Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

135Cyfyngiad ar amrywio

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Ni chaniateir amrywio unrhyw un o delerau sylfaenol contract safonol cyfnod penodol sy’n ymgorffori unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau sylfaenol y mae is-adran (2) yn gymwys iddynt (ac eithrio drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad).

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys i’r darpariaethau sylfaenol a ganlyn—

(a)adran 134(1)(b) a (2) a’r adran hon,

(b)adran 45 (gofyniad i ddefnyddio cynllun blaendal),

(c)adran 52 (cyd-ddeiliad contract yn peidio â bod yn barti i’r contract meddiannaeth),

(d)adran 55 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall),

(e)adran 148 (terfynu a ganiateir),

(f)adran 149 (hawliadau meddiant),

(g)adran 155 (marwolaeth unig ddeiliad contract),

(h)adran 158 (sicrhau contract drwy ddatganiad ffug),

(i)adran 186(2) a (4) (cyfyngiad ar derfynu contract safonol cyfnod penodol yn ystod chwe mis cyntaf meddiannaeth),

(j)adran 196 (cyfyngiad ar ddefnyddio cymal terfynu’r landlord mewn contract safonol cyfnod penodol yn ystod pedwar mis cyntaf meddiannaeth), a

(k)adran 198 (torri’r rheolau blaendal: contractau sydd â chymal terfynu landlord).

(3)Nid yw amrywiad i unrhyw deler sylfaenol arall (ac eithrio drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad) yn cael unrhyw effaith—

(a)oni bai o ganlyniad i’r amrywiad—

(i)y byddai’r ddarpariaeth sylfaenol y mae’r teler yn ei hymgorffori wedi ei hymgorffori heb ei haddasu, neu

(ii)na fyddai’r ddarpariaeth sylfaenol y mae’r teler yn ei hymgorffori wedi ei hymgorffori neu y byddai wedi ei hymgorffori ynghyd ag addasiadau iddi, ond ym marn deiliad y contract effaith hyn fyddai bod sefyllfa deiliad y contract yn gwella;

(b)pe byddai’r amrywiad (boed o fewn paragraff (a) ai peidio) yn golygu bod y teler sylfaenol yn anghydnaws â theler sylfaenol sy’n ymgorffori darpariaeth sylfaenol y mae is-adran (2) yn gymwys iddi.

(4)Nid yw amrywiad i un o delerau contract safonol cyfnod penodol yn cael unrhyw effaith pe byddai’n golygu bod un neu ragor o delerau’r contract yn anghydnaws â theler sylfaenol (oni bai yr amrywir y teler sylfaenol hwnnw hefyd yn unol â’r adran hon mewn ffordd a fyddai’n osgoi‘r anghydnawsedd).

(5)Nid yw is-adran (4) yn gymwys i amrywiad a wneir drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad.

(6)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol, ond nid yw is-adran (2)(k) wedi ei hymgorffori fel un o delerau contract nad yw’n cynnwys cymal terfynu deiliad y contract; mae adran 20 yn darparu—

(a)bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a

(b)na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.