RHAN 11DARPARIAETHAU TERFYNOL

Rheoliadau

256Rheoliadau

1

Mae unrhyw bŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon—

a

i’w arfer drwy offeryn statudol,

b

yn bŵer y caniateir ei arfer er mwyn gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer gwahanol achosion neu ddisgrifiadau o achos neu ar gyfer gwahanol ddibenion neu ardaloedd,

c

yn bŵer y caniateir ei arfer er mwyn gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer gwahanol fathau neu ddisgrifiadau o gontract meddiannaeth, oni bai bod y pŵer ond yn gymwys mewn perthynas â mathau neu ddisgrifiadau penodol o gontract meddiannaeth, a

d

yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth gysylltiedig, darpariaeth atodol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.

2

Caiff rheoliadau o dan y Ddeddf hon wneud diwygiadau canlyniadol i ddeddfiad, ac eithrio darpariaeth yn y Ddeddf hon, a gwneud addasiadau, diddymiadau a dirymiadau i unrhyw ddeddfiad heblaw am ddarpariaeth yn y Ddeddf hon.

3

Ni chaniateir gwneud rheoliadau y mae’r is-adran hon yn gymwys iddynt oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n cynnwys y rheoliadau (boed ar eu pen eu hunain neu ynghyd â rheoliadau nad yw’r is-adran hon yn gymwys iddynt) wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

4

Mae is-adran (3) yn gymwys i reoliadau o dan—

a

adran 9 (pŵer i ddiwygio’r adran honno),

b

adran 22 (pwerau o ran darpariaethau sylfaenol),

c

adran 56 (pŵer i ddiwygio adran 55),

d

adran 68 (pŵer i ddiwygio adrannau 66 a 67),

e

adran 217 (pŵer i ddiwygio’r adran honno),

f

adran 223 (pŵer i ddiwygio adrannau 220 a 222),

g

adran 229 (pŵer i ddiwygio adrannau 225 i 228),

h

paragraff 17 o Atodlen 2 (pŵer i ddiwygio’r Atodlen honno),

i

paragraff 17 o Atodlen 3 (pŵer i ddiwygio’r Atodlen honno),

j

paragraff 3 o Atodlen 4 (pŵer i newid y terfyniad amser ar gyfer rhoi hysbysiad o ymestyn y cyfnod rhagarweiniol),

k

paragraff 5 o Atodlen 5 (pŵer i ddiwygio’r Atodlen honno),

l

paragraff 4 o Atodlen 7 (pŵer i newid y terfyniad amser ar gyfer rhoi hysbysiad o estyniad o gyfnod prawf),

m

paragraff 13 o Atodlen 9 (pŵer i ddiwygio’r Atodlen honno), ac

n

paragraff 33 o Atodlen 12 (pŵer i ddiwygio’r Atodlen honno).

5

Mae is-adran (3) hefyd yn gymwys i unrhyw reoliadau eraill o dan y Ddeddf hon sy’n diwygio, yn addasu neu’n dirymu unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf Seneddol neu Fesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

6

Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan ddarpariaeth yn y Ddeddf hon nad yw is-adran (3) yn gymwys iddynt, yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.