Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

105Amrywio cydnabyddiaeth arallLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Pan fo cydnabyddiaeth heblaw rhent yn daladwy o dan gontract diogel, caniateir amrywio swm y gydnabyddiaeth—

(a)drwy gytundeb rhwng y landlord a deiliad y contract, neu

(b)gan y landlord yn unol ag is-adrannau (2) i (4).

(2)Caiff y landlord roi hysbysiad i ddeiliad y contract sy’n nodi swm newydd o gydnabyddiaeth sydd i gael effaith ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(3)Ni chaiff y cyfnod rhwng y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract a’r dyddiad a bennir fod yn llai na dau fis.

(4)Yn ddarostyngedig i hynny—

(a)caiff yr hysbysiad cyntaf bennu unrhyw ddyddiad, a

(b)ni chaiff hysbysiadau diweddarach bennu dyddiad sy’n gynharach na blwyddyn ar ôl y dyddiad pan gafodd swm newydd o gydnabyddiaeth effaith ddiwethaf.

(5)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel y mae cydnabyddiaeth heblaw rhent yn daladwy oddi tano.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 105 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 105 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2