216Seiliau ôl-ddyledion rhent difrifolLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw’r landlord o dan gontract safonol yn gwneud hawliad meddiant ar y sail yn adran 181 neu 187 (ôl-ddyledion rhent difrifol).
(2)Os yw’r llys yn fodlon bod gan ddeiliad y contract—
(a)ôl-ddyledion rhent difrifol ar y diwrnod y rhoddodd y landlord hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract, a
(b)ôl-ddyledion rhent difrifol ar y diwrnod y mae’r llys yn gwrando’r achos ar yr hawliad meddiant,
rhaid iddo wneud gorchymyn adennill meddiant o’r annedd (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).
(3)Mae adran 181(2) neu (yn ôl y digwydd) adran 187(2) yn gymwys er mwyn penderfynu a oes gan ddeiliad contract ôl-ddyledion rhent difrifol.
(4)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i adran 218 (adolygiad gan y llys sirol).
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhn. 9 wedi ei eithrio (1.12.2022) gan 2004 c. 34, a. 33(c) (fel y mewnosodwyd gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 28(2)(c))
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 216 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2A. 216 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2