RHAN 7DARPARIAETHAU NAD YDYNT OND YN GYMWYS I GONTRACTAU SAFONOL CYFNOD PENODOL

PENNOD 2GWAHARDD AM GYFNODAU PENODEDIG

I1I2133Gwahardd deiliad contract o annedd am gyfnodau penodedig

1

Caiff contract safonol cyfnod penodol ddarparu nad oes hawl gan ddeiliad y contract i feddiannu’r annedd fel cartref yn ystod y cyfryw gyfnodau a bennir yn y contract.

2

Caiff y contract bennu cyfnodau at ddibenion is-adran (1) drwy gyfeirio at unrhyw faterion y mae’n rhesymol i ddeiliad y contract eu canfod (yn ogystal â thrwy gyfeirio at ddyddiadau penodedig).

F13

Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r Ddeddf hon drwy reoliadau at ddibenion—

a

darparu nad yw is-adran (1) yn gymwys mewn perthynas â chontractau safonol cyfnod penodol o ddisgrifiad penodol;

b

darparu nad yw is-adran (1) ond yn gymwys mewn perthynas â chontractau safonol cyfnod penodol o ddisgrifiad penodol;

c

newid yr hyn y caniateir darparu ar ei gyfer neu ei bennu mewn contract safonol cyfnod penodol o dan is-adran (1) neu (2) (naill ai’n gyffredinol neu mewn perthynas â chontractau safonol cyfnod penodol o ddisgrifiad penodol), neu osod cyfyngiadau ar hynny;

d

pennu o dan ba amgylchiadau y caniateir i gontract safonol cyfnod penodol gynnwys darpariaeth o dan is-adran (1), neu o dan ba amgylchiadau na chaniateir i gontract o’r fath gynnwys darpariaeth o dan is-adran (1), a hynny naill ai’n gyffredinol neu mewn perthynas â chontractau safonol cyfnod penodol o ddisgrifiad penodol;

e

gosod gofynion ar landlord mewn perthynas â chynnwys darpariaeth o dan is-adran (1) mewn contract safonol cyfnod penodol.