) a (6) o Atodlen 4 yn gymwys, ond—

(a)mae hysbysiad o estyniad a roddir, mewn perthynas â chontract wedi ei drosi a oedd yn denantiaeth ragarweiniol, o dan adran 125A o Ddeddf Tai 1996, a

(b)mae hysbysiad, a roddir mewn perthynas â chontract wedi ei drosi a oedd yn denantiaeth gychwynnol, sy’n estyn y cyfnod y bydd y landlord a’r tenant yn ymrwymo i denantiaeth sicr (nad yw’n denantiaeth fyrddaliol sicr) ar ei ddiwedd,

yn cael effaith fel pe bai wedi ei roi o dan baragraff 3 o Atodlen 4 (ac, ni waeth faint yw hyd yr estyniad o dan hysbysiad a ddisgrifir ym mharagraff (b), mae’r cyfnod rhagarweiniol yn dod i ben 18 mis ar ôl dyddiad cyflwyno’r denantiaeth gychwynnol (fel y’i pennir yn unol ag is-baragraff 5)).]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I52Atod. 12 para. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I53Atod. 12 para. 23 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Contract safonol ymddygiad gwaharddedigLL+C

24(1)Mae’r Ddeddf hon yn gymwys i gontract wedi ei drosi sy’n cael effaith fel contract safonol ymddygiad gwaharddedig oherwydd paragraff 6 fel pe bai—

(a)y gorchymyn israddio yn orchymyn o dan adran 116 (gorchymyn yn arddodi contract safonol cyfnodol),

(b)cyfeiriadau at ddyddiad meddiannu’r contract yn gyfeiriadau at y diwrnod y cafodd y gorchymyn israddio effaith, ac

(c)paragraffau 4 i 7 o Atodlen 7 (newid y cyfnod prawf) wedi eu hepgor.

(2)Y “gorchymyn israddio” yw—

(a)y gorchymyn o dan adran 82A o Ddeddf Tai 1985 (p. 68) neu adran 6A o Ddeddf Tai 1988 (p. 50) yr oedd adran 20B o Ddeddf Tai 1988 yn gymwys o’i herwydd, neu

(b)y gorchymyn o dan adran 82A o Ddeddf Tai 1985 yr oedd adran 143A o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) yn gymwys o’i herwydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I54Atod. 12 para. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I55Atod. 12 para. 24 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Contract safonol â chymorth a oedd yn denantiaeth fyrddaliol sicrLL+C

[F3224A.Mae’r Ddeddf hon yn gymwys i gontract wedi ei drosi—

(a)a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth fyrddaliol sicr, a

(b)a gafodd effaith ar ôl trosi fel contract safonol â chymorth,

fel pe bai adrannau 144 (symudedd) a 145 (gwahardd dros dro) wedi eu hepgor.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I56Atod. 12 para. 24A mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Y landlord yn terfynu’r contractLL+C

25Nid yw adrannau 173 i 180 (terfynu yn sgil hysbysiad y landlord) yn gymwys i gontract safonol cyfnodol a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth sicr ond nid yn denantiaeth fyrddaliol sicr.

Gwybodaeth Cychwyn

I57Atod. 12 para. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I58Atod. 12 para. 25 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

[F3325A(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gontract safonol cyfnodol a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth fyrddaliol sicr.

(2)Mae’r Ddeddf hon yn gymwys fel pe bai—

[F34(a)y cyfeiriad yn adran 174(1) (hysbysiad y landlord: y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir) at “chwe mis”, mewn perthynas â hysbysiad a roddir o dan adran 173 yn ystod y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod penodedig, yn gyfeiriad at “dau fis”, a]

(b)yn adran 175 (hysbysiad y landlord: cyfyngiad ar roi hysbysiad tan ar ôl chwe mis cyntaf meddiannaeth), [F35y cyfeiriad yn is-adran (1)] at “chwe mis” yn gyfeiriad at “bedwar mis” (a’r cyfeiriad yn y pennawd at “chwe mis” yn gyfeiriad at “pedwar mis”).]

[F36, ac

(c)yn adran 175, y canlynol wedi ei roi yn lle isadrannau (2) a (3)-

(2)Os yw’r contract wedi ei drosi yn denantiaeth neu’n drwydded sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall, ni chaiff y landlord roi hysbysiad o dan adran 173 cyn diwedd y cyfnod o bedwar mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth deiliad y contract i fod â hawl i feddiannu’r annedd o dan y denantiaeth neu’r drwydded wreiddiol.

(3)At ddibenion is-adran (2)—

(a)roedd contract wedi ei drosi yn denantiaeth neu’n drwydded sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall—

(i)os yw dyddiad meddiannu’r contract wedi ei drosi yn dod yn union ar ôl diwedd tenantiaeth neu drwydded flaenorol,

(ii)os oedd, yn union cyn dyddiad meddiannu’r contract wedi ei drosi, tenant neu drwyddedai o dan y contract yn denant neu’n drwyddedai o dan y denantiaeth neu’r drwydded flaenorol, a landlord o dan y contract wedi ei drosi yn landlord o dan y denantiaeth neu’r drwydded flaenorol, a

(iii)os yw’r contract wedi ei drosi yn ymwneud â’r un annedd (neu’r un annedd i raddau helaeth) â’r denantiaeth neu’r drwydded flaenorol, a

(b)ystyr “tenantiaeth neu drwydded wreiddiol” yw—

(i)pan fo dyddiad meddiannu’r denantiaeth neu’r drwydded sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall yn dod yn union ar ôl diwedd tenantiaeth neu drwydded nad yw’n denantiaeth neu’n drwydded sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall, y denantiaeth neu’r drwydded a oedd yn rhagflaenu’r denantiaeth neu’r drwydded sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall;

(ii)pan gafwyd cyfres o denantiaethau neu drwyddedau olynol yn denantiaethau neu’n drwyddedau sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall, y denantiaeth neu’r drwydded a oedd yn rhagflaenu’r cyntaf o’r tenantiaethau neu’r trwyddedau sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall.]

Diwygiadau Testunol

F35Geiriau yn Atod. 12 para. 25A(2)(b) wedi eu amnewid (14.7.2022) gan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12) 2022 (O.S. 2022/795), rhlau. 1(2), 15(a)(i)

F36Gair a Atod. 12 para. 25A(2)(c) mewnosodwyd (14.7.2022) gan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12) 2022 (O.S. 2022/795), rhlau. 1(2), 15(b)

Gwybodaeth Cychwyn

I58Atod. 12 para. 25 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

I59Atod. 12 para. 25A mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

[F3725B(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gontract safonol cyfnod penodol—

(a)a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth neu’n drwydded am gyfnod penodol, a

(b)nad yw o fewn Atodlen 9B.

[F38(1A)Nid yw’r cyfeiriad at denantiaeth neu drwydded am gyfnod penodol yn is-baragraff (1)(a) yn cynnwys cyfeiriad at denantiaeth sicr nad oedd yn denantiaeth fyrddaliol sicr.]

(2)Caiff y landlord, cyn neu ar ddiwrnod olaf y cyfnod y gwnaed y contract ar ei gyfer, roi hysbysiad i ddeiliad y contract fod rhaid iddo ildio meddiant o’r annedd ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(3)Ni chaiff y dyddiad a bennir fod yn llai na chwe mis ar ôl—

(a)y dyddiad meddiannu (gweler paragraff 31), neu

(b)os, yn union cyn y diwrnod penodedig, oedd y contract wedi ei drosi yn denantiaeth neu’n drwydded sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall, y diwrnod y daeth deiliad y contract i fod â hawl i feddiannu’r annedd o dan y denantiaeth neu’r drwydded wreiddiol.

(4)Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), o ran y dyddiad a bennir—

(a)ni chaiff fod cyn diwrnod olaf y cyfnod y gwnaed y contract wedi ei drosi ar ei gyfer, a

(b)ni chaiff fod yn llai na dau fis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract.

(5)At ddibenion is-baragraff (3)—

(a)roedd contract wedi ei drosi yn denantiaeth neu’n drwydded sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall—

(i)os yw dyddiad meddiannu’r contract wedi ei drosi yn dod yn union ar ôl diwedd tenantiaeth neu drwydded flaenorol,

(ii)os oedd, yn union cyn dyddiad meddiannu’r contract wedi ei drosi, tenant neu drwyddedai o dan y contract yn denant neu’n drwyddedai o dan y denantiaeth neu’r drwydded flaenorol, a landlord o dan y contract wedi ei drosi yn landlord o dan y denantiaeth neu’r drwydded flaenorol, a

(iii)os yw’r contract wedi ei drosi yn ymwneud â’r un annedd (neu’r un annedd i raddau helaeth) â’r denantiaeth neu’r drwydded flaenorol, a

(b)ystyr “tenantiaeth neu drwydded wreiddiol” yw—

(i)pan fo dyddiad meddiannu’r denantiaeth neu’r drwydded sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall yn dod yn union ar ôl diwedd tenantiaeth neu drwydded nad yw’n denantiaeth neu’n drwydded sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall, y denantiaeth neu’r drwydded a oedd yn rhagflaenu’r denantiaeth neu’r drwydded sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall;

(ii)pan fo cyfres o denantiaethau neu drwyddedau olynol yn denantiaethau neu’n drwyddedau sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall, y denantiaeth neu’r drwydded a oedd yn rhagflaenu’r cyntaf o’r tenantiaethau neu’r trwyddedau sy’n cymryd lle tenantiaeth neu drwydded arall.

(6)Os yw’r landlord yn rhoi hysbysiad i ddeiliad y contract o dan is-baragraff (2), caiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno.

(7)Ni chaiff y landlord wneud hawliad meddiant ar y sail honno cyn diwedd y contract safonol cyfnod penodol.

(8)Mae is-baragraffau (2) i (7) yn ddarpariaethau sylfaenol sydd wedi eu hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo.]

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I58Atod. 12 para. 25 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

I60Atod. 12 para. 25B mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

[F3725CPan fo paragraff 25B yn gymwys, mae’r Ddeddf hon yn gymwys fel be bai—

(a)cyfeiriadau at adran 186 yn cynnwys cyfeiriad at baragraff 25B,

(b)cyfeiriadau at hysbysiad o dan adran 186(1) yn cynnwys cyfeiriad at hysbysiad o dan baragraff 25B(2), ac

(c)cyfeiriadau at y sail yn adran 186(5) yn cynnwys cyfeiriad at y sail ym mharagraff 25B(6).]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I58Atod. 12 para. 25 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

I61Atod. 12 para. 25C mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

[F3925D(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gontract safonol cyfnod penodol [F40(heblaw tenantiaeth neu drwydded a grybwyllir ym mharagraff 26(2) neu (3))] a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth neu’n drwydded am gyfnod penodol a oedd yn cynnwys cymal terfynu’r landlord.

(2)Mae’r Ddeddf hon yn gymwys fel pe bai—

(a)yn adran 194 (cymal terfynu’r landlord)—

(i)yn is-adran (1), y geiriau “sydd o fewn is-adran (1A)” wedi eu hepgor, a

(ii)is-adran (1A) wedi ei hepgor,

(b)yn adran 195 (y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir), y cyfeiriad yn is-adran (1) at “chwe mis” yn gyfeiriad at “dau fis”,

(c)yn adran 196 (hysbysiad y landlord: cyfyngiad ar roi hysbysiad tan ar ôl 18 mis cyntaf meddiannaeth), y cyfeiriad yn is-adran (1) at “18 mis” yn gyfeiriad at “bedwar mis” (a’r cyfeiriad yn y pennawd at “18 mis” yn gyfeiriad at “pedwar mis”), a

(d)Atodlen 9C wedi ei hepgor.]

26(1)Nid yw adran 194 (cymal terfynu’r landlord) yn gymwys i’r contractau safonol cyfnod penodol a ganlyn (ac yn unol â hynny nid yw adrannau 195 i 201 wedi eu hymgorffori fel telerau contractau o’r fath).

(2)Contract safonol cyfnod penodol a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth ddiogel am gyfnod penodol.

(3)Contract safonol cyfnod penodol—

(a)a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth sicr am gyfnod penodol, a

(b)nad yw’n gontract wedi ei eithrio.

(4)Mae contract yn gontract wedi ei eithrio pe gallai’r landlord, yn union cyn y diwrnod penodedig, fod wedi gwneud hawliad meddiant gan ddibynnu ar Sail 3 neu 4 o Atodlen 2 i Ddeddf Tai 1988 (p. 50).

Gwybodaeth Cychwyn

I58Atod. 12 para. 25 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

I63Atod. 12 para. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I64Atod. 12 para. 26 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

27Mae Sail C o’r seiliau rheoli ystad (llety arbennig: elusennau) yn gymwys i gontract wedi ei drosi fel pe bai’r contract meddiannaeth wedi ei wneud ar y diwrnod penodedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I58Atod. 12 para. 25 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

I65Atod. 12 para. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I66Atod. 12 para. 27 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Y landlord yn terfynu contract a oedd yn denantiaeth sicr: seiliau meddiant absoliwt ychwanegolLL+C

28(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â chontract wedi ei drosi a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth sicr.

(2)Caiff y landlord hawlio meddiant o’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract gan ddibynnu ar Sail 1, 2 neu 5 o Atodlen 2 i Ddeddf Tai 1988 (p. 50).

(3)Ond ni chaiff y landlord wneud hynny cyn diwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract (yn unol ag adran 150) sy’n pennu’r Sail honno.

(4)Yn ddarostyngedig i adran 204 (hawliadau meddiant: pwerau’r llys) (sy’n gymwys fel pe bai is-adran (1)(a) yn cynnwys cyfeiriad at is-baragraff (3)), os yw’r llys wedi ei fodloni bod y Sail wedi ei phrofi rhaid iddo wneud gorchymyn adennill meddiant (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).

Gwybodaeth Cychwyn

I67Atod. 12 para. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I68Atod. 12 para. 28 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

29(1)Mae’r paragraff hwn hefyd yn gymwys mewn perthynas â chontract wedi ei drosi a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn [F41denantiaeth sicr gyfnodol].

(2)Caiff y landlord hawlio meddiant o’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract gan ddibynnu ar Sail 7 o Atodlen 2 i Ddeddf Tai 1988 (p. 50)

(a)os bu farw’r tenant o dan y denantiaeth sicr cyn y diwrnod penodedig, a

(b)os yw’r denantiaeth sicr wedi disgyn o dan ewyllys y tenant neu o dan y rheolau diewyllysedd cyn y diwrnod penodedig, neu os yw’r contract wedi ei drosi yn disgyn felly ar ôl y diwrnod penodedig.

(3)Ond ni chaiff y landlord wneud hynny cyn diwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract yn pennu’r Sail honno.

(4)Yn ddarostyngedig i adran 204 (hawliadau meddiant: pwerau’r llys) (sy’n gymwys fel pe bai is-adran (1)(a) yn cynnwys cyfeiriad at is-baragraff (3)), os yw’r llys wedi ei fodloni bod y Sail wedi ei phrofi rhaid iddo wneud gorchymyn adennill meddiant (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I68Atod. 12 para. 28 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

I69Atod. 12 para. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I70Atod. 12 para. 29 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Tenantiaethau a thrwyddedau goblygedigLL+C

30(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw annedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn cael ei meddiannu fel cartref gan berson sy’n dresmaswr mewn perthynas â’r annedd honno.

(2)Mae adran 238 (tenantiaethau a thrwyddedau goblygedig)—

(a)yn gymwys i daliadau a wnaed gan y person cyn y diwrnod penodedig fel y mae’n gymwys i daliadau a wneir ganddo ar ôl y diwrnod penodedig, a

(b)yn gymwys fel pe bai diwedd y cyfnod perthnasol yn ddiwedd y cyfnod a grybwyllir yn adran 238(3) neu, os yw’n hwyrach, y diwrnod penodedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I71Atod. 12 para. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I72Atod. 12 para. 30 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Y dyddiad meddiannuLL+C

31Y dyddiad meddiannu, mewn perthynas â chontract wedi ei drosi, yw’r diwrnod y daeth deiliad y contract i fod â hawl i feddiannu’r annedd o dan y denantiaeth neu’r drwydded a ddaeth yn gontract meddiannaeth ar y diwrnod penodedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I73Atod. 12 para. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I74Atod. 12 para. 31 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Contractau meddiannaeth sy’n cymryd lle contractau eraillLL+C

32(1)Os oes, ar ôl i gontract wedi ei drosi ddod i ben, un neu ragor o gontractau pellach yn cymryd ei le, at ddibenion yr Atodlen hon (ac eithrio paragraff 28 [F42neu pan fo darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb] ), mae’r contract sy’n cymryd ei le i’w drin fel pe bai (neu’r contractau sy’n cymryd ei le i’w trin fel pe baent) yr un denantiaeth neu drwydded â’r contract sydd wedi ei drosi.

(2)Mae’r canlynol yn gontractau sy’n cymryd lle contract arall.

(3)Contract meddiannaeth rhwng—

(a)deiliad contract a oedd, [F43yn union cyn y diwrnod y daeth deiliad y contract i fod â hawl i feddiannu’r annedd o dan y contract hwnnw,] yn ddeiliad contract o dan gontract wedi ei drosi neu o dan gontract sy’n cymryd lle contract arall, a

(b)landlord a oedd, yn union cyn y [F44diwrnod] hwnnw, yn landlord o dan y contract wedi ei drosi neu o dan y contract sy’n cymryd lle contract arall,

sy’n ymwneud â’r un annedd (neu’r un annedd i raddau helaeth) â’r contract wedi ei drosi neu’r contract sy’n cymryd lle contract arall.

F45(4). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(5)Os yw contract wedi ei drosi neu gontract sy’n cymryd lle contract arall yn dod i ben o dan adran 12(3)(a) (contract safonol a fabwysiedir gan landlord cymunedol), y contract meddiannaeth sy’n codi o dan adran 12(3)(b).

(6)Os terfynir contract wedi ei drosi neu gontract sy’n cymryd lle contract arall o dan adran 220 (cefnu), ac os yw’r llys o dan adran 222(3)(b) yn gorchymyn i’r landlord ddarparu llety arall addas, contract meddiannaeth a wneir yn unol â’r gorchymyn.

(7)Os yw’r llys o dan adran 210 (seiliau rheoli ystad) yn gwneud gorchymyn i adennill meddiant o annedd sy’n ddarostyngedig i gontract wedi ei drosi neu gontract sy’n cymryd lle contract arall, contract meddiannaeth a wneir i ddarparu llety arall addas i ddeiliad y contract.

[F46(8)Mae’r Atodlen hon yn gymwys i gontract sy’n cymryd lle contract arall—

(a)sy’n codi o dan adran 184(2) fel pe bai paragraff 25A(2)(a) wedi ei hepgor;

(b)sydd o fewn adran 184(6) fel pe bai paragraffau 25A(2)(a), 25B, 25C a 25D wedi eu hepgor.]

Pŵer i ddiwygio’r AtodlenLL+C

33Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r Atodlen hon drwy reoliadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I77Atod. 12 para. 33 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I78Atod. 12 para. 33 mewn grym ar 5.8.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2016/813, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1

I79Atod. 12 para. 33 mewn grym ar 1.12.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources