xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4LL+CCYFLWR ANHEDDAU

PENNOD 2LL+CCYFLWR ANHEDDAU(MAE’R BENNOD HON YN GYMWYS I BOB CONTRACT DIOGEL, POB CONTRACT SAFONOL CYFNODOL A PHOB CONTRACT SAFONOL CYFNOD PENODOL A WNEIR AM GYFNOD O LAI NA SAITH MLYNEDD)

Cyfyngiadau ar rwymedigaethau’r landlord o dan y Bennod honLL+C

96Cyfyngiadau ar adrannau 91 a 92: bai deiliad y contractLL+C

(1)Nid yw adran 91(1) yn gosod unrhyw atebolrwydd ar y landlord os nad yw’r annedd yn ffit i bobl fyw ynddi yn llwyr neu’n bennaf oherwydd gweithred neu anwaith (gan gynnwys gweithred neu anwaith sy’n gyfystyr â diffyg gofal) ar ran deiliad y contract neu feddiannydd a ganiateir i feddiannu’r annedd.

(2)Nid oes rhwymedigaeth ar y landlord yn sgil adran 92(1) na (2) i wneud gwaith nac atgyweiriadau os gellir priodoli’r methiant i gadw mewn cyflwr da, neu fethiant gosodiad gwasanaeth i weithio, yn llwyr neu’n bennaf i ddiffyg gofal ar ran deiliad y contract neu feddiannydd a ganiateir i feddiannu’r annedd.

(3)Ystyr “diffyg gofal” yw methu â gofalu’n briodol—

(a)am yr annedd, neu

(b)os yw’r annedd yn ffurfio rhan yn unig o adeilad, am y rhannau cyffredin y mae gan ddeiliad y contract hawl i’w defnyddio o dan y contract meddiannaeth.

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel, pob contract safonol cyfnodol, a phob contract safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1Aau. 95-97 wedi eu cymhwyso (gydag addasiadau) (1.12.2022) gan 2002 c. 15, Atod. 7 para. 3A(5) (fel y mewnosodwyd gan Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/1166), rhlau. 1(1), 27(2)(b))

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 96 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I2A. 96 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2