Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

RHAN 1LL+CY SEILIAU

SEILIAU AILDDATBLYGULL+C

Sail A (gwaith adeiladu)LL+C

1Mae’r landlord yn bwriadu, o fewn cyfnod rhesymol o adennill meddiant o’r annedd—

(a)dymchwel neu ailadeiladu’r adeilad neu ran o’r adeilad sy’n cynnwys yr annedd, neu

(b)gwneud gwaith ar yr adeilad hwnnw neu ar dir sy’n cael ei drin fel rhan o’r annedd,

ac ni all wneud hynny’n rhesymol heb adennill meddiant o’r annedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 8 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2Atod. 8 para. 1 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Sail B (cynlluniau ailddatblygu)LL+C

2(1)Mae’r sail hon yn codi os yw’r annedd yn bodloni’r amod cyntaf neu’r ail amod.

(2)Yr amod cyntaf yw bod yr annedd mewn ardal sy’n ddarostyngedig i gynllun ailddatblygu a gymeradwywyd yn unol â Rhan 2 o’r Atodlen hon, a bod y landlord yn bwriadu gwaredu’r annedd yn unol â’r cynllun o fewn cyfnod rhesymol ar ôl adennill meddiant.

(3)Yr ail amod yw bod rhan o’r annedd mewn ardal o’r fath a bod y landlord yn bwriadu gwaredu’r rhan honno yn unol â’r cynllun o fewn cyfnod rhesymol ar ôl adennill meddiant, a’i bod yn rhesymol i feddiant o’r annedd fod yn ofynnol ganddo at y diben hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 8 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I4Atod. 8 para. 2 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

SEILIAU LLETY ARBENNIGLL+C

Sail C (elusennau)LL+C

3(1)Mae’r landlord yn elusen a byddai’r ffaith bod deiliad y contract yn parhau i feddiannu’r annedd yn gwrthdaro ag amcanion yr elusen.

(2)Ond nid yw’r sail hon ar gael i’r landlord (“L”) oni bai, ar yr adeg y gwnaed y contract ac ar bob adeg wedi hynny, bod y person yn safle’r landlord (boed L neu berson arall) yn elusen.

(3)Yn y paragraff hwn mae i “elusen” yr un ystyr â “charity” yn Neddf Elusennau 2011 (p. 25) (gweler adran 1 o’r Ddeddf honno).

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 8 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I6Atod. 8 para. 3 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Sail D (annedd sy’n addas i bobl anabl)LL+C

4Mae’r annedd yn cynnwys nodweddion sy’n sylweddol wahanol i’r rheini a geir mewn anheddau cyffredin ac sydd wedi eu cynllunio i’w gwneud yn addas i’w meddiannu gan berson sydd ag anableddau corfforol ac sydd angen llety o fath a ddarperir gan yr annedd ac—

(a)nid oes mwyach berson o’r fath yn byw yn yr annedd, a

(b)mae ei hangen ar y landlord ar gyfer ei meddiannu gan berson o’r fath (boed ar ei ben ei hun neu gydag aelodau o deulu’r person hwnnw).

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 8 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I8Atod. 8 para. 4 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Sail E (cymdeithasau tai ac ymddiriedolaethau tai: pobl y mae’n anodd eu cartrefu)LL+C

5(1)Mae’r landlord yn gymdeithas dai neu’n ymddiriedolaeth dai sy’n darparu anheddau sydd ond ar gyfer eu meddiannu (boed ar eu pen eu hunain neu gydag eraill) gan bobl y mae’n anodd eu cartrefu, ac—

(a)naill ai nid oes person o’r fath yn byw yn yr annedd mwyach neu mae awdurdod tai lleol wedi cynnig yr hawl i ddeiliad y contract feddiannu annedd arall o dan gontract diogel, a

(b)mae angen yr annedd ar y landlord ar gyfer ei meddiannu gan berson o’r fath (boed ar ei ben ei hun neu gydag aelodau o deulu’r person hwnnw).

(2)Mae person yn anodd ei gartrefu os yw amgylchiadau’r person hwnnw (ac eithrio ei amgylchiadau ariannol) yn ei gwneud yn arbennig o anodd iddo fodloni ei angen am gartref.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 8 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I10Atod. 8 para. 5 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Sail F (grwpiau o anheddau ar gyfer pobl sydd ag anghenion arbennig)LL+C

6Mae’r annedd yn ffurfio rhan o grŵp o anheddau y mae’n arfer gan y landlord eu cynnig i’w meddiannu gan bersonau sydd ag anghenion arbennig ac—

(a)mae gwasanaeth cymdeithasol neu gyfleuster arbennig yn cael ei ddarparu yn agos at y grŵp o anheddau er mwyn cynorthwyo personau sydd â’r anghenion arbennig hynny,

(b)nid oes person sydd â’r anghenion arbennig hynny yn byw yn yr annedd mwyach, ac

(c)mae angen yr annedd ar y landlord ar gyfer ei meddiannu gan berson sydd â’r anghenion arbennig hynny (boed ar ei ben ei hun neu gydag aelodau o deulu’r person hwnnw).

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 8 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I12Atod. 8 para. 6 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

SEILIAU TANFEDDIANNAETHLL+C

Sail G (olynwyr wrth gefn)LL+C

7Mae deiliad y contract wedi olynu i’r contract meddiannaeth o dan adran 73 fel olynydd wrth gefn (gweler adrannau 76 a 77), ac mae’r llety yn yr annedd yn fwy helaeth na’r hyn sydd ei angen yn rhesymol ar ddeiliad y contract.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 8 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I14Atod. 8 para. 7 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

Sail H (cyd-ddeiliaid contract)LL+C

8(1)Mae’r sail hon yn codi os bodlonir yr amod cyntaf a’r ail amod.

(2)Yr amod cyntaf yw bod hawliau a rhwymedigaethau cyd-ddeiliad contract o dan y contract wedi eu terfynu yn unol ag—

(a)adran 111, 130 neu 138 (tynnu’n ôl), neu

(b)adran 225, 227 neu 230 (gwahardd).

(3)Yr ail amod yw—

(a)bod y llety yn yr annedd yn fwy helaeth na’r hyn sydd ei angen yn rhesymol ar ddeiliad (neu ddeiliaid) y contract sy’n weddill, neu

(b)pan fo’r landlord yn landlord cymunedol, nad yw deiliad (neu ddeiliaid) y contract sy’n weddill yn bodloni meini prawf y landlord ar gyfer dyrannu llety tai.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 8 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I16Atod. 8 para. 8 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

RHESYMAU RHEOLI YSTAD ERAILLLL+C

Sail I (rhesymau rheoli ystad eraill)LL+C

9(1)Mae’r sail hon yn codi pan fo’n ddymunol i’r landlord adennill meddiant o’r annedd am ryw reswm rheoli ystad sylweddol arall.

(2)Caiff rheswm rheoli ystad, yn benodol, ymwneud ag—

(a)yr annedd i gyd neu ran ohoni, neu

(b)unrhyw fangre arall sydd gan y landlord y mae’r annedd yn gysylltiedig â hi, boed oherwydd agosrwydd neu oherwydd y dibenion y’i defnyddir ar eu cyfer, neu mewn unrhyw ffordd arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 8 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I18Atod. 8 para. 9 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2

DARPARIAETH SYLFAENOLLL+C

Darpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i bob contract meddiannaethLL+C

10Mae’r Rhan hon o’r Atodlen hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract meddiannaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 8 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I20Atod. 8 para. 10 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2